Gweithdy Breuddwydion
11 Awst 2016Ym mis Mawrth 2016 bûm i’n ddigon ffodus i ennill y Parth Aur yn y prosiect ymgysylltu â gwyddoniaeth ar-lein, I’m a Scientist Get Me Out of Here! Mae’r rhaglen hon yn ffordd wych o gymryd rhan mewn trafodaeth, sgyrsiau a thybiaethau mympwyol ym myd gwyddoniaeth gyda disgyblion ysgol cynradd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
O bethau fel ‘Ydy’r mellt yn gwneud karate?’ i ‘Ydy efeilliaid yn cysgu’r un fath â’i gilydd?’ ac ‘Ydy pobl ag awtistiaeth yn cysgu’n wahanol?’ Cefais amrywiaeth o gwestiynau gwahanol i’w hateb a’u harchwilio. Roedd y myfyrwyr yn ddiarbed wrth holi ac yn onest am ein hymatebion. Diolch byth, mae’n rhaid bod y myfyrwyr wedi hoffi o leiaf rai o’m hymatebion, gan mai fi enillodd yn fy mharth, oedd hefyd yn cynnwys genetegydd ac astroffisegydd. Addewais y byddwn yn gwario fy £500 mewn modd a oedd yn golygu ymgysylltu â chymunedau yng Nghaerdydd ac yn benodol â disgyblion ysgol gynradd, gan mai nhw oedd wedi fy newis yn enillydd!
Roedd yn anodd portreadu fy ngwaith o ddydd i ddydd mewn ffordd ddifyr, llawn dychymyg a fyddai’n ennyn diddordeb y disgyblion, ac roedd angen edrych yn fanwl ar hynny cyn mynd i’r ysgolion. Yr oeddwn i o leiaf am gael effaith ar addysg y plant hyn mewn modd cofiadwy a fyddai, gobeithio, yn eu hysbrydoli.
Yn ffodus, ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym gynllun arloesol sydd wedi hen ennill ei blwyf, sef y ‘Porth Cymunedol‘. Mae’r cynllun hwn yn gweithio gyda chymunedau yn Grangetown, gyda’r nod o ddatblygu partneriaethau hirdymor, cyfartal a chydfuddiannol rhwng y trigolion a’r gwasanaethau sy’n eu hamgylchynu. Bûm yn gweithio gyda’r ysgol sy’n cymryd rhan yn y prosiect, Ysgol Gynradd Grangetown.
Lluniwyd fy mhrosiect ochr yn ochr â’r Porth Cymunedol er mwyn mynd i mewn i ysgolion a hyrwyddo cysgu fel gwyddor bwysig dros ben, y mae angen mawr amdani, sy’n ffocws ar hyn o bryd ac y mae cyfle i ganolbwyntio arni nawr. Mae arwyddocâd cwsg yn ein trefn ddyddiol yn cael ei dangynrychioli a’i gamddehongli fel esgus i ddiogi. Mae ein hangen sylfaenol am gwsg a’n dibyniaeth arno yn rhywbeth rwy’n credu’n wirioneddol bod angen ei atgyfnerthu ym meddyliau a bywydau plant ar draws y byd.
Ni ellir diystyru’r manteision iechyd, academaidd, cymdeithasol a galwedigethol sy’n gysylltiedig â chwsg. Er mwyn gallu cyfleu’r farn hon, roedd angen imi lunio strategaeth ddifyr.
Beth am wneud cysgu’n hwyl?
Y cam cyntaf oedd llunio’r cardiau post sydd i’w gweld isod. Dosbarthwyd y cardiau post hyn i ysgolion, fel bod y disgyblion yn cael cyfle i ofyn cwestiwn am gwsg i mi. Yr oeddwn hefyd am wybod am beth byddan nhw’n breuddwydio er mwyn plannu hedyn yn eu meddyliau (falle mai defaid ddylai fod yn eu meddyliau, i greu’r cysylltiad â chysgu). Roedd hynny’n sicrhau bod gen i lwybr agored i drafod cwsg.
Roedd gwneud dalwyr breuddwydion, llunio casys gobennydd a chynfasau gwely breuddwydion dosbarth yn swnio fel llwybr digon rhesymol at drafod cwsg gyda phlant 9-10 oed ar ôl hynny! Roedd gallu dewis crefftau ymarferol (peintio a lliwio) ochr yn ochr â chreu hetiau ymennydd a theganau meddal i ‘siarad’ am eu cwsg yn golygu bod y gweithgaredd yn ennyn diddordeb plant ac yn addas ar eu cyfer.
Roedd yr ysgol yn rhyfeddol o hyblyg, a bu’r athrawon yn chwarae rhan bwysig ac yn rhyngweithio â’m cydweithiwr, Katie, a’r disgyblion, yn ogystal â fi. Mae Katie’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bryste (lle bûm i’n astudio ar gyfer fy ngradd israddedig mewn Biocemeg). Yr oeddwn yn ddigon ffodus i gael ei chymorth i hwyluso’r sesiwn.
Roedd y sesiwn nid yn unig yn fodd i greu fforwm agored ar gyfer trafodaeth gyda’r athrawon, y disgyblion a Katie a minnau ynghylch cwsg, a breuddwydio yn arbennig, ond hefyd yn agor y posibilrwydd o ehangu’r prosiect a mynd ag ef i fwy o ysgolion a digwyddiadau. Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr, hyd yn oed o ystyried heriau siarad â 30 o blant 9-10 oed am bwnc rydyn ni’n ei drafod mor anaml.
Mae cael cyfle prin fel hyn yn sgîl ‘I’m a Scientist Get Me Out of Here! wedi fy ysbrydoli i gyflwyno fy mhrosiect mewn mwy o gyd-destunau; i ganolbwyntio ar ymgysylltiad cyhoeddus fel rhan annatod o’m gwaith a’m PhD ac i beidio byth â rhoi’r gorau i adael i feddyliau plant fy nghyffroi ac ennyn fy niddordeb.
O fod eisiau gwybod sut mae jiráff yn cysgu i weld a allwn i ddarllen eu breuddwydion – yn eu dwylo nhw mae dyfodol gwyddoniaeth. Mae dyletswydd arna i i’w helpu i deithio ar hyd y llwybr yma, ac os bydd dalwyr breuddwydion, casys gobenyddion, ymenyddion a dolffiniaid meddal yn fy helpu i wneud hynny, rwy’n barod i fynd amdani – bant â’r cart!
Mae Hayley Moulding yn derbyn cyllid PhD gan yr MRC (y Cyngor Ymchwil Meddygol)
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016