Skip to main content

Iechyd ac Iechyd Meddwl

Pa bris iechyd meddwl myfyrywr?

9 Mai 2017

Yng Nghymru, mae meddyginiaethau presgripsiwn yn rhad ac am ddim. Yn Lloegr, mae’r sefyllfa’n wahanol, ac mae pob eitem ar bresgripsiwn bellach yn costio £8.60. Gellir hawlio eithriadau, gan gynnwys gan bobl sy’n 60 oed neu’n hŷn, yn iau na 16, neu’r rhai sydd rhwng 16-18 ac mewn addysg amser llawn. Mae eithriadau hefyd yn bodoli i bobl â rhai cyflyrau meddygol penodol, i bobl ar incwm isel, i fenywod beichiog, a menywod sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 12 mis diwethaf. I bobl nad ydynt yn gymwys am eithriadau, gellir lleihau’r costau drwy dystysgrifau talu ymlaen llaw.

Nid yw myfyrwyr sy’n 19 oed neu’n hŷn yn cael eu heithrio’n awtomatig rhag talu costau presgripsiwn yn Lloegr. Fel yr adroddwyd ar y BBC yr wythnos ddiwethaf, gallai hyn fod yn cael effaith negyddol ar fyfyrwyr sy’n cael meddyginiaeth i drin cyflyrau iechyd meddwl. Yn ei adroddiad mae’r BBC yn cynnwys cyfweliad â myfyriwr, Charlie, sy’n sôn am gael bil £100 am ei phresgripsiwn dros ddau fis pan gafodd ei meddyginiaethau eu haddasu. Dywedodd myfyriwr arall, Rosie, y bu’n rhaid iddi ddewis rhwng talu am ei phresgripsiynau neu ei rhent. Fel y noda’r BBC, mae’r broses o wneud cais am eithriad drwy Gynllun Incwm Isel y GIG yn hirwyntog ac mae’n rhaid i fyfyrwyr sy’n gwneud cais ddatgan unrhyw incwm a gafwyd gan eu rhieni.

Mae Prifysgolion y DU, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r elusen Student Minds ymhlith y rhai yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch sy’n gweithio i gynyddu nifer y bobl sy’n ymwybodol o faterion iechyd meddwl myfyrwyr, ac i wella mynediad at gymorth a chefnogaeth. Nawr, mae adroddiad ar y BBC yn nodi bod Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Dr Helen Stokes-Lampard, o blaid eithrio pob myfyriwr sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl rhag talu ffioedd presgripsiwn fel un ffordd o ddiddymu o leiaf un ffactor sy’n rhwystro pobl rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Dywedodd mwy na chwarter o’r myfyrwyr a wnaeth ymateb i arolwg YouGov y llynedd eu bod wedi cael profiad personol o anawsterau iechyd meddwl, felly mae cael gwared ar ffactorau sy’n eu rhwystro rhag cael cymorth yn ddoeth iawn. O’n safbwynt ni yng Nghymru, gallem fynd gam ymhellach a gofyn pam y codir tâl o gwbl am feddyginiaethau a ragnodir i bobl sy’n byw yn Lloegr.