Skip to main content

Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Efallai fod merched yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol, ond mae eu profiad yn llawer llai hapus

1 Medi 2016
sad girl sitting and  thinking in the classroom
sad girl sitting and thinking in the classroom

Mae’r trafodaethau arferol am brofiadau ysgol plant yn aml yn canolbwyntio ar lwyddiant academaidd, datblygiad personol a gwerthusiadau ysgol. Gofynnwch i athro, rhiant neu wneuthurwr polisi beth yw’r peth pwysicaf y dylai ysgol ei gynnig a bydd llawer yn ateb addysg: maen nhw am weld plant yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau fydd yn eu helpu i adeiladu gyrfa a thyfu’n oedolion llwyddiannus.

Wrth gwrs, maen nhw’n ystyried elfennau mwy personol yr ysgol hefyd. Does neb am weld plentyn yn cael ei fwlio neu ei osod mewn sefyllfaoedd anniogel. Eto i gyd, wrth i’r pwyslais ar gymwysterau, perfformiad, graddio ysgolion ac atebolrwydd athrawon gynyddu, mae’n bryd ystyried ei bod yn bosib fod elfennau cymdeithasol amgylchedd yr ysgol yn cael eu cymryd yn ganiataol, neu o leiaf yn cael eu cysgodi gan y trafodaethau addysgol hyn.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae ein grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn dadansoddi’r gwahaniaeth yng nghanfyddiad bechgyn a merched o’u profiadau ysgol. Mae ein hastudiaeth, sy’n cynnwys tua 1,500 o ddisgyblion mewn 29 o ysgolion cynradd ac uwchradd gwahanol ar draws Cymru wedi datgelu gwybodaeth werthfawr – gan gynnwys bod merched yn llai hapus yn yr ysgol na bechgyn.

Sut gall hyn fod? Yn draddodiadol, mae merched yn sicrhau gwell graddau na bechgyn yn yr ysgol, ond pam nad ydyn nhw mor hapus â’u cyfoedion gwrywaidd?

Rydym ni wedi holi disgyblion am nifer o eitemau gan gynnwys amgylchedd dysgu eu hysgol a nodweddion y sefydliadau hyn fel safleoedd cymdeithasu, llwyddiant personol a llesiant goddrychol. Yn gyffredinol, rydym ni wedi canfod sawl gwahaniaeth pwysig yn y modd mae’r cyfranogwyr yn teimlo at eu haddysg, ar sail eu rhyw.

Roedd disgyblion benywaidd yn fwy cadarnhaol am yr ysgol fel sefydliad na’r bechgyn er enghraifft. Roedden nhw’n teimlo bod gan staff yr ysgol ddisgwyliadau uchel ac yn gwobrwyo marciau a chynnydd uchel, gan ddangos gofal am eu cyflawniad academaidd. Fodd bynnag roedd eu hymateb am y ffordd maen nhw’n teimlo yn yr ysgol yn bur wahanol.

Roedd yn agos i 25% o ddisgyblion benywaidd yn dweud eu bod yn teimlo’n bryderus yn yr ysgol, o’i gymharu â 16.5% o’r bechgyn; roedd tua 24% o’r merched yn teimlo nad oedden nhw’n ‘perthyn’ yn yr ysgol, o’i gymharu â 8.8% yn unig o’r bechgyn. Yn ogystal, roedd yn agos i 20% o’r merched yn anghytuno bod eu hysgol yn lle ble’r oedd ‘fy athrawon yn fy adnabod i’n dda’ o’i gymharu â 12% o’r bechgyn oedd yn cyfrannu. Yn anffodus, dyw ymatebion ein cyfranogwyr ddim yn gwella wrth iddyn nhw symud drwy’r ysgol. Cafodd y cwestiynau hyn eu hailadrodd mewn arolygon blynyddol ychwanegol ac nid yn unig roedd yr ymatebion negyddol yn parhau, mewn rhai achosion roedden nhw’n cynyddu.

