Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl: sut y gall cyfnewid gwybodaeth daflu goleuni ar gyfleoedd i wella polisïau, ymarfer, addysg ac ymchwil

30 Ebrill 2024

Dr Seren Roberts

Mae iechyd corfforol pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn waeth na’r boblogaeth yn gyffredinol, a disgwylir y bydd hyd eu hoes rhwng 13 a 30 mlynedd yn fyrrach. Mae’r anghyfartaledd iechyd hwn yn hysbys iawn. Mae llawer o bolisïau iechyd ledled y byd yn ceisio cau’r bwlch iechyd hwn. Mae hybu iechyd a gwella mynediad at wasanaethau iechyd wedi bod yn flaenoriaeth i sicrhau deilliannau iechyd gwell yn achos y boblogaeth ddifreintiedig hon.

Un o’r meysydd sy’n destun llai o ymchwil yw rôl nyrsys iechyd meddwl wrth fonitro iechyd corfforol a darparu gofal iechyd corfforol ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl.  Er hynny, gall nyrsys iechyd meddwl chwarae rhan hollbwysig yn y maes hwn. Yr hyn a wyddom yn sgil y llenyddiaeth bresennol yw bod nyrsys iechyd meddwl:

  •  yn rhoi gwybod bod lefelau amrywiol o ymarfer iechyd corfforol, a bod agweddau cadarnhaol a pharodrwydd mewn rhai meysydd iechyd (cyngor deietegol ac ymarfer corff) ond llai felly mewn meysydd eraill (sgrinio canser a rhoi’r gorau i ysmygu).
  • heb gael eu cefnogi fel mater o drefn gan addysg a hyfforddiant gofal iechyd corffor
  • â safbwyntiau gwahanol ar allu nyrsys i gyfrannu at well prosesau gofal iechyd.
  •  yn credu y dylai hybu iechyd dreiddio i’r sefydliad gofal iechyd meddwl cyfan ac y dylai cyfrifoldeb ar y cyd am iechyd a gweithgareddau hybu iechyd fodoli ar bob lefel.
  • yn cydnabod pwysigrwydd monitro a sgrinio anghenion iechyd corfforol ond mae angen buddsoddiad ac amser i feithrin arbenigedd a hyder drwy addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau.
  •  yn rhanedig ac yn ansicr ynghylch ble mae eu cyfrifoldebau.

Gwnaed argymhellion ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn seiliedig ar astudiaeth yn y DU o agweddau nyrsys iechyd meddwl, yn ogsytal â’r llenyddiaeth ehangach nad yw’n ymwneud â nyrsio iechyd meddwl; fodd bynnag, cyhoeddwyd ychydig o ymchwil sy’n dangos yn glir yr hyn y gall nyrsys iechyd meddwl ei wneud yn eu hymarfer. Yn bwysig, mae paratoadau arbenigol ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn y DU yn wahanol i lawer o wledydd eraill gan gynnwys UDA, Seland Newydd ac Awstralia, lle bydd yr holl nyrsys graddedig yn cael eu paratoi mewn rhaglenni addysgol cyffredinol neu gynhwysfawr. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ymchwilio i fanteision neu anfanteision y gwahaniaethau addysgol hyn, a’u deall, wrth baratoi nyrsys i fonitro iechyd corfforol pobl â chyflyrau iechyd meddwl, a sut mae’r rhain yn digwydd yn ymarferol. Penderfynon ni gynnal cyfnewid gwybodaeth i gychwyn gwaith yn y maes hwn yn sgil arsylwadau uniongyrchol.

Yn sgil partneriaeth ag Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd Arfordirol (MNCLHD), New South Wales, ein hamcanion oedd: a) dysgu oddi wrth ein gilydd; b) bod y ddau barti yn deall gofal iechyd meddwl yn y wlad arall; c) meithrin cydberthnasau at ddibenion cydweithio a datblygu ymchwil, ch) adnabod y cyfleoedd i ehangu’r dystiolaeth i ddatblygu defnyddioldeb technoleg, a hynny i wella gofal nyrsio mewn lleoliadau iechyd meddwl.

