Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Ben Hannigan

6 Awst 2019

Beth wnaeth eich ysgogi i gynnal gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl?

Roeddwn yn gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau gwneud ymchwil. Astudiais ar gyfer gradd yn y gwyddorau cymdeithasol pan adawais yr ysgol, ac ar ôl cyfnod byr o addysgu Saesneg fel ail iaith, cefais fy nenu at waith iechyd meddwl, a finnau’n wirfoddolwr amser-llawn mewn un o wasanaethau dydd yr elusen iechyd meddwl Mind. Cwrddais ag ymarferwyr a myfyrwyr iechyd meddwl yno, a dechreuais ystyried llwybrau at ymarfer proffesiynol cyn cofrestru ar gyfer cwrs hyfforddiant iechyd meddwl a nyrsio cyffredinol pedair blwyddyn o hyd. Hon oedd yr adeg y byddai’r rhan fwyaf o nyrsys yn cael eu paratoi ar gyfer ymarfer yn ysgolion y GIG, heb ymwneud ag addysg uwch.

Rwy’n cofio meddwl, a finnau’n fyfyriwr nyrsio, fod gennym lawer i’w wneud fel proffesiwn i gynhyrchu sylfaen dystiolaeth a pharatoi ymarferwyr i feddwl yn ogystal â gwneud. Roeddwn yn chwilfrydig fel myfyrwyr, yna fel nyrs iechyd meddwl cymunedol, ac roedd gennyf (hyd heddiw) gymhelliant i wella profiad pobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl. Gweithiais gyda chydweithwyr tra oeddwn yn ymarfer, i ymgymryd â rhywfaint o ymchwil leol, ar raddfa fach, i waith rhyngbroffesiynol a barn defnyddwyr y gwasanaeth, a phan neidiais o ymarfer i addysg uwch, ar gyfer swydd fyddai, yn ôl yr hysbyseb, yn canolbwyntio ar addysgu, roeddwn yn benderfynol y byddai ymchwil iechyd meddwl yn rhan gyfartal o’m rôl.

Pwy sy’n eich ysbrydoli, neu sydd wedi eich ysbrydoli?

Rydw i wastad wedi edmygu pobl all ddefnyddio, a chreu, syniadau a thystiolaeth sy’n croesi ffiniau disgyblaethol traddodiadol. Rwy’n gallu meddwl am nifer o bobl sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl all wneud hyn. Ar ben hynny, o gymharu â’n niferoedd, mae nifer cymharol fach o ymchwilwyr ym maes nyrsio. Rydw i wedi cael cefnogaeth ac ysbrydoliaeth gan bobl, yma yng Nghaerdydd a thu hwnt, sydd wedi buddsoddi eu hegni mewn tyfu capasiti ymchwil a seilio gwasanaethau ac ymarfer ar fwy o wybodaeth a thystiolaeth.

Ar beth ydych yn gweithio ar hyn o bryd?

Rydw i’n ymchwilydd gwasanaethau iechyd meddwl cymhwysol, ac rwy’n ymddiddori mewn profiadau pobl o ddefnyddio’r system gofal iechyd meddwl, a gweithio ynddi. Rwy’n rhan o ddau brosiect ar hyn o bryd, ac yn goruchwylio myfyrwyr doethurol: mae un yn synthesis o’r dystiolaeth ym maes gofal diwedd oes ar gyfer pobl â salwch meddyliol difrifol, a threial a gwerthusiad o ymyriad newydd ar gyfer pobl sydd ag anhwylder pryder ôl-drawmatig yw’r ail. Rwy’n dysgu llawer gan y ddau.

Sut mae eich ymchwil yn llywio eich ymarfer (clinigol), ac i’r gwrthwyneb?

Dydw i ddim yn gweithio fel ymarferydd bellach, ond mae pob prosiect rydw i wedi’i arwain neu gyfrannu ato wedi bod yn un sy’n ymwneud â gwasanaethu a/neu ymarfer. Mae’r cwestiynau ymchwil rwy’n ymddiddori ynddynt yn deillio o brofiadau ac arsylwadau pobl sy’n cael gofal iechyd meddwl, a phobl sy’n ei roi.

Pa newidiadau ydych wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?

Mae’n syfrdanol faint yn fwy y mae pobl yn trafod iechyd meddwl ac yn ysgrifennu amdano, o gymharu â’r 1980au, pan ddechreuodd fy ngyrfa. Rwy’n credu mai peth cadarnhaol iawn yw hwn, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn mwy o oddefgarwch a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd. Hefyd, rwy’n arsylwi sut mae iechyd meddwl yn faes dadleuol o hyd: a mwy byth, rwy’n tybio, nag yn achos meysydd gofal iechyd eraill. Mae trafodaethau a dadleuon chwyrn ym mhob math o faes, gan gynnwys fframweithiau esboniadol ar gyfer deall trallod, hawliau cystadleuol at wybodaeth, cynnwys a ffiniau ymarfer proffesiynol, ac ati.

Yn eich barn chi, beth yw’r prif heriau ar gyfer iechyd meddwl?

Mae’r gwasanaethau iechyd meddwl wedi’i chael hi’n anodd mewn oes o gyni, ac mae’r gweithlu iechyd meddwl wedi’i wasgu’n ddifrifol. Os ydym yn ddifrifol am wella iechyd meddwl a datblygu gwasanaethau, mae angen buddsoddiad newydd arnom, a hyrwyddo pa mor foddhaus mae gyrfaoedd ym maes gofal iechyd meddwl. Hefyd, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy’n ymwneud ag ymchwil i wasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys pobl sydd â chefndiroedd mewn nyrsio a’r proffesiynau iechyd cyswllt.

Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i’r rheini sy’n dechrau ar yrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Dewch o hyd i ffrindiau a gweithio gyda nhw. Os yw ymchwil i systemau a gwasanaethau iechyd meddwl cymhwysol yn apelio atoch, gwrandewch yn ofalus ar brofiadau a safbwyntiau pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ac yn defnyddio’r gwasanaethau, ac ar brofiadau a safbwyntiau’r bobl sy’n gweithio yn y system.