Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Pam ei bod hi’n iawn ‘methu’ addunedau Blwyddyn Newydd

2 Mawrth 2024

Mae’r myfyriwr seicoleg israddedig Lily Maddock ar leoliad yn CUBRIC ar hyn o bryd, lle mae’n ymchwilio i unigolion ag amrywiadau rhif copi sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia ac yn asesu sut maent yn amharu ar gysylltedd rhwydwaith cortigol gan ddefnyddio MEG ac MRI.

Mae’n trafod sut mae angen i ni fod yn realistig am ein haddunedau blwyddyn newydd a’r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau nad ydynt yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Pam ei bod hi’n iawn ‘methu’ addunedau Blwyddyn Newydd

Yn ystod fy lleoliad, rwy’n gweld cyfranogwyr sydd ag amrywiadau rhif copi sy’n aml yn dwysáu eu trafferthion ag anawsterau datblygu a dysgu. Fel rhan o’n cwestiynu seicolegol, rydym yn clywed am les cyfranogwyr yn y tri mis diwethaf. Roeddwn i bob amser yn meddwl bod hyn yn ddiddorol oherwydd gall yr adeg o’r flwyddyn gael dylanwad mawr ar iechyd meddwl rhywun. O’r herwydd, rwy’n ystyried dechrau blwyddyn newydd yn arbennig o heriol. Gall y Nadolig a digwyddiadau teuluol fod yn anodd gyda chyllidebu, perthnasau teuluol neu anwyliaid ymadawedig, a gall y Flwyddyn Newydd hefyd annog teimladau anodd o ddiffyg cyflawni. Ac yn olaf, gall dechrau blwyddyn, gyda’r diwrnodau oerach a thywyllach, ffrwyno’ch gweithgarwch a’ch lles gan achosi ‘digalondid y gaeaf’. Dewisais felly ysgrifennu am y Flwyddyn Newydd, a’i haddunedau, fel canllaw i gyfyngu ar y pwysau a’r effaith y gallant ei chael ar iechyd meddwl rhywun. Drwy gydol fy mlog rydw i hefyd wedi ystyried rhai damcaniaethau seicoleg gymdeithasol a ddysgais yn ystod fy ngradd. Gallant helpu i gryfhau ein dealltwriaeth o’r rhesymau dros deimlo neu ymddwyn mewn ffordd benodol.

Gall dechrau blwyddyn newydd gynnig dechrau newydd ar gyfer nodau ac addunedau newydd. I rai pobl gall addunedau Blwyddyn Newydd gynnig canllawiau a chymhelliant i gyflawni nodau ond, i lawer, gallant arwain at hunan-barch isel, pwysau a gorbryder. A’r gwir amdani yw bod dros 90% o addunedau Blwyddyn Newydd yn cael eu hanghofio o fewn ychydig fisoedd yn unig.

Disgwyliadau a nodau afrealistig

Gall ein haddunedau Blwyddyn Newydd gynnwys disgwyliadau eang oherwydd yr ‘effaith dechrau newydd’, sy’n gweld cynnydd mewn cymhelliant ar gerrig milltir, fel blwyddyn newydd. Mae blwyddyn newydd yn tynnu llinell o dan gamgymeriadau neu fethiannau ac yn cynnig llwybr clir, syth tuag at nod. Ond pan mae’r cloc yn taro hanner nos rydyn ni’n dal i wynebu anawsterau neu heriau’r llynedd. Nid yw newid ymddygiad yn syml – byddwch yn gwneud camgymeriadau ac mae’r feddylfryd hon yn cynnig delfrydau afrealistig. Mae newid yn anodd! Mae digwyddiadau annisgwyl neu gamgymeriadau yn siŵr o ddigwydd ac mae hynny’n iawn. Ceisiwch faddau i chi’ch hun a dangos cydymdeimlad.

Mae anawsterau’n arferol

Gwnaeth ymchwilwyr ganfod bod goddef camgymeriadau yn effeithio’n gadarnhaol ar ein dysgu a’n perfformiad sefydliadol. I gyflawni nodau, mae angen i ni ddelio ag anawsterau a dal ati. Os na allwn ddal ati, rydym yn dechrau anobeithio.

Mae anobaith wedi’i ddysgu yn codi pan fyddwn yn teimlo bod sefyllfa allan o reolaeth. Drwy osod nodau realistig ac ymgyfarwyddo â chamgymeriadau, gallwn feithrin ymdeimlad o reolaeth a all ei gwneud hi’n haws ymdopi â nodau. Mae bregusrwydd ac anawsterau’n ddefnyddiol! Gallant eich helpu i ailasesu nodau, eich tywys ar hyd llwybrau newydd a sicrhau mwy o hunan-effeithiolrwydd. Dydych chi ddim wedi methu. Yn hytrach, dydych chi heb orffen eto.

