Nifer uchaf erioed o ymatebion i Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn JOMEC: Sut wnaeth cynllunio, partneriaeth a chwareusrwydd wneud i hyn ddigwydd.
20 Mawrth 2026
Phillip Harris, o’r Academi Dysgu ac Addysgu, sydd wedi ysgrifennu’r blog hwn.
Mae ysgolion yn gweithio’n galed i annog myfyrwyr i ymgysylltu ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, ond gwnaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) sefyll allan am yr holl resymau cywir eleni, gan gyrraedd y trothwy ar ôl yr wythnos gyntaf, a chyfradd ymateb anhygoel o 72.4% erbyn diwedd yr ail wythnos!
Nid oedd eu dull yn gymhleth, ond roedd angen ymdrech ymroddedig gan dîm bach o staff a oedd yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaid Profiad y Myfyrwyr i gyflwyno ymgyrch â ffocws. Wedi’i seilio ar amseru da, cyfathrebu clir ac ymgysylltiad amlwg â myfyrwyr, enillodd yr ymgyrch fomentwm yn gyflym.
Cyfathrebu a wnaeth darodd deuddeg
Wrth i Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr agor, roedd yr ysgol yn cefnogi ei gweithgarwch stondin drwy ddefnyddio negeseuon wedi’u targedu at fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf. Roedd y rhain yn gyfathrebiadau amserol a helpodd i atgyfnerthu’r ymgyrch drwy egluro’r canlynol:
- beth yw Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr
- pam mae llais y myfyriwr yn bwysig
- sut i gymryd rhan
- ble a phryd byddai stondinau arolwg yn cael eu cynnal a sut i ennill gwobrau

Stondinau gwahanol: Troelli’r Olwyn er Lles
Cafodd llwyddiant JOMEC ei gefnogi’n gryf gan ei gweithgarwch wyneb yn wyneb. Cynhaliodd yr Ysgol gyfres o stondinau hyrwyddo yng nghyntedd JOMEC, dan ofal staff Partneriaid Profiad y Myfyrwyr ochr yn ochr â thîm bach o’r Gwasanaethau Proffesiynol ac un cydweithiwr academaidd cefnogol. Wrth wraidd y stondinau roedd thema o les a gweithgaredd “troelli’r olwyn”, gan greu presenoldeb gweladwy a diddorol yn ystod wythnos gyntaf yr arolwg.
Daeth y cyfuniad hwn ag egni, brwdfrydedd ac wynebau staff adnabyddus at ei gilydd. Yn bwysig, adeiladodd y cydweithrediadau hyn ar berthnasau a ddatblygwyd drwy gydol y flwyddyn drwy fentrau Profiad y Myfyrwyr, digwyddiadau myfyrwyr cydweithredol a sgyrsiau parhaus am les a’r pwysau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu. O ganlyniad, roedd llawer o fyfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus wrth fynd i’r stondin, cael sgwrs, gofyn cwestiynau a chwblhau’r arolwg.
Nid oedd y staff yn sefyll y tu ôl i’r bwrdd yn unig. Cymeron nhw ran. Rhoddon nhw ymdeimlad personol i’r digwyddiad. Nododd Partneriaid Profiad y Myfyrwyr pa mor wych oedd gweld staff yn ymgysylltu’n uniongyrchol â myfyrwyr ac roedd gweld staff yn newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg wrth i dorfeydd o fyfyrwyr heidio o gwmpas y stondin yn creu argraff arnyn nhw.
Cymhellion y mae myfyrwyr yn eu caru (a gynau nos!)
I gadw pethau’n hwyl ac yn ddifyr, cyflwynodd yr ysgol “wobrau seren” i’r olwyn droelli. Er bod cwpl o dalebau sba ar gael, roedd rhan fwyaf y gwobrau yn eitemau cyllideb isel a ddewiswyd i gefnogi lles myfyrwyr, gan gynnwys bariau egni, peli straen, a thalebau coffi. Roedd y detholiad hwn yn adlewyrchu adborth gan fyfyrwyr a ffocws parhaus yr Ysgol ar les.
Yna daeth rhywbeth gwirioneddol gofiadwy, sef moment o greadigrwydd. Daeth Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu a Rheolwr Addysg yr Ysgol i’r stondinau yn gwisgo gynau nos a chapiau cawod i sbarduno chwilfrydedd a dechrau sgyrsiau. Fe weithiodd! Gwnaeth y dull trawiadol hwn danio chwilfrydedd, rhoi gwen ar wynebau pobl ac annog myfyrwyr i stopio a gofyn cwestiynau. Helpodd hyn i sicrhau cyfranogiad cynnar, y nifer uchaf erioed, ar gyfer Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Ar ben hynny, helpodd y dull hwyliog hwn i chwalu rhwystrau a gwneud i’r stondinau hoelio mwy o sylw o’u cymharu â’r mentrau arferol o hyrwyddo arolygon ledled y campws.

Cynllun cydlynol, wedi’i weithredu’n berffaith
Nid oedd llwyddiant JOMEC yn dibynnu ar un syniad mawr. Roedd yn ganlyniad i gynllun cydlynol ac amserol a oedd yn seiliedig ar greu perthnasau â myfyrwyr drwy fentrau Profiad y Myfyrwyr, digwyddiadau ar y cyd, a thrafodaethau parhaus am les a phwysau academaidd. Cyfunodd yr ymgyrch hynod lwyddiannus weithgarwch wyneb yn wyneb gweladwy â chyfathrebiadau strategol a chymhellion wedi’u cynllunio yn feddylgar a chyda mewnbwn gan fyfyrwyr. Roedd gweithgaredd Troelli’r Olwyn er Lles a gynhaliwyd gan JOMEC:
- yn amserol
- yn canolbwyntio ar fyfyrwyr
- wedi’i gyfleu un glir
- wedi’i gefnogi gan dîm bach ond ymroddedig
- yn hwyl!
Yn olaf…
Mae dull JOMEC yn dangos yr effaith y gellir ei gyflawni pan mae ysgol yn buddsoddi amser, egni a gofal yn ei myfyrwyr. Drwy fagu ymddiriedaeth, creu gwelededd a chynnal momentwm, dangosodd JOMEC sut gall cynllunio meddylgar, creadigrwydd a phartneriaeth â myfyrwyr drawsnewid ymgysylltiad ag Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Maen nhw wedi gosod esiampl wych o’r hyn sy’n bosibl drwy gyfathrebu clir a bodlonrwydd i roi cynnig ar rywbeth sydd ychydig yn wahanol.
Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn datblygu model ymgysylltu tebyg neu edrych ar ddulliau sy’n gweddu eich cyd-destun eich hun, gall yr Academi Dysgu ac Addysgu helpu. Cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected]