Pa bris iechyd meddwl myfyrywr?
9 Mai 2017Yng Nghymru, mae meddyginiaethau presgripsiwn yn rhad ac am ddim. Yn Lloegr, mae’r sefyllfa’n wahanol, ac mae pob eitem ar bresgripsiwn bellach yn costio £8.60. Gellir hawlio eithriadau, gan gynnwys gan bobl sy’n 60 oed neu’n hŷn, yn iau na 16, neu’r rhai sydd rhwng 16-18 ac mewn addysg amser llawn. Mae eithriadau hefyd yn bodoli i bobl â rhai cyflyrau meddygol penodol, i bobl ar incwm isel, i fenywod beichiog, a menywod sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 12 mis diwethaf. I bobl nad ydynt yn gymwys am eithriadau, gellir lleihau’r costau drwy dystysgrifau talu ymlaen llaw.
Nid yw myfyrwyr sy’n 19 oed neu’n hŷn yn cael eu heithrio’n awtomatig rhag talu costau presgripsiwn yn Lloegr. Fel yr adroddwyd ar y BBC yr wythnos ddiwethaf, gallai hyn fod yn cael effaith negyddol ar fyfyrwyr sy’n cael meddyginiaeth i drin cyflyrau iechyd meddwl. Yn ei adroddiad mae’r BBC yn cynnwys cyfweliad â myfyriwr, Charlie, sy’n sôn am gael bil £100 am ei phresgripsiwn dros ddau fis pan gafodd ei meddyginiaethau eu haddasu. Dywedodd myfyriwr arall, Rosie, y bu’n rhaid iddi ddewis rhwng talu am ei phresgripsiynau neu ei rhent. Fel y noda’r BBC, mae’r broses o wneud cais am eithriad drwy Gynllun Incwm Isel y GIG yn hirwyntog ac mae’n rhaid i fyfyrwyr sy’n gwneud cais ddatgan unrhyw incwm a gafwyd gan eu rhieni.
Mae Prifysgolion y DU, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r elusen Student Minds ymhlith y rhai yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch sy’n gweithio i gynyddu nifer y bobl sy’n ymwybodol o faterion iechyd meddwl myfyrwyr, ac i wella mynediad at gymorth a chefnogaeth. Nawr, mae adroddiad ar y BBC yn nodi bod Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Dr Helen Stokes-Lampard, o blaid eithrio pob myfyriwr sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl rhag talu ffioedd presgripsiwn fel un ffordd o ddiddymu o leiaf un ffactor sy’n rhwystro pobl rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Dywedodd mwy na chwarter o’r myfyrwyr a wnaeth ymateb i arolwg YouGov y llynedd eu bod wedi cael profiad personol o anawsterau iechyd meddwl, felly mae cael gwared ar ffactorau sy’n eu rhwystro rhag cael cymorth yn ddoeth iawn. O’n safbwynt ni yng Nghymru, gallem fynd gam ymhellach a gofyn pam y codir tâl o gwbl am feddyginiaethau a ragnodir i bobl sy’n byw yn Lloegr.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016