Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Helen Molyneux (LLB 1987) – Monumental Welsh Women

20 Rhagfyr 2018
Helen Molyneux (LLB 1987)
Helen Molyneux (LLB 1987)

Helen Molyneux (LLB 1987) yw’r unigolyn y tu ôl i ‘Monumental Welsh Women’ – grŵp sydd eisiau codi cerflun cyntaf Caerdydd i anrhydeddu menyw o Gymru.

Felly, pam cerflun? Efallai ei fod yn ymddangos yn hen ffasiwn, ond rwy’n gredwr cryf yn yr hen ddywediad ‘fedrwch chi ddim bod yr hyn na allwch weld’.

Mae cerfluniau cyhoeddus yn dathlu bywydau a chyflawniadau anhygoel. Fodd bynnag, maent yn gymaint mwy na hynny. Maent yn ddatganiadau cymdeithasol o werth, yn arwydd mai dyma’r math o bobl sy’n uchel eu parch mewn cymdeithas. Yng Nghaerdydd, mae’r bobl hynny wedi’u hanfarwoli o’n cwmpas. Os ewch am dro o ganol dinas Caerdydd i’r Cei, byddwch yn mynd heibio i ffigurau mor amrywiol ag Arglwydd Bute, Nye Bevan ac Ivor Novello.

Her i chi – faint o’r cerfluniau hynny sy’n rhai o fenywod (go iawn)? Nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ar draws Cymru gyfan.

Ildio? Yr ateb yw dau gerflun yn unig. Y Frenhines Victoria (oedd yn amlwg ddim yn Gymraes) a Boadicea.

Pan ddarllenais hynny am y tro cyntaf – mewn erthygl gan y newyddiadurwraig Carolyn Hitt – cymaint oedd fy syndod hyd nes i fi benderfynu ymchwilio i’r mater. Cefais sioc gan yr hyn a ganfûm. Nid y diffyg cerfluniau oedd yr unig broblem: roedd hefyd yn anodd hyd yn oed dod o hyd i straeon menywod a ‘gyflawnodd’ rywbeth. Roedd petai’n cael ei gymryd yn ganiataol, os nad ystyriwyd bod unrhyw fenyw yn haeddu cerflun, y rheswm syml dros hynny yw am nad oes unrhyw fenyw sy’n werth ei dathlu.

Yn arwyddocaol ddigon, pan luniodd Monumental Welsh Women restr o gant o fenywod sydd wedi cael effaith sylweddol ar draws ystod o feysydd, o wleidyddiaeth a’r celfyddydau i feddyginiaeth a phensaernïaeth, yn ôl rhai pobl, roedd y menywod ar ein rhestr “braidd yn astrus”! Rhaid i ni eu hamlygu’n union am eu bod yn astrus – am nad yw eu cyflawniadau wedi’u cofnodi na’u cydnabod yn briodol.

Mae angen cerfluniau o fenywod amlwg arnom ni fel bod merched (a bechgyn) yn meddu ar ddelweddau bob dydd o fenywod llwyddiannus ac ysbrydoledig, sy’n rhan annatod o’u milltir sgwâr.

Gyda lwc, bydd bod yn fenyw lwyddiannus yn rhywbeth cyffredin ryw ddydd. Nid peth prin, egsotig, neu nodedig yn rhinwedd rhywedd.

Unwaith bod gennym gerfluniau o fenywod ledled Cymru sydd wedi cyflawni pethau anhygoel, fydd ddim rhaid i ni sôn am y ffaith mai menywod ydynt; yn hytrach cawn, yn syml, ein hysbrydoli gan eu cyflawniadau, a chydnabod eu cyfraniadau i Gymru a’r byd.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Nia Jones (Environmental Geography 2016-) and Douglas Lewns (Environmental Geography 2017-) – The No Straw Stand

Hefyd yn y gyfres: