Skip to main content

Iechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Deall systemau a gwasanaethau iechyd meddwl

6 Mehefin 2016

Gan weithio ar y cyd â chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn uniongyrchol, mae ymchwilwyr yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio systemau iechyd meddwl.

Mae ein prosiectau’n ymchwilio i drefniadaeth a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, y gwaith mae gweithwyr proffesiynol ac eraill yn ei wneud, a phrofiadau a barn pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn aml yn cynnwys defnyddio dulliau ansoddol manwl (megis cyfweliadau lled-strwythuredig, hir), naill ai ar eu pen eu hunain neu wedi’u cyfuno â dulliau meintiol (megis holiaduron). Yn sail i’r rhaglen ymchwil hon mae’r syniad bod angen deall gwasanaethau yn gyntaf os yw llunwyr polisi, rheolwyr ac ymarferwyr i’w gwella.

Pam mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gymhleth?

Man cychwyn ar gyfer ymchwil o’r math hwn yw’r sylw bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gymhleth. Mae hynny’n wir am nifer o resymau:
Yn aml rhennir cyfrifoldebau o ran gofal a thriniaeth rhwng gwahanol sefydliadau: byrddau ac ymddiriedolaethau GIG, awdurdodau lleol, elusennau, darparwyr sector preifat. Gall hyn gymhlethu’r ddarpariaeth integredig.

Yn nodweddiadol gwneir gwaith gofalu wyneb yn wyneb (yn enwedig ar gyfer pobl â chyflyrau hirdymor) gan bobl o amrywiaeth o grwpiau galwedigaethol: meddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig â iechyd, gweithwyr cymdeithasol, staff cymorth a staff parabroffesiynol. O fewn ac ar draws pob un o’r grwpiau hyn mae gan yr aelodau gyfuniadau amrywiol o wybodaeth a sgiliau, sy’n cyfrannu at raniad llafur cymhleth ac yn creu cyfleoedd i wahaniaethau ddod i’r amlwg yng nghyswllt nodau darparu’r gwasanaeth.

Gwneir gwaith hefyd gan bobl nad ydynt yn cael eu talu am eu gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys rhai sy’n byw gyda salwch, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd a gofalwyr lleyg. Maent yn cael eu cynnwys yn y gwaith pryd bynnag y cynhelir trafodaethau gydag ymarferwyr cyflogedig ynghylch pa driniaethau a therapïau y dylid eu dilyn, a phryd bynnag y maent yn chwarae rhan weithredol mewn cynlluniau gofal.

Y system iechyd meddwl

Mae system iechyd meddwl y Deyrnas Unedig wedi esblygu dros ddegawdau lawer, ac mae’n gymhleth yn yr union ffyrdd a ddisgrifir uchod. Am flynyddoedd lawer roedd gofal iechyd meddwl trefnedig yn golygu gofal mewn ysbytai seiciatrig mawr yn ddieithriad. Adeiladwyd nifer fawr o’r rhain o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, a phan oeddent ar eu hanterth roedd miloedd lawer o gleifion mewnol ynddynt. Mae ysbyty’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn enghraifft dda o hyn. Agorodd yr ysbyty hon yn 1908, a hyd nes iddi gau i gleifion mewnol yng ngwanwyn 2016 roedd yn ganolog i’r gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl prifddinas Cymru.

Mae’r hyn a fu gynt yn system gwbl seiliedig ar ysbytai wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Y dyddiau hyn, darperir gofal drwy rwydweithiau o wasanaethau a staff mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai, ac mae’r elfennau cymunedol yn dod yn fwyfwy amlwg o hyd.

