Cynhwysiant Digidol a Phrofiad y Myfyrwyr
9 Mehefin 2026
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Dai, Technolegydd Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Ym mis Mawrth ro’n i’n bresennol yng nghynhadledd Digifest 2026 yn Birmingham. Dros ddau ddiwrnod cymerais i ran mewn cyflwyniadau, gweithdai, sesiynau arddangos technoleg, cyfarfodydd cymunedol, a sgyrsiau am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu addysg drydyddol. Gyda dros 60 sesiwn, roedd yn amhosibl gweld popeth, ond roedd gan y sesiynau y bues i’n bresennol ynddyn nhw themâu clir: cynhwysiant digidol a gwella profiad y myfyrwyr mewn cyd-destun cymhleth ac aflonyddgar. Dyma rai o fy myfyrdodau:
Cynhwysiant Digidol
Un thema allweddol oedd yr her o gynhwysiant digidol mewn addysg drydyddol. Ym mhrif gyflwyniad y Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol, roedd neges gref: os ydyn ni’n dylunio ein gwasanaethau neu’n profiadau dysgu heb ystyried y bobl sy’n cael trafferth yn eu cyrchu, rydyn ni’n allgáu pobl o’r cychwyn cyntaf. Ambell beth oedd wedi fy nharo:
- Tlodi digidol. Roedd y sesiynau’n tynnu sylw at sut mae diffyg dyfeisiau, cysylltedd, lleoedd astudio addas, neu ddata symudol nid yn unig yn anghyfleus, ond yn rhwystr rhag cymryd rhan mewn addysg. Bu cynrychiolwyr o Brifysgol Manceinion a Choleg Hull yn trafod sut maen nhw’n defnyddio cynlluniau talebau a banciau dyfeisiau i gefnogi dysgwyr, ac rwy’n llawn edmygedd at waith y Good Things Foundation.
- Sgiliau Digidol. Nid yw mynediad at ddyfeisiau a meddalwedd yn unig yn ddigon heb y sgiliau i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw. Mae hyder a galluoedd digidol yn bwysig hefyd. Mae Coleg Hull wedi sefydlu Academi Deallusrwydd artiffisial (DA) i staff, myfyrwyr a hyd yn oed busnesau lleol i helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau.
- Cynhwysiant Digidol = cynhwysiant cymdeithasol. Roedd hwn yn un pwysig i fi. Os nad oes modd i bobl dalu i barcio, cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, neu ddefnyddio ID digidol, oherwydd does ganddyn nhw ddim dyfais â’r ap cywir, maen nhw’n wynebu rhwystrau i gynhwysiant mewn cymdeithas. Mae cynhwysiant digidol yn mynd y tu hwnt i gampysau prifysgolion.
Y neges allweddol i fi oedd: Nid yw cynhwysiant digidol yn “braf i’w gael”. Mae’n rhaid ei ymgorffori ym mhopeth rydyn ni’n ei ddylunio.
Profiad y myfyrwyr yn y dyfodol: hyblyg a llawn enaid
Drwy drafodaethau ar ddysgu cyfunol, lles, ac addysg drawswladol, roedd un peth yn glir: mae profiad y myfyrwyr yn amrywiol.
Y prif bwyntiau:
- Hyblygrwydd. Mae llawer o ddysgwyr yn delio â gwaith, cymudo, cyfrifoldebau gofalu, a chyd-destunau digidol amrywiol. Mae angen i’n dylunio dysgu a’n gwasanaethau digidol gwrdd â dysgwyr lle maen nhw.
- Cyd-greu mewn dylunio cynhwysol. Ategodd sawl sesiwn nad yw hygyrchedd yn ymwneud ag ymateb a chynnig addasiadau yn unig, mae’n golygu dylunio gyda myfyrwyr, dim ar eu cyfer nhw.
- Sgiliau ar gyfer y dyfodol = pobl + digidol. Roedd prif gyflwyniad Danny Liu ar DA yn pwysleisio rôl enaid mewn addysg. Nid yn unig yn canolbwyntio ar gynnwys a sgiliau, ond helpu myfyrwyr fel bodau dynol llawn, o fagu hyder digidol i feithrin creadigrwydd, lles, a chysylltiad dynol.

Beth mae hyn yn ei olygu i ni ym Mhrifysgol Caerdydd?
Dyma ambell i beth i feddwl amdanyn nhw yn ein hymarfer:
- Cwestiynu ein rhagdybiaethau digidol. Pwy rydyn ni’n eithrio’n anfwriadol?
- Gwella llythrennedd DA i staff a myfyrwyr, yn seiliedig ar ein gwerthoedd.
- Buddsoddi mewn sgiliau digidol yn sylfaen ar gyfer lles, hyder, a llwyddiant.
Gadewais i Digest yn teimlo’n gadarnhaol. Mae’r heriau’n fawr, ond mae gobaith o ran mynd i’r afael â nhw.
Eisiau cymryd rhan?
Os yw’r themâu hyn sy’n ymwneud â chynhwysiant digidol a phrofiad digidol y myfyrwyr o ddiddordeb i chi, cysylltwch â’r Academi Dysgu ac Addysgu ar [email protected].
Bydden ni’n falch iawn o glywed am eich syniadau ac ystyried ffyrdd o helpu staff a myfyrwyr gyda’i gilydd.