Cadw ar ben dyddiadau cyflwyno yn Dysgu Canolog
7 Gorffennaf 2026
Ysgrifennwyd yr erthygl blog hwn gan Dai, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae cynllunio a rheoli amser yn effeithiol yn bwysig er mwyn i fyfyrwyr lwyddo yn eu hastudiaethau. Man gennyn ni i gyd fywydau prysur yn rheoli astudiaethau, gwaith, cyfrifoldebau gofal a llawer o bethau eraill, heb sôn am yr angen am amser i orffwys, cymdeithasu a hunanofal. Mae cydbwyso gofynion cystadleuol yn heriol a gall cadw golwg ar ddyddiadau pwysig fel dyddiadau cyflwyno asesiadau helpu’n fawr. Yn y neges blog hon, hoffwn i rannu ambell awgrym ar sut gall myfyrwyr gadw golwg ar ddyddiadau cyflwyno yn Dysgu Canolog, a sut gall arweinwyr modiwl eu helpu hefyd.
Ffrwd Gweithgarwch Dysgu Canolog
Mae dyddiadau pwysig megis dyddiadau cyflwyno sydd ar y gweill wedi’u grwpio gyda’i gilydd ac wedi’u harddangos ar frig y Ffrwd Gweithgarwch, felly mae’n hawdd i fyfyrwyr eu gweld mewn un lle.

Hysbysiadau Dysgu Canolog
Gall myfyrwyr newid amlder a math yr hysbysiadau y maen nhw’n eu derbyn (e.e. hysbysiadau dyddiad cyflwyno) yn Dysgu Canolog. Mae modd cael mynediad at osodiadau hysbysu drwy’r eicon cog yng nghornel dde uchaf y Ffrwd Gweithgarwch. Gall myfyrwyr reoli’r hysbysiadau y maen nhw’n eu derbyn drwy:
- Y Ffrwd Gweithgarwch.
- E-bost.
- Hysbysiadau gwthio yn yr ap symudol (sydd ar gael ar ddyfeisiau Apple acAndroid).

Ar gyfer hysbysiadau gwthio apiau symudol, gall myfyrwyr newid pryd maen nhw’n derbyn negeseuon atgoffa. Un diwrnod ymlaen llaw yw’r rhagosodiad. Ystyriwch newid y gosodiad hwn i gael negeseuon atgoffa yn gynt.

Calendr Dysgu Canolog
Mae dyddiadau o galendrau modiwlau Dysgu Canolog unigol yn cael eu trosglwyddo i’r calendr byd-eang. Gall myfyrwyr newid golwg y calendr i ddangos dyddiadau cyflwyno yn unig.

Cysoni calendr Dysgu Canolog gydag ap calendr
Cewch chi gysoni calendr Dysgu Canolog gydag ap calendr allanol (e.e. Google Calendar) i weld dyddiadau pwysig a chael negeseuon atgoffa ar ddyfeisiau eraill. Gydag apiau fel Outlook neu ap calendr ar eu ffonau, gall myfyrwyr gael negeseuon atgoffa drwy eu hoff apiau. Sut i gysoni calendr Dysgu Canolog:
- Cliciwch ar yr eicon cog yn ochr dde uchaf y calendr cyffredinol.

2. Cliciwch y tri dot wrth ymyl Gosodiadau Calendr a dewis Rhannu calendr.

3. Copïwch y ddolen, ewch i’r ap calendr o’ch dewis, ac ychwanegwch galendr newydd (o URL) i danysgrifio i galendr Dysgu Canolog.

Cyhoeddiadau Modiwlau Dysgu Canolog
Gallai arweinwyr modiwlau drefnu cyhoeddiadau a fydd yn cael eu postio pan fydd dyddiadau cau yn agosáu. Er enghraifft, i’ch atgoffa, gallech chi drefnu cyhoeddiad ar eich modiwl am saith diwrnod cyn dyddiad cyflwyno ar gyfer asesiad sy’n cynnwys copi e-bost a anfonir at e-byst myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd cyhoeddiadau yn ymddangos fel negeseuon naid ym modiwlau Dysgu Canolog pan fydd myfyrwyr yn eu defnyddio, ac ar ôl eu postio, byddan nhw hefyd yn ymddangos yn y Ffrwd Gweithgarwch.

Eisiau gwybod mwy?
Yn y neges blog hon, rwy wedi rhoi ychydig o gyngor y gellir ei rannu â myfyrwyr, a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw ar gyfer cadw golwg ar ddyddiadau pwysig yn Dysgu Canolog, a rhai awgrymiadau ar sut gall arweinwyr modiwlau helpu hefyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am sut gall ymarferoldeb yn Dysgu Canolog eich helpu chi a’ch myfyrwyr, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu [email protected].