Rhywedd ac addysg

Mae astudiaethau blaenorol gan Gymdeithas Seicolegol America ac UCAS yn y DU wedi canfod bod merched yn gyffredinol yn perfformio’n well yn y rhan fwyaf o bynciau ysgol (neu bob un) na bechgyn, a bod y duedd hon i’w gweld mewn gwledydd niferus ers dechrau’r 20fed ganrif. Mae’r cyfryngau’n aml yn hyrwyddo’r canfyddiadau hyn drwy fath o banig moesol, gyda grwpiau eiriol yn digalonni wrth iddyn geisio mynegi canfyddiad o fygythiad i ddatblygiad a llwyddiant disgyblion gwrywaidd yn y dyfodol.

Yn aml caiff y ‘bwlch rhywedd’ yn y byd addysg ei briodoli i ddiffyg athrawon gwrywaidd. Fodd bynnag mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi awgrymu nad yw rhywedd athro’n cael unrhyw effaith fesuradwy ar lwyddiant academaidd disgyblion. Yn hytrach, mae merched i’w gweld yn gwneud yn well am fod ganddyn nhw ganfyddiadau cadarnhaol o addysg, maen nhw’n darllen mwy, yn astudio mwy (astudiaeth o America ond mae ein hymchwil yn ategu hyn) a’u bod yn ymddwyn yn well na bechgyn.

Er bod cyflawniad academaidd is bechgyn yn yr ysgol yn destun pryder, mae’n bryd cydnabod er bod merched efallai’n perfformio’n well yn yr ysgol na bechgyn, bod y profiadau hyn yn aml yn llawn teimladau cryf o amheuaeth, dieithrwch a phryder.

Ysgolion fel mannau cymdeithasol

Mae ysgolion yn llawer mwy na mannau i ddysgu, maen nhw hefyd yn safleoedd soffistigedig o weithgaredd cymdeithasol. Mae’r un agweddau cymdeithasol, arferion a disgwrs a geir y tu allan i’r ysgol yn bodoli o fewn crwsibl yr amgylcheddau micro-gymdeithasol hyn. Mae’n bwysig cofio nad yw disgyblion yn diosg cymhlethdodau blaenlencyndod wrth fynd drwy ddrws yr ysgol. Os unrhywbeth, cânt eu dwysau i rai.

I ddisgyblion benywaidd yn ein hastudiaeth ni, mae gwirioneddau bywyd menyw ifanc mewn cymdeithas sydd wedi’i threfnu’n batriarchaidd yn parhau wedi’u gwreiddio’n echblyg ac ymhlyg yn arferion cymdeithasol addysgu. Er enghraifft mae delwedd y corff a gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol yn bynciau amlwg sy’n gysylltiedig â phwysau sydd o bosibl yn cynyddu problemau emosiynol merched. Mae ymatebion i’r materion hyn yn aml yn canolbwyntio ar eu heffaith ar fywydau merched heb gydnabod sut y caiff canfyddiadau o gyrff menywod mewn cymdeithas eu creu a’u hatgynhyrchu ac mae ysgolion yn rhan o greu’r broses hon.

Er bod ymdrechion swyddogol yn cael eu gwneud i gau’r ‘bwlch rhywedd’, rhaid gwneud gwell ymdrech i ddeall a gwella profiad a llesiant cymdeithasol disgyblion (yn enwedig merched) yn yr ysgol.

Gall ymgysylltu yn hytrach na chilio oddi wrth gysyniadau fel hylifedd rhywedd ym mhrosesau dyddiol yr ysgol a deunyddiau cwricwlwm gynnig cyfleoedd dysgu dilys i ymdrin â chysyniadau hunaniaeth a rhywedd.

Mae cyrff fel Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr a’r Gymdeithas Rhywedd ac Addysg eisoes ar flaen y gad, yn llunio canllawiau i athrawon roi arferion beirniadol, trawsnewidiol ar waith yn y dosbarth. Yn ogystal ag ymgysylltu’n ymarferol gyda rhywedd a hunaniaeth – elfennau sy’n effeithio ar fywyd pob disgybl yn yr ysgol – mae gan y ceryntau athronyddol a geir yn yr arferion addysgu newydd a datblygol hyn y potensial i lywio a bywiogi ethos addysgol mwy cynhwysol i ysgolion, ac amgylchedd cefnogol a difyr i ddisgyblion.

Dr Kevin Smith, Uwch darlithydd, Prifysgol Caerdydd

Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn The Conversation

Mae’r ymchwil WISERD a drafodwyd yn yr erthygl hon wedi elwa o gyllid gan Gynor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).