Cynllunio Asesiadau ac Adborth Cynhwysol: Grymuso pob myfyriwr
30 Medi 2026Cyd-destun
Mae cyswllt agos rhwng yr angen i gynllunio asesiadau cynhwysol ym maes addysg uwch a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gofyn am ddulliau gweithredu rhagweithiol sy’n lleihau rhwystrau rhag cyfranogiad. Mae ysgolheictod cyfoes yn pwysleisio bod asesu cynhwysol a gynlluniwyd yn gyffredinol o fudd i bob myfyriwr wrth fynd i’r afael ag anghenion carfannau amrywiol, drwy ymgorffori amrywiaeth o ddulliau asesu hygyrch, ochr yn ochr ag arferion adborth sy’n amserol, yn ddeialogaidd ac yn ddatblygiadol (Tai et al., 2019). Mae gennyn ni hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol i asesiadau ar gyfer myfyrwyr anabl, er nad oes disgwyl i ni beryglu safonau cymhwysedd.
Mae asesu cynhwysol yn ddull trawsnewidiol o addysgeg deg. Agwedd allweddol ar asesu cynhwysol yw galluogedd myfyrwyr. Drwy gynnwys dewis, mae dysgwyr yn cael eu galluogi i ddangos eu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u cryfderau a’u diwylliannau. Ar ben hynny, mae datblygu llythrennedd myfyrwyr o ran asesu a’u gwneud yn bartneriaid mewn prosesau adborth yn gwella ymgysylltiad a chyfranogiad, gan gefnogi dysgu dyfnach.
(Tai et al., 2019).
Fodd bynnag, nid arfer niwtral yw asesu. Fel y dadleua Hanesworth et al. (2019), mae’n gysyniad a gafodd ei greu gan gymdeithas, gan adlewyrchu gwerthoedd a oedd yn cael eu ffafrio’n hanesyddol megis rhesymoledd, gwrthrychedd, a mynegiant ysgrifenedig, sy’n gallu rhoi anfantais i fyfyrwyr nad yw eu cefndiroedd addysgol neu ddiwylliannol yn cyd-fynd. O safbwynt Addysgeg sy’n Cynnal Diwylliant, rhaid i gynllunwyr asesiadau holi’n feirniadol wybodaeth pwy sy’n cael ei gwerthfawrogi, a sut mae’n cael ei gwerthuso. O ystyried bod asesu yn cael ei lunio gan gyd-destunau a rhagfarn cymdeithasol-ddiwylliannol addysgwyr, mae angen myfyrio parhaus ar gynllunio cynhwysol.
Gweithredu
Gellir defnyddio dulliau cynhwysol o asesu ar bob lefel, p’un yw’n gwirio a yw deilliannau dysgu wedi’u cyflawni yn ystod gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, neu ar gyfer cyflwyniadau ffurfiannol neu ddarnau crynodol.
Dyma a ddywedodd un myfyriwr: ‘Baswn i’n argymell bod darlithoedd yn gwneud y cysylltiad rhwng asesiadau a deilliannau dysgu yn glir… Gall hyd yn oed cymryd ychydig o amser i’w tywys drwy’r meini prawf marcio a dangos enghraifft neu ddwy o’r hyn sy’n “dda” fynd yn bell.’
Esboniad un aelod o’r staff yn o’i ddulliau: Gwnaeth Dr Aled W Davies o’r Adran Peirianneg Sifil gynnig rhyddid i fyfyrwyr i ddewis y ffordd y maen nhw’n dangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn modiwl gwaith cwrs Lefel 6 sy’n seiliedig ar broblemau, gyda mwy na 120 o fyfyrwyr. Mae’n credu i hyn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol, gofalgar a chymhellol.
Myfyrdodau/beth sydd nesaf:
Ystyriwch yr awgrymiadau hyn yn y Model Gwella Addysg Gynhwysol
A yw:
Modiwlau’n cynnig gweithgareddau dysgu ac asesiadau ffurfiannol sy’n meithrin sgiliau a dealltwriaeth myfyrwyr yn y ddisgyblaeth i’w paratoi at asesiadau crynodol?
Tîm/timau modiwl yn cynllunio ac adolygu asesiadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau amlwg i ddysgu yn cael eu creu ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr?
Briffiau, meini prawf a chanllawiau’r aseiniadau wedi’u cynllunio’n dda, ac a yw pob myfyriwr yn glir ynghylch y gofynion ac yn deall yr hyn a ddisgwylir i gael gradd uchel?
Modiwlau yn cynllunio asesiadau amgen o’r cychwyn cyntaf, gan gynnig y meini prawf asesu a chymhwystra i bob myfyriwr?
Timau modiwlau yn cytuno ar strategaeth adborth a therminoleg i’w defnyddio mewn adborth?
Man cychwyn
Ystyriwch yr awgrymiadau hyn ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu. A ydych yn cynllunio ar gyfer:
•Dewis neu hyblygrwydd wrth ymateb, rhyngweithio, cyflawni gweithgareddau a chydweithio o fewn sesiynau?
•Amrywiaeth o adnoddau, offer a thechnolegau hygyrch ar gyfer mynegi dysgu?
•Dewis neu hyblygrwydd yn y modd y gall myfyrwyr ddangos eu gwybodaeth neu eu sgiliau, fel yn ysgrifenedig, ar lafar neu’n aml-gyfrwng?
•Cymorth sgaffaldiau i fyfyrwyr arddangos sgiliau hanfodol mewn modiwl penodol?
•Cymorth i bennu nodau, cynllunio strategol, rheoli amser a rheoli gwybodaeth?
Cyfeiriadau
Hanesworth, P., Bracken, S., ac Elkington, S. (2019). A typology for a social justice approach to assessment: learning from universal design and culturally sustaining pedagogy. Teaching in Higher Education, 24:1, 98-114
Tai, J., Ajjawi, R., Boud, D., Dawson, P., a Panadero, E. (2018). Developing evaluative judgement: enabling students to make decisions about the quality of work. Higher Education. 6. 467-481