Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Myfyrwyr yn Cefnogi Myfyrwyr: Y gwahaniaeth y mae hyrwyddwyr lles yn ei wneud

24 Medi 2026
Student Wellbeing Champions
Student Wellbeing Champions

Phillip Harris, o’r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu’r blog hwn.

 

Drwy gydol fy rôl fel Cydlynydd Digwyddiadau Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy wedi cael y cyfle i weithio gydag ystod eang o gydweithwyr, myfyrwyr a gwasanaethau cefnogi. Un grŵp sy’n sefyll allan yn gyson yw Hyrwyddwyr Lles Myfyrwyr y Brifysgol.

Mae Hyrwyddwyr Lles yn fyfyrwyr sydd wedi cael hyfforddiant iechyd a lles er mwyn gallu rhoi cymorth i’w cyd-fyfyrwyr. Drwy eu gwybodaeth, eu profiadau bywyd, a’u dealltwriaeth o’r heriau sydd ynghlwm â bywyd yn y brifysgol, maen nhw’n helpu i hyrwyddo hunanofal, codi ymwybyddiaeth o faterion lles, a chysylltu myfyrwyr â’r amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gael ledled y Brifysgol.

Cryfder allweddol y rhaglen yw ei dull a arweinir gan gyd-fyfyrwyr. Mae Hyrwyddwyr Lles yn deall o’u profiad eu hunain realiti bywyd yn y brifysgol ac felly maen nhw mewn sefyllfa unigryw i gynnig arweiniad, rhannu profiadau a helpu eraill i gyrchu adnoddau priodol. Mae hyn yn creu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau, yn ceisio cyngor, neu gael sgwrs gyda rhywun sy’n deall eu profiadau.

Mae’r Hyrwyddwyr Lles yn arwain rhaglen drawiadol o ddigwyddiadau a mentrau drwy gydol y flwyddyn, gan greu cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin cysylltiadau, rhannu profiadau a gwella eu lles. Mae’r rhain yn cynnwys lolfeydd coffi i gymunedau myfyrwyr gwahanol, sesiynau cymdeithasol i fyfyrwyr ôl-raddedig, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gweithgareddau cefnogi cymheiriaid, a digwyddiadau i ddathlu amrywiaeth, cynhwysiant a lles. Maen nhw hefyd yn creu cynnwys ar-lein, podlediadau, erthyglau, ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n annog sgyrsiau agored ac yn helpu i sicrhau bod lles yn parhau i fod yn bwnc gweladwy a hygyrch ledled cymuned y myfyrwyr.

Ochr yn ochr â’r rhaglen hon o weithgarwch, rwy wedi cael y pleser o gydweithio â Hyrwyddwyr Lles mewn nifer o ddigwyddiadau sy’n delio’n uniongyrchol â myfyrwyr. Pryd bynnag y maen nhw’n cymryd rhan, maen nhw’n frwdfrydig, yn bositif ac yn gyfeillgar sy’n gwella’r profiad i bawb sy’n bresennol. Mae eu gallu i ymgysylltu â myfyrwyr a meithrin cydberthynas yn gyflym yn helpu i greu awyrgylch lle mae pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw, eu bod yn cael eu cynnwys, ac sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hyderus wrth ystyried y cyfleoedd a’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.

Drwy ein gwaith ar y cyd mewn digwyddiadau i fyfyrwyr, rwy wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud. Maen nhw’n ymgysylltu’n gyson â’r rhai sy’n bresennol, yn ateb cwestiynau, yn annog cyfranogiad, ac yn meithrin awyrgylch cadarnhaol a chynhwysol. Mae eu cyfranogiad yn aml yn helpu myfyrwyr i feithrin cysylltiadau nid yn unig â gwasanaethau’r Brifysgol, ond hefyd â’i gilydd, gan gryfhau’r ymdeimlad o berthyn sydd mor bwysig i brofiad ehangach y myfyrwyr.

Yr hyn rwy’n ei edmygu fwyaf am yr Hyrwyddwyr Lles yw eu hymrwymiad go iawn i helpu eraill. Maen nhw’n gwella profiad y myfyrwyr ac yn dangos pwysigrwydd caredigrwydd, empathi a chymuned drwy eu gweithredoedd. Mae eu cyfraniad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddigwyddiadau unigol, gan helpu i feithrin diwylliant lle y gellir trafod lles yn agored a lle mae myfyrwyr yn gwybod nad oes rhaid iddyn nhw ddelio â heriau ar eu pennau eu hunain.

Mae llwyddiant rhaglen yr Hyrwyddwyr Lles yn dod nid yn unig o’r gefnogaeth y maen nhw’n ei chynnig yn nigwyddiadau’r Brifysgol, ond hefyd o’r ystod amrywiol o fentrau y maen nhw’n eu harwain drwy gydol y flwyddyn. Boed hynny’n cynnal lolfa goffi, yn cyflwyno ymgyrch lles, yn creu cynnwys sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, neu’n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn digwyddiadau cydweithredol, maen nhw’n gwneud cyfraniad ystyrlon a pharhaol i gymuned y Brifysgol.

O fy mhrofiad fy hun, mae’r Hyrwyddwyr Lles yn rhan amhrisiadwy o Brifysgol Caerdydd. Mae eu hymrwymiad, eu tosturi, a’u gallu i gysylltu ag eraill yn helpu i feithrin cymuned o fyfyrwyr sy’n fwy cefnogol, cynhwysol a chysylltiedig. Mae eu heffaith gadarnhaol yn amlwg yn y myfyrwyr y maen nhw’n ymgysylltu â nhw, y sgyrsiau y maen nhw’n eu hysbrydoli, a’r ymdeimlad cryfach o berthyn y maen nhw’n helpu i’w greu. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â nhw a gweld eu cyfraniad at gymuned Prifysgol Caerdydd yn parhau i dyfu.