Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Ysgol Haf Niwrowyddoniaeth Beunyddiol a Chwsg Rhydychen

15 Awst 2016

Mae’r cysylltiad cynhenid rhwng cwsg a iechyd meddwl wedi cael ei anwybyddu a’i wrthod yn y gorffennol. Mae sylwadau a hanesion unigolion, ynghyd â gwaith ymchwil, wedi profi y gall cwsg fod yn ffactor o ran iechyd meddwl ac, i’r gwrthwyneb, y gall iechyd meddwl gael effaith ar gwsg.

Rwy’n fyfyriwr PhD ail flwyddyn mewn Geneteg Niwroseiciatrig Clinigol MRC a Genomeg, ac rwy’n gwneud gwaith ymchwil ar gwsg plant a phobl ifanc â syndrom dileu 22q11.2.

Mae gan un o bob ~2,000-4,000 plentyn y syndrom genetig prin hwn ers eu geni. Ei brif nodwedd yw colli rhan helaeth o DNA ar y ‘fraich’ fawr (q) ar bwynt ‘11.2’ ar yr 22 gromosom, sy’n cynnwys tua 40 o genynnau â gwahanol swyddogaethau.

Mae’r genynnau hyn yn rheoli gweithgarwch corfforol, seiciatrig a niwrolegol mewn pobl. Heb y genynnau hyn, golygir bod gan yr unigolion duedd parod i ddatblygu nifer o broblemau corfforol a seiciatrig, ond ychydig iawn a wyddwn am arferion cysgu’r unigolion hyn. Maent 25-30% yn fwy tebygol o gael sgitsoffrenia – un o’r cyflyrau seiciatrig amlycaf sydd â chysylltiad pendant â thrafferth cysgu.

Mae’n flaenoriaeth, felly, cynnal gwaith ymchwil ynglŷn â’r cysylltiad rhwng cwsg a chyflyrau seiciatrig ymysg y plant hyn. Bwriadaf ddechrau ar y gwaith trwy ddeall y cysylltiad rhwng cwsg a chyflyrau seiciatrig sydd â syndrom dileu 22q11.2. Nid risg gynyddol o sgitsoffrenia yn unig a ddaw yn ei sgîl, ond tuedd gynyddol o ddatblygu cyflyrau eraill hefyd, megis anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd (ADHD), cyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, gorbryder a chyflyrau niwrolegol megis epilepsi. Mae cwsg yn ffactor ym mhob un o’r cyflyrau hyn, ond faint o effaith mae’n ei gael ar y cyflyrau â syndrom dileu 22q11.2? Byddai deall y cysyniad o gwsg yn fanwl yn rhoi sylfaen imi yn fy ymchwil ar arferion cwsg y plant hyn.

A minnau’n gymharol ddibrofiad o ran cynnal gwaith ymchwil am gwsg, rwy’n croesawu pob cyfle i ddeall y maes yn well. Byddai ymgysylltu ag unigolion â  diddordebau tebyg mewn cwsg a niwrowyddoniaeth beunyddiol yn werthfawr. Rwy’n ddigon ffodus o fod â chyfaill sy’n gwybod ei bethau ym maes meddyginiaeth cwsg, wedi iddo gymryd rhan yn yr Ysgol Haf o’r blaen. O ganlyniad, anfonais innau gais i gael mynd eleni ac roeddwn yn ffodus iawn o gael fy nerbyn ynghyd â 59 o unigolion eraill. Roedd yn gyfle i ymdaflu fy hun i fyd cwsg, gan ganolbwyntio ar y pwnc gydag unigolion sy’n rhannu’r un diddordebau â mi.

Mae Sefydliad Niwrowyddoniaeth Beunyddiol a Chwsg, Prifysgol Rhydychen (https://www.ndcn.ox.ac.uk/research/sleep-circadian-neuroscience-institute) yn sefydliad o’r radd flaenaf mewn ymchwil, arloesedd a chyfathrebu ym maes niwrowyddoniaeth beunyddiol a chwsg. O dan arweiniad yr Athro Russel Foster, niwrowyddonydd beunyddiol byd-enwog, mae’r sefydliad hwn yn cynnwys gwybodaeth ac arbenigeddau’r Athro Colin Espie a Dr Simon Kyle.

Mae’r sefydliad yn cynnal ysgol haf flynyddol, sy’n dod â gwyddonwyr, clinigwyr a seicolegwyr clinigol sy’n dechrau eu gyrfaoedd ar draws y byd oll ynghyd i gyflwyno eu gwaith ymchwil. Yn ogystal, traddodwyd darlithoedd gan yr arbenigwyr blaenllaw hyn yn ystod yr wythnos a ddangosodd y gwaith a gaiff ei gynnal gan Rydychen ac ym Mhrydain, yr Almaen, ac UDA yn bennaf.

Classroom

Roedd deinameg yr ysgol haf yn cynnig ei hun i drafodaeth eang a chyfleoedd i holi. Gofynnwyd i bawb oedd yn bresennol gyflwyno un sleid Powerpoint â thrafodaeth 90 eiliad am eu gwaith ymchwil cyfredol. Roedd hyn yn her, ac eto, roedd gorfod crynhoi fy ngwaith ymchwil a throsglwyddo’r wybodaeth yn effeithiol ac yn eglur mewn amser byr, yn ymarfer gwych.

Gwnaethom gyflwyniadau grŵp hefyd ar niwrowyddoniaeth beunyddiol. Canolbwyntiodd ein grŵp ni ar esblygiad rhythmedd beunyddiol, gan ddechrau gyda dinosoriaid! Fe wnaethom oll gyflwyno ein posteri am ein gwaith ymchwil. Roedd hwn yn gyfle gwych i glywed am yr holl brosiectau ymchwil eraill sy’n cael ei gynnal ym Mhrydain a thu hwnt. Roedd cymysgu â phawb mewn awyrgylch hamddenol, anffurfiol yn gyfle ardderchog i glywed am yr ymchwil a gynhelir, a llwyddais i wneud ambell gysylltiad pwysig a chyfeillion o’m maes i.

Galluogodd yr ysgol haf imi ystyried cwsg mewn ffordd na allwn gynt. Dysgais lawer ymhlith gwyddonwyr cwsg a niwrowyddonwyr beunyddiol ynghylch bioleg cysgu yn ogystal â thechnegau ac astudiaethau. Mae wedi helpu i lywio fy ngwaith ymchwil, gan newid y ffordd y byddaf yn ymdrin â’r pwnc a’r technegau y byddaf yn eu defnyddio. Dysgodd yr wythnos imi’r ffordd orau o ystyried fy mhwnc a’r hyn sy’n rhaid ei wneud i fod yn llwyddiannus yn y maes.

Mae Hayley Moulding yn derbyn cyllid PhD gan yr MRC (y Cyngor Ymchwil Meddygol)