Skip to main content

Interniaethau ar y Campws

Mwy nag ymchwil: yr hyn a ddysgais i yn ystod fy interniaeth mewn Canolfan Gydweithio â Sefydliad Iechyd y Byd

24 Medi 2026

Mae Layan Zaben, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Feddygaeth, yn rhannu ei phrofiad o interniaeth ar y campws.

Cyn dechrau fy interniaeth mewn Canolfan Gydweithio â Sefydliad Iechyd y Byd er Dysgu a Gwella Diogelwch Cleifion, roeddwn i’n gweld diogelwch cleifion mewn ffordd weddol syml. Roeddwn i’n deall ei bwysigrwydd, ond yn cymryd yn ganiataol ei fod yn ymwneud ag atal camgymeriadau ym maes gofal iechyd. Yn yr un modd, roeddwn i’n credu mai nod terfynol ymchwil oedd cyhoeddi – sef, papur yn nodi bod prosiect wedi’i gwblhau.

Dros gyfnod fy interniaeth, newidiodd y ddwy ragdybiaeth hyn.

Nid yn unig y cefais i gyflwyniad i faes diogelwch cleifion, ond dysgais i hefyd am y systemau cymhleth sy’n sail i ofal iechyd mwy diogel. Mae diogelwch cleifion yn llawer mwy na lleihau camgymeriadau unigol; mae’n ymwneud â deall pam mae digwyddiadau yn digwydd, dysgu ganddyn nhw, a chynllunio systemau sy’n gwella gofal yn gyson. Drwy weld y gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, cefais i werthfawrogiad newydd o raddfa’r cydweithio a’r dystiolaeth sydd eu hangen i wneud gwelliannau ystyrlon.

Efallai mai’r wers fwyaf a ddysgais i oedd nad yw ymchwil yn dod i ben pan fydd papur yn cael ei gyhoeddi. Mewn sawl ffordd, dim ond y dechrau yw cyhoeddi.

Un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar yr interniaeth oedd cyfrannu at y gwaith o drosi ymchwil yn adnoddau ymarferol a allai greu traweffaith go iawn. Gwnes i weithio ar brosiectau a drawsnewidiodd dystiolaeth yn adnoddau addysgol, cefnogi datblygiad gwefannau i gyfathrebu ymchwil yn fwy effeithiol, ac ystyried y ffordd y gellid ymgorffori canfyddiadau ymchwil mewn addysgu prifysgol. Mae bod yn rhan o waith sy’n pontio ymchwil, addysg ac ymarfer yn dangos y ffordd y gall tystiolaeth ddylanwadu nid yn unig ar ofal iechyd, ond hefyd ar y ffordd y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn cael eu hyfforddi.

Ochr yn ochr â’r wybodaeth dechnegol a enillais i, rhai o’r canlyniadau mwyaf gwerthfawr oedd y sgiliau proffesiynol a ddatblygais i. Roedd cyfweld ag ymchwilwyr yn gofyn i mi fagu hyder yn fy sgiliau cyfathrebu, gofyn cwestiynau meddylgar, a chyflwyno gwybodaeth yn glir i gynulleidfaoedd gwahanol. Drwy roi cyflwyniadau, gwnes i gryfhau fy ngallu i gyfleu syniadau’n effeithiol, tra bod cydweithio â chydweithwyr o gefndiroedd proffesiynol gwahanol wedi dysgu pwysigrwydd gwaith tîm, gallu i addasu, a dysgu gan safbwyntiau eraill i mi.

Gwnaeth y profiadau hyn fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth weithio mewn timau amlddisgyblaethol ac atgyfnerthu pa mor hanfodol yw cyfathrebu ym meysydd ymchwil ac gofal iechyd.

Wrth i mi edrych yn ôl, cynigiodd yr interniaeth hon llawer mwy na chyflwyniad i ddiogelwch cleifion. Gwnaeth newid y ffordd rwy’n meddwl am ymchwil, gan ddangos bod ei heffaith fwyaf yn aml yn dod o’r ffordd y mae’n cael ei throsi’n addysg, yn bolisi ac yn ymarfer, ac nid o’r cyhoeddiad ei hun. Rwy’n gadael gyda dealltwriaeth lawer dyfnach o ddiogelwch cleifion, mwy o hyder yn fy ngalluoedd fy hun, a gwerthfawrogiad go iawn o’r gwaith cydweithredol sy’n ysgogi gwelliant ym maes gofal iechyd.

Am y rhesymau hyn, roedd hwn yn brofiad y baswn i’n ei argymell yn fawr i unrhyw fyfyrwyr sy’n ei ystyried. Mae’n gyfle nid yn unig i ddysgu am faes pwysig, ond hefyd i gyfrannu at waith ystyrlon, datblygu sgiliau proffesiynol gwerthfawr, a gweld drosoch chi eich hun sut gall ymchwil greu traweffaith yn y byd go iawn.

Diolch yn fawr iawn i Dr. Joy McFadzean, darlithydd clinigol diogelwch cleifion, a’r Athro Andrew Carson Stevens, darlithydd clinigol diogelwch cleifion, yn ogystal â Saptarshi am eu harweiniad a’u cefnogaeth wych drwy gydol y profiad hwn.

Interniaethau ar y Campws

Dysgwch fwy am gynllun Interniaethau ar y Campws yr Academi Dysgu ac Addysgu.