Gwiriwch cyn i chi rannu: Defnyddio offer integredig i wella hygyrchedd
15 Ebrill 2026
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Heather Pennington ac Alex Stewart o’r Academi Dysgu ac Addysgu.
Mae gwirwyr hygyrchedd wedi’u hymgorffori yn llawer o’r offer digidol rydych chi eisoes yn eu defnyddio. Gallan nhw sganio’ch cynnwys ac amlygu problemau cyffredin mewn dogfennau, cyflwyniadau a deunyddiau dysgu. Mae’r problemau hyn yn aml yn gyflym ac yn hawdd i’w datrys unwaith y byddwch chi’n gwybod ble i edrych.
Beth mae gwirwyr hygyrchedd yn ei wneud?
Meddyliwch am wiriwr hygyrchedd fel gwiriwr sillafu. Mae’n debyg na fyddech chi’n rhannu dogfen heb wirio’r sillafu neu’r gramadeg, a dylai hygyrchedd fod yr un fath. Gall gwirwyr hygyrchedd helpu i:
- Nodi testun amgen sydd ar goll ar ddelweddau
- Nodi strwythurau penawdau aneglur
- Amlygu problemau trefn darllen mewn sleidiau cyflwyno
- Nodi problemau posibl gyda chyferbyniad lliw
Ni allan nhw sylwi ar bopeth, ond maen nhw’n fan cychwyn gwych i nodi rhwystrau cyffredin yn gyflym a gwella hygyrchedd. Mae defnyddio gwiriwr hygyrchedd yn golygu y gallwn ni ddatrys problemau’n gynnar a rhannu deunyddiau yn hyderus i gefnogi ystod eang o fyfyrwyr a chydweithwyr.
Dyma sut i’w defnyddio
Yn Microsoft Word a PowerPoint, mae’r Gwiriwr Hygyrchedd o dan y tab Adolygu. Unwaith y bydd wedi’i agor, bydd yn dangos unrhyw broblemau hygyrchedd a nodwyd ochr yn ochr â chanllawiau clir ar sut i’w trwsio. Mae’n well defnyddio’r gwiriwr hygyrchedd yn gam olaf cyn rhannu neu uwchlwytho eich dogfennau neu sleidiau.


Mae’n werth nodi na all y gwiriwr farnu ansawdd nodweddion fel Testun Amgen. Ar gyfer hyn gallwch gyfeirio at Ganllaw Testun Amgen Microsoft neu’r POET Training Tool am enghreifftiau o ddisgrifiadau testun Amgen effeithiol.
Yn Dysgu Canolog, mae Ally yn cynnig ffordd integredig o wirio hygyrchedd wrth i chi greu neu uwchlwytho cynnwys. Mae’n defnyddio system goleuadau traffig syml i nodi lefelau hygyrchedd ac yn cynnig canllawiau cam wrth gam i’ch helpu i wneud gwelliannau. Mae’r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddatrys problemau hygyrchedd yn Dysgu Canolog gan ddefnyddio Ally.

Mae Ally hefyd yn cynnwys Adroddiad Cwrs sy’n rhoi trosolwg o hygyrchedd ar draws eich modiwl. Gall hyn eich helpu i nodi a blaenoriaethu meysydd i’w gwella. Mae’r adroddiad yn adran ‘Llyfrau ac Offer’ eich modiwlau Dysgu Canolog. Mae’r fideo hwn yn dangos sut i nodi problemau hygyrchedd gan ddefnyddio Adroddiad Cwrs Ally.

Syniadau i gloi
Gall cynnwys gwiriadau hygyrchedd yn eich trefn arferol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae defnyddio’r gwiriwr cyn uwchlwytho neu rannu deunyddiau, a gwneud addasiadau bach lle bo angen, yn dod yn rhan naturiol o ymarfer bob dydd.
Mae gwirwyr hygyrchedd yn offer defnyddiol iawn, ond nid dyma’r unig ateb ac nid yw cwblhau’r gwiriad bob amser yn gwarantu bod y cynnwys yn gwbl hygyrch ac yn gynhwysol. Gall y Canllaw Hygyrchedd Digidol eich helpu i wella hygyrchedd a chynhwysiant ymhellach yn eich ymarfer.
Os hoffech chi gael rhagor o gymorth neu os oes gennych chi syniadau ar gyfer blogiau yn y dyfodol, cysylltwch â ni trwy e-bostio [email protected]. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud cynnwys digidol yn fwy cynhwysol i bawb.