Datblygu Meddylfryd Cynhwysol – ymhlith staff a myfyrwyr
19 Mehefin 2026
Cyd-destun
Mae datblygu meddylfryd cynhwysol yn gwahodd staff a myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am y ffordd y mae amrywiaeth yn cyfoethogi dysgu, y ffordd y mae anghydraddoldebau a braint yn dylanwadu ar brofiad academaidd a’r ffordd y gall myfyrwyr gyfrannu’n weithredol at amgylcheddau sy’n fwy cynhwysol. Yn elfen graidd o Becyn Cymorth Datblygu Addysg Prifysgol Caerdydd, mae meddylfryd cynhwysol yn helpu i fynd i’r afael â phryderon ehangach ynghylch tegwch a chyfiawnder cymdeithasol ym maes addysg uwch ac yn cefnogi myfyrwyr i gyfrannu at newid.
Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar dri maes cysylltiedig:
- Gwerthfawrogi amrywiaeth fel adnodd sy’n cryfhau cymunedau dysgu.
- Cydnabod anghydraddoldeb a braint, gan gynnwys cwestiynu gwybodaeth pwy sy’n ganolog i’r pwnc.
- Cefnogi myfyrwyr i hyrwyddo cynhwysiant, gan roi’r sgiliau iddyn nhw i feithrin a chynnal mannau academaidd cynhwysol.
Gweithredu
Un pwyslais allweddol yw cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r hyder a’r gallu i ddod yn “hyrwyddwyr cynwysoldeb”. Mae hyn yn cynnwys meithrin sgiliau ar gyfer deialog, annog cwestiynau allweddol a modelu ymddygiadau cynhwysol mewn rhyngweithiadau dysgu.
Arddangos Arferion
Mae’r adran Datblygu Meddylfryd Cynhwysol ym Mhecyn Cymorth Datblygu Addysg Prifysgol Caerdydd yn dwyn ynghyd enghreifftiau ymarferol o’r ffordd y mae addysg gynhwysol yn cael ei thrafod a’i rhoi ar waith ledled y sefydliad. Drwy astudiaethau achos, awgrymiadau myfyriol ac adnoddau wedi’u curadu, mae’r Pecyn yn tynnu sylw at y ffordd y mae cydweithwyr a myfyrwyr yn ymgysylltu â materion sy’n ymwneud â pherthyn, tegwch, cynrychiolaeth a chynhwysiant mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu. Mae’r deunyddiau hyn yn arddangos arferion disgyblaethol a thraws-sefydliadol sy’n dangos dulliau cynhwysol ar waith, gan helpu i amlygu’r gwaith meddylgar sydd eisoes yn digwydd ledled y Brifysgol.
Effaith
Mae cydweithwyr sydd wedi treialu gweithgareddau sy’n seiliedig ar feddylfryd cynhwysol yn adrodd am drafodaethau cyfoethocach, ymgysylltiad gwell ac ymdeimlad cryfach o gymuned yn y modiwlau. Pan fydd amrywiaeth yn cael ei thrin fel mantais academaidd, mae myfyrwyr yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i gyfrannu a’u gallu i herio rhagdybiaethau. Mae ymgorffori’r arferion hyn hefyd yn cefnogi ymrwymiad sefydliadol Prifysgol Caerdydd i les a pherthyn myfyrwyr a phrofiadau addysgol teg.
Myfyrdodau / Beth sydd nesaf?
Mae datblygu meddyliau cynhwysol yn arfer parhaus a pherthynol. Fel addysgwyr, gallwn ni barhau i ystyried cwestiynau fel:
- Pa safbwyntiau sy’n cael eu cynrychioli yn fy addysg – a pha rai sydd ar goll?
- Sut alla i dynnu sylw at anghydraddoldebau neu ragdybiaethau yn fy nisgyblaeth?
- Ble gallai myfyrwyr gymryd yr awenau wrth lunio amgylcheddau dysgu sy’n fwy cynhwysol?
Gall addasiadau bach a bwriadol fel gwahodd safbwyntiau personol, creu rhestrau darllen mwy amrywiol, neu drafod yn benodol tarddiad gwybodaeth ddisgyblaethol gael effaith sylweddol ar y ffordd y mae myfyrwyr yn profi cynhwysiant.
Man cychwyn
I ysgogi syniadau, dyma ambell gwestiwn i’ch helpu i feddwl am yr agwedd hon ar addysg gynhwysol yn eich cyd-destun eich hun:
- Pa enghraifft, astudiaeth achos neu lais allech chi ei ychwanegu at eich sesiwn addysgu nesaf i ehangu cynrychiolaeth?
- Ble gallai myfyrwyr gymryd rhan weithredol wrth lunio cynhwysiant eich modiwl?
- Beth yw un rhagdybiaeth yn eich disgyblaeth y gallech chi ei dadansoddi gyda’ch myfyrwyr?