Newid y drefn: Simon Blake OBE (BA 1995) – Ymgyrchu dros gydraddoldeb
20 Rhagfyr 2018Simon Blake OBE (BA 1995) yw Prif Weithredwr Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Mental Health First Aid – MHFA) yn Lloegr, a dirprwy gadeirydd Stonewall UK. Mae’n gyn-Brif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
O edrych yn ôl, roedd yn eithaf amlwg mai gyrfa wedi’i hysgogi gan gyfiawnder cymdeithasol fyddai fy un i. Fodd bynnag, does gen i ddim cof bod canllawiau gyrfaol Radio 1 ynghylch gyrfaoedd ar ddiwedd yr 80au yn cyfeirio o gwbl at elusennau, y trydydd sector neu gyfiawnder cymdeithasol. Felly, yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd y dechreuais ddod o hyd i’m llais a datblygu’r angerdd ynghylch cydraddoldeb sy’n parhau i’m hysgogi hyd heddiw, 23 mlynedd ar ôl graddio.
Mae’r stori’n dechrau ganol y 90au pan oeddwn yn un o sylfaenwyr Grŵp Ymwybyddiaeth o Iechyd Rhywiol Prifysgol Caerdydd (Sexual Health Awareness Group – SHAG). Wyddwn i ddim ar y pryd, ond dyma ddechrau taith fyddai’n fy arwain at weithio i sefydliadau ardderchog fel Brook, y Gymdeithas Cynllunio Teulu a ‘r Fforwm Addysg Rhyw.
Dros amser, tyfodd fy ngyrfa i fod yn fwy amrywiol a dechreuais ganolbwyntio ar hyd a lled iechyd rhywiol a lles, ac yn dilyn hynny, materion ehangach lles a chydraddoldeb. Roeddwn yn Brif Weithredwr Brook (yn galluogi pobl ifanc i fwynhau eu rhywioldeb heb niwed), Dirprwy Gadeirydd y Black Health Agency, Cadeirydd Modelau Rôl ym Maes Amrywiaeth (Diversity Role Models – yn herio bwlio homoffobaidd, biffobaidd a trawsffobaidd yn ysgolion y DU) a Chadeirydd Compact Voice (yn gweithio ar gyfer partneriaethau cryf rhwng y sector wirfoddol a’r llywodraeth), cyn dod yn Brif Weithredwr Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gyda rhan o fy swydd yn ymwneud â chodi hwyl, cefnogi a chynnal sgyrsiau gydag arweinwyr myfyrwyr ar draws ystod eang o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol.
Prifysgolion sy’n llywio newid cymdeithasol. Maent yn fagwrfa o syniadau newydd, egni, prosesau darganfod, creadigrwydd a gweithredu. O gerdded drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd heddiw, fe welwch nifer o fentrau sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Cefais fy nghyffroi’n arw dros y blynyddoedd diwethaf bod fy safbwynt am y byd yn cael ei herio gan syniadau newydd a ffres, sy’n esblygu. Wrth i mi dyfu’n hŷn, mae’n rhaid i mi ofalu fy mod yn symud gyda’r oes. Mae pobl iau yn fy herio i feddwl yn wahanol a chwestiynu’r hyn rwy’n ei gredu. Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddysgir ar draws cenedlaethau.
Mae’r sgyrsiau hyn yn dangos i mi fod pobl ifanc yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fyw mewn byd sy’n prysur newid, yn union yr un modd ag y gwnaethom ninnau yn ystod ein harddegau a’n hugeiniau. Os ystyriwch pa mor bell rydym wedi teithio ar gymaint o faterion cyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig hawliau LGBT dros oddeutu’r ugain mlynedd diwethaf, mae pethau’n dra gwahanol erbyn hyn.
Mae cymaint i’w ddathlu. Serch hynny, wrth gwrs, mae heriau go iawn o hyd. Yn aml, mae bwlch mawr rhwng y gyfraith, polisi, disgwrs y cyfryngau a phrofiad byw ambell bobl. Mae’r hyn sy’n gyfraith gwlad a beth yw profiadau pobl ar y stryd yn aml yn ddeubeth gwahanol iawn.
Wrth i mi ddechrau pennod newydd gyda MHFA Lloegr, sefydliad â’r nod o hyfforddi pobl mewn Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl, meithrin llythrennedd ynghylch iechyd meddwl a gostwng stigma, rwy’n fwy ymwybodol nag erioed mai dau gam ymlaen ac un cam yn ôl yw natur cynnydd yn aml. Mae ennill hawliau’n anodd, ni ellir eu cymryd yn ganiataol ac mae’n rhaid eu gwarchod.
Mae anghydraddoldeb wedi’i fewnosod yn strwythurol yn ein cymdeithas. Hyd nes bod pawb yn y DU yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chymorth iechyd meddwl, cael mynediad at erthylu sy’n ddiogel a chyfreithiol, byw heb ofni hiliaeth, trawsffobia neu fathau eraill o ragfarn, a cherdded ar y stryd yn dal dwylo’r person maen nhw’n ei garu, waeth beth yw eu rhywedd neu hunaniaeth rywiol, mae gennym waith i’w wneud o hyd.
Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) – Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Hefyd yn y gyfres:
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018