Pam mae ymwybyddiaeth ofalgar yn bwysig ym maes addysg feddygol
18 Gorffennaf 2017Mae’r darn hwn yn seiliedig ar bapur sy’n ail rifyn The British Student Doctor Journal, a gaiff ei argraffu gan Wasg Prifysgol Caerdydd.
Mae nifer o heriau sy’n gysylltiedig â bod yn feddyg ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli straen, lludded a chynnal iechyd meddwl da ac agwedd iach at hunanofal. Mae heriau eraill yn cynnwys gweithio mewn amgylchedd sy’n mynd yn fwy prysur ac yn eich drysu, lle mae’n arferol eich bod yn gwneud gwaith cymhleth o aml-dasgu. Ymysg hyn mae nifer arswydus o uchel o wallau diagnosteg a meddyginiaeth yn cael eu gwneud, sydd â goblygiadau enfawr ar les doctoriaid, cleifion a’u teuluoedd a’r system gofal iechyd.
Mae angen dod o hyd i strategaethau a fydd yn helpu doctoriaid i fynd i’r afael â heriau tebyg, a gweithredu’r rhain. I ficroreoli sylw i’r amgylcheddau cymhleth hyn, a dysgu mwy am sut i ymdrin â diwrnod prysur, un eiliad, un swydd ac un claf ar y tro. Oherwydd hyn, a rhesymau eraill, mae mwy o ysgolion meddygol ac ysbytai yn troi at arferion fel ymwybyddiaeth ofalgar, sydd â manteision amrywiol iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau straen sy’n ymwneud â gwaith a lludded, yn ogystal â chynyddu hunanofal a thosturi. Mae hefyd mwy o waith yn dod i’r amlwg sy’n nodi y gall helpu lleihau gwallau clinigol.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull syml o wella ein gallu i ymgysylltu a chynnal ein sylw, ar yr un pryd â meithrin agwedd fwy agored a thosturiol ar yr adeg honno. Caiff ei datblygu drwy arfer ffurfiol o fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar a’r arfer anffurfiol o fod yn ystyriol wrth i ni ymdrin â’n bywydau bob dydd.
Mae’r erthygl, Why Mindfulness Matters in Medical Education, yn rhoi ychydig o’r rhesymeg y tu ôl i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar ym maes addysg feddygol ac arfer, yn ogystal â disgrifio’r dull sydd gennym ym Mhrifysgol Monash, Awstralia, o addysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Mae hefyd yn rhoi dolenni at ragor o adnoddau, gan gynnwys cwrs cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Monash, a’i leoli ar blatfform FutureLearn y DU.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016