Sut ydych chi?
2 Chwefror 2017Yn 2015, fe es i Ysgol Gaeaf Prifysgol Caerdydd mewn Seiciatreg. Fel myfyrwyr meddygol ail flwyddyn, roedden ni i gyd newydd orffen bloc o bythefnos mewn seiciatreg ac roedd pawb yn llawn cyffro am seiciatreg.
Ynghyd â’r rhwydweithio a’r sesiynau grŵp, cawsom sgyrsiau gan unigolion oedd â phrofiad o salwch meddwl. Ar y pwynt hwn roeddwn i’n dioddef problemau iechyd meddwl fy hun ac wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda therapïau gwybyddol ymddygiadol (CBT) i deimlo’n well. Rwy’n cofio eistedd yn un o’r sgyrsiau hyn a gwrando’n astud ar bob gair. Er bod salwch yr unigolyn hwn wedi bod yn llawer mwy difrifol na fy un i, roeddwn i’n gallu uniaethu â phopeth roedd hi’n ei ddweud. Y teimlad mai dim ond fy meddwl a allai fy nhrwsio i, ond mai fy meddwl oedd wedi torri. Yr angen i fynegi rhywsut y ffordd roeddwn i’n teimlo ac i bobl wrando arna i go iawn. Yr angen i rywun gydnabod mor galed roeddwn i’n gweithio i deimlo’n well. Roedd y person yma’n teimlo’r un fath. Roedd yn deall. Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun.
Dyna pryd y sylweddolais i fod straeon pobl eraill yn gallu cael effaith enfawr.
Pan gysylltodd Munzir Quraishy â fi gyda’r syniad o wneud ffilm i’n Cydran o Ddewis y Myfyriwr yn y drydedd flwyddyn, roeddwn i ar unwaith yn awyddus i gymryd rhan. Rwyf i wastad wedi bod yn awyddus i ddysgu am y broses o gynhyrchu ffilm ac roedd hwn yn gyfle i fi ddilyn dau hoffter ar yr un pryd.
Er ein bod ni’n awyddus i ddechrau i ganolbwyntio ar therapi electrogynhyrfol (ECT), yn fuan sylweddolon ni y byddai’n well canolbwyntio ar bwnc ehangach i ddechrau. Stigma iechyd meddwl oedd y dewis amlwg.
Daeth Munzir yn arweinydd ffilm y Gydran Ddewisol, gan recriwtio cleifion drwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a chynnal cyfweliadau cychwynnol. Fi oedd yr arweinydd ymchwil a dechreuais i wneud cais am gymeradwyaeth foesegol ac ymchwilio i holiaduron stigma y gallen ni eu rhoi i fyfyrwyr meddygol.
Bloc saith wythnos o hyd yw’r Gydran o Ddewis y Myfyriwr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, ond roedd llawer o waith i’w wneud y tu allan i’r cyfnod hwnnw i gwblhau ein prosiect uchelgeisiol. Roeddem ni ar leoliad ysbyty llawn amser ac ar adegau roedd yn anodd, ond roedden ni’n dau’n hynod o frwd dros wneud iddo weithio. Hefyd cawsom ni gefnogaeth wych gan oruchwylwyr y Cydrannau o Ddewis y Myfyriwr, a fydden ni ddim wedi gallu gwneud hwn hebddyn nhw.
Erbyn i ni gyrraedd cyfnod y Gydran o Ddewis y Myfyriwr, roedd y gwaith rhag-gynhyrchu fwy neu lai’n gyflawn. Treulion ni’r pythefnos cyntaf yn ffilmio, y drydedd wythnos yn golygu a’r pedair wythnos olaf yn casglu ac yn dadansoddi ein data ymchwil.
Fi oedd yn gyfrifol am gyfweld â’r pedwar seiciatrydd yn y ffilm, oedd yn golygu pan ddaeth yn bryd ffilmio’r tri unigolyn â phrofiad o salwch meddwl roeddwn i’n gallu eistedd yn ôl a gwrando ar eu straeon. Roedd yn brofiad anhygoel. Mae gan Mair, George a Laura straeon anodd i’w hadrodd, ond maen nhw’n eu hadrodd gyda’r fath onestrwydd ac yn agored iawn. Mae pob un mor frwd dros godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, mae wedi tanio angerdd ynof i hefyd i wneud yr un fath. Cefais gwrdd â phobl ryfeddol wrth wneud y ffilm, ac rwyf i’n dal i gysylltu â rhai ohonyn nhw o hyd.
Rwyf i’n eithriadol o falch o’r hyn a gyflawnwyd gennym ni mewn amser mor fyr ac rwy’n dal i edrych am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Rwyf i ar hyn o bryd yn rhedeg cystadleuaeth gelf gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ar bwnc iechyd meddwl. Bydd y gwaith celf i’w weld mewn arddangosfa ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Myfyrwyr ar 2 Mawrth yn Adeilad Haydn Ellis. Rwyf i’n eiddgar iawn i weld prosiect arall yn dwyn ffrwyth a gobeithio y bydd llawer mwy i ddod.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016