Skip to main content

Addysg Ddigidol

Gwnewch i’ch data gyfrif: llunio siartiau a graffiau hygyrch

14 Gorffennaf 2026
Graph

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o’r Academi Dysgu ac Addysgu.

Mae siartiau a graffiau yn offer pwerus ar gyfer cyflwyno data mewn ffordd glir a diddorol ond heb eu llunio’n feddylgar, gallan nhw greu rhwystrau i rai dysgwyr. I fyfyrwyr sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrîn neu’r rhai sydd â nam ar eu golwg, gall delweddau sydd wedi’u llunio’n wael wneud gwybodaeth allweddol yn anodd, neu’n amhosibl, i’w chael.

Nid arfer da yn unig yw creu siartiau hygyrch, mae’n cefnogi ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i addysg gynhwysol ac yn helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus.

Dyma rai ffyrdd syml o wneud eich delweddau’n fwy cynhwysol:

  • Defnyddiwch destun sy’n disgrifio (nid testun amgen yn unig)

Dylai testun amgen roi crynodeb byr o bwrpas y siart, ond dylid egluro’r brif neges yn y testun o’i gwmpas hefyd. Er enghraifft: “Siart bar yn dangos cynnydd o 30% yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd rhwng 2020 a 2024.” Mae hyn yn sicrhau y gall pob defnyddiwr ddeall yr wybodaeth allweddol.

  • Cynhwyswch dablau data a lawrlwythiadau

Mae rhoi’r data sylfaenol mewn tabl yn gwneud siartiau’n hygyrch mewn fformat anweledol. Lle bo’n bosibl, cynigiwch fersiwn y mae modd ei lawrlwytho hefyd (e.e. Excel) er mwyn i ddefnyddwyr ymdrin â’r data mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

  • Defnyddiwch deitlau a labeli ystyrlon

Gwnewch i deitl eich siart wneud mwy na disgrifio, defnyddiwch ef i amlygu’r brif wybodaeth. Lle bo’n bosibl, labelwch ddata’n uniongyrchol yn hytrach na dibynnu ar allweddi, sydd weithiau yn anodd eu dehongli heb ddibynnu ar liw.

  • Peidiwch â defnyddio lliw yn unig i gyfleu ystyr

Ni ddylid defnyddio lliw yn unig i ddangos gwahaniaethau mewn data. Defnyddiwch labeli, patrymau, neu weadau (e.e. streipiau neu smotiau) i wneud categorïau’n glir i ddefnyddwyr sydd â gwahaniaethau golwg lliw.

  • Sicrhewch gyferbyniad a darllenadwyedd da

Dewiswch liwiau â chyferbyniad uchel a chadw’r testun (labeli’r echelinau, allweddi, anodiadau) yn fawr ac yn glir. Defnyddiwch ffont syml, sans serif ac osgoi cylchdroi testun lle bo modd, gan y gall hyn wneud darllen yn fwy anodd.

  • Cadwch bethau’n syml

Ceisiwch osgoi annibendod, megis llinellau grid diangen, effeithiau 3D, neu fathau o siartiau sy’n rhy gymhleth. Mae delweddau clir yn haws i bawb eu deall ac yn fwy hygyrch.

Gwybodaeth bellach

I’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y pwnc, edrychwch ar Restr Wirio Siartiau Hygyrch GOV.UK a chanllawiau Delweddau a Chynnwys Cymhleth W3C am ragor o awgrymiadau, enghreifftiau ymarferol, ac arferion gorau.

Mae’r adnodd newydd, Ystyried Diffyg Golwg Lliw gan yr Academi Dysgu ac Addysgu yn cynnig awgrymiadau, cyngor a strategaethau ymarferol er mwyn gwneud deunyddiau ac adnoddau dysgu yn fwy hygyrch i bobl sy’n byw gyda Diffyg Golwg Lliw (CVD).

Angen cymorth?

Am fwy o awgrymiadau ar wella hygyrchedd, darllenwch y Canllaw Hygyrchedd Digidol heddiw a rhowch hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd addysgu a dysgu eleni.

Cysylltu â ni 

Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer pynciau blog at y dyfodol, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu drwy [email protected].