Mae polisïau penodol sy’n gyrru gofal iechyd meddwl yn y gymuned wedi bod ar waith ers o leiaf y 1960au cynnar, a rhai tirnodau cynnar oedd Cynllun Ysbytai 1962 a Phapur Gwyn Better Services for the Mentally Ill yn 1975. Daeth timau iechyd meddwl cymunedol rhyngbroffesiynol, oedd yn cyfuno’r ymarferwyr oedd yn diwallu anghenion pobl oddi mewn i ardaloedd diffiniedig, yn fodel amlycaf ar gyfer trefnu gofal a thriniaeth arbenigol o ganol y 1970au ymlaen. Am gyfnodau hir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif nid oedd y system iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer sylw polisi a gwella gwasanaeth, ac ni lwyddodd i ddenu’r adnoddau angenrheidiol i gefnogi’r newid hanesyddol tuag at ofal yn y gymuned yn llawn.

Dechreuodd y diffyg sylw cymharol hwn newid yng nghanol y 1990au, a symudodd y system iechyd meddwl o’r diwedd yn nes at ganol y llwyfan. Mewn ymateb i feirniadaeth ynghylch tangyllido a thanberfformiad, sefydlwyd mathau newydd o dimau cymunedol. Enghreifftiau pwysig o hyn oedd gwasanaethau sy’n darparu atebion mewn argyfwng a thriniaeth gartref ar gyfer pobl a allasai gael eu derbyn i’r ysbyty fel arall, ynghyd â gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl sy’n dioddef pwl cyntaf o salwch meddwl mawr ac allgymorth grymusol ar gyfer pobl â phroblemau tymor hir sy’n achosi anabledd.

Crëwyd rolau newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a buddsoddwyd mewn gwasanaethau newydd seiliedig ar ofal sylfaenol ac ymyriadau ar gyfer pobl oedd yn dioddef o iselder, pryder a phroblemau iechyd meddwl eraill cyffredin.

Mewn cyfnod o ddatganoli, dechreuodd gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig ymffurfio mewn gwahanol ffyrdd. Yng Nghymru (ond dim ond yma) pasiwyd deddf oedd yn cyflwyno mandad ar gyfer gofal iechyd meddwl sylfaenol, ynghyd â chydgysylltu gofal statudol a chynllunio gofal a thriniaeth i bobl sy’n derbyn gofal iechyd meddwl eilaidd. Yn fwyaf diweddar oll, mae gwasanaethau’n wynebu cael eu had-drefnu mewn cyfnod o gyni, ac mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod buddsoddiadau hir ddisgwyliedig yn Lloegr yn cael eu tynnu’n ôl a bod gwasanaethau’n crebachu.

Ymchwilio i’r system iechyd meddwl

Mae ymchwil i systemau iechyd meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn digwydd yn erbyn y cefndir cyffredinol hwn o gymhlethdod a newid. Bu astudiaethau yn y gorffennol yn ymchwilio i waith a rolau ymarferwyr cymunedol, a’r siwrneiau astrus a ddilynwyd gan bobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl wrth iddynt groesi o ofal sylfaenol i ofal eilaidd ac o’r cartref i’r ysbyty, ac wrth iddynt symud o un math o wasanaeth arbenigol i un arall.

Mae prosiectau wedi defnyddio ymchwil weithredol i gyflwyno brysbennu yn fodd i reoli’r galw am wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn y gymuned. Mae prosiectau mwy diweddar a pharhaus (sy’n cynnwys gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Dinas Llundain, Prifysgol Manceinion, yn y GIG ac â phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl) yn ymchwilio i’r risgiau llai amlwg i bobl ifanc mewn ysbyty iechyd meddwl, cynllunio gofal a cydgysylltu gofal mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol ac mewn ysbytai a dulliau gofal cymdeithasol ag ymdrin ag adferiad wedi salwch meddwl.

Ein nod yw darparu gwybodaeth newydd ddefnyddiol sy’n gwneud gwahaniaeth, ac y gellir troi ati i lywio penderfyniadau ynghylch sut mae cynllunio, trefnu a chyflwyno gwasanaethau. Edrychwch ar y blog hwn yn gyson i weld newyddion yn y dyfodol ynghylch ymchwil yn y meysydd hyn a meysydd eraill cysylltiedig.

Mae Dr Ben Hannigan yn Ddarllenydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n blogio yn benhannigan.com ac yn trydar ar @benhannigan