Felly sut mae mynd ati i gyrraedd nod?

Mae angen i ni sicrhau bod ein nodau’n gyraeddadwy. Weithiau mae addunedau Blwyddyn Newydd yn troi’n feichus a bron yn amhosibl i’w cyflawni gan nad ydynt yn gyraeddadwy. Un ffordd ddefnyddiol o wneud amcanion yn fwy cyraeddadwy a lleihau’r siawns o ‘syndrom gobaith ffug’ yw defnyddio nodau C.A.M.P.U.S. Mae syndrom gobaith ffug yn digwydd pan fo disgwyliadau’n afrealistig ac yn achosi hunan-barch isel a hwyliau dirywiol. Mae’r canllaw C.A.M.P.U.S yn awgrymu bod angen i nodau fod yn Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol, Unigol a Sefydlog. Gall canllaw realistig ei gwneud hi’n haws cychwyn gweithio ar eich nodau.

Mae angen i ni ystyried pam ein bod yn anelu at gyrraedd nod. Mae cysylltu eich nod â ‘pham’ yn cynnig mwy o ystyr a rheswm iddo. Mae damcaniaeth locws rheolaeth Rotter yn dangos bod  ymddygiad yn dibynnu ar werth eich canlyniad; po fwyaf y gwerth, y mwyaf tebygol mae’r newid ymddygiad o barhau. Bydd dewis adduned Blwyddyn Newydd sy’n ystyriol o’ch amgylchiadau ac sy’n ystyrlon i chi yn cynnig mwy o gymhelliant i gyflawni’ch nod.

Gall dal eich hun yn atebol fod yn fuddiol wrth gyflawni nodau. Mae atebolrwydd yn eich galluogi i fod yn ymwybodol o’ch cynnydd, rhoi cyfrif am y camau sydd angen eu cymryd a gosod terfynau amser. Gellid cyflawni atebolrwydd trwy wneud rhestrau targed, defnyddio tracwyr nodau neu ddweud wrth rywun am eich nod. Mae astudiaethau’n dangos y gall cael partner atebolrwydd gynyddu eich llwyddiant gan 95%.

Sicrhewch fod eich adduned yn blaenoriaethu eich iechyd meddwl. Gall nodau fynd yn feichus iawn, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu gwahanu ein nod terfynol oddi wrth y camau i’w gyflawni. Mae cyflawni nod yn daith, a gall rhannu nodau’n gyflawniadau symlach a haws eu rheoli wneud i’r daith deimlo’n fwy gwerth chweil wrth i ni ddathlu pob cam a chyfyngu ar yr ymdeimlad o bwysau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i ofyn am gymorth neu sicrwydd. Gall cyflawni nodau gyda ffrindiau neu deulu gynnig cefnogaeth a chymhelliant. Gall rhywbeth mor syml â siarad â rhywun am eich cyflawniadau neu gael rhywun i rannu eich ymrwymiad i nod gynyddu eich llwyddiant, fel y dangosir yn yr astudiaeth hon. Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig ymarfer hunan-dosturi. Sicrhewch eich bod yn garedig â chi’ch hun wrth gydnabod eich cyflawniadau, ond hefyd eich anawsterau. Bydd ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn caniatáu mwy o hunan-effeithiolrwydd, a fydd yn cynnig llwybr llyfn i gyrraedd eich nod. Drwy fod yn ystyriol o’ch lles gallwch gydnabod pryd mae angen i chi gymryd seibiant neu ailwerthuso eich nodau, a gall eich helpu i gymryd pethau un diwrnod ar y tro. Yn gyffredinol, mae eich iechyd meddwl yn allweddol o ran eich lles a’ch trefniadaeth, sy’n bwysig wrth gyrraedd nodau. Edrychwch ar ôl eich hun.

Gall dechrau blwyddyn newydd fod yn gyfnod arbennig o anodd i lawer. Mae anhwylder affeithiol tymhorol ar ei anterth yn ystod y cyfnod hwn, a all achosi pyliau dwysach o iselder. Mae diwrnodau tywyllach a diffyg golau haul yn golygu ei bod hi’n iawn ac yn normal i deimlo’n isel. Dyna pam ei bod hi’n hanfodol maddau camgymeriadau a chydnabod y gall cyflawni nodau fod yn arbennig o anodd ar hyn o bryd. Peidiwch â rhoi gormod o bwys ar addunedau Blwyddyn Newydd; gallwch gyrraedd nod unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn ac mae’n bwysicach galluogi ein hunain i amddiffyn ein hiechyd meddwl.