I’r perwyl hwn, trefnwyd sesiynau cyfnewid gwybodaeth dwyffordd mewn dau leoliad dwys a fyddai’n para 3-4 wythnos: y naill yng Nghaerdydd (Mawrth 2023) a’r llall yn Coff’s Harbour, New South Wales, Awstralia (Medi 2023). Ynghlwm wrth y lleoliadau hyn yn y ddwy wlad roedd ymweld ag ystod o leoliadau iechyd meddwl i arsylwi, cychwyn trafodaethau a rhannu profiadau. Roedd y lleoliad hefyd yn gyfle i ymgysylltu â sefydliadau ymchwil a llunwyr polisi perthnasol.

Roedd arsylwi gofal bywyd go iawn mewn amser real yn golygu bod y partneriaid yn gallu sylwi ar y gwahaniaethau main ond manwl ymarferol na fyddent fel arall yn hysbys hwyrach nac yn gyhoeddedig, ond sydd serch hynny â rhan sylweddol ym mhrofiad y claf o ofal iechyd a’r deilliannau posibl. Roedd y cyfleoedd arsylwi hyn yn caniatáu inni fyfyrio ar y cyd-destun diwylliannol ac addysgol, a sut mae’r rhain yn chwarae rhan yn natblygiad cyd-destunau, arferion ac addysg iechyd meddwl.

Yn sgil y broses cyfnewid gwybodaeth, dysgasom fod awydd a diddordeb go iawn mewn dysgu oddi wrth systemau iechyd eraill yn strategol ac yn weithredol. Roedd pawb, gan gynnwys nyrsys ar flaen y gad a’r llunwyr polisïau’n awyddus i fanteisio ar y cyfle dysgu. Mae’n bosibl hefyd bod trochi mewn amser real yng nghyd-destunau gweithredol gwledydd eraill yn gwella’r gwaith o droi tystiolaeth yn ymarfer. Drwy rannu dewisiadau clinigol amgen, herio rhagdybiaethau a thrafod nifer o ddulliau amrywiol sy’n ymdrin â gofal iechyd corfforol, roeddem yn gallu cyflymu’r newidiadau hyn. Arweiniodd rhai trafodaethau yn ystod y lleoliadau cyfnewid gwybodaeth at newidiadau uniongyrchol yn syth bin yn yr arferion ac roedd hyn wedi gwella’r gofal. Roeddem hefyd yn cydnabod bod lle yn y cyfnewid gwybodaeth i gael sgyrsiau i gefnogi myfyrdod bwriadol ar ymarfer clinigol, a hynny i helpu i sbarduno diwygio cyflym at ddibenion arloesi ym maes gofal iechyd meddwl.

Daethon ni o hyd i fanteision o bwys o ran y broses cyfnewid gwybodaeth, sef:

  • Bod pawb yn deall ystod y problemau, a hynny ar y cyd;
  • Cyflymu dysgu ar y cyd a rhannu gwybodaeth;
  • Adnabod y broses o ddod o hyd i atebion trawsbynciol i’r heriau hirsefydlog;
  • Cael lle ac amser i gael y sgyrsiau heriol hynny ar y ddisgwrs foesol, foesegol a chyfreithiol ynghylch gofal iechyd corfforol a rôl y nyrs iechyd meddwl yn hyn o beth;
  • Gwella cyfleoedd i groesbeillio syniadau sy’n ymwneud â materion ac arferion nyrsio iechyd meddwl ehangach, yn ogystal â rôl y cyd-destun addysgol yn y rhain; a,
  • Cydweithio rhyngwladol i hyrwyddo ymchwil ar nyrsio iechyd meddwl.

Er y gallwn ddysgu cryn dipyn yn sgil gwaith ymchwil yn ogystal â gwaith cyhoeddedig ehangach ar fodelau a dulliau gofal, ac yn wir rôl y nyrs, hyd nes y byddwn yn gweld gofal nyrsio iechyd meddwl uniongyrchol ar waith mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol, hwyrach y byddwn yn colli neu’n gohirio’r cyfleoedd hollbwysig hynny i wella gofal iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl.