Cymorth Cyntaf i iechyd meddwl myfyrwyr
10 Hydref 2016Mae hi’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw. Mae’n ymddangos bod ei thema, sef ‘Cymorth Cyntaf Seicolegol ‘ yn arbennig o berthnasol i’r profiadau prifysgol y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu.
Pan fydd myfyrwyr yn pontio i fywyd prifysgol, gall fod perygl i’w lles. Mae gwahanol ffactorau, fel pwysau’r cyfryngau cymdeithasol, ansefydlogrwydd ariannol a marchnad swyddi gystadleuol yn ychwanegu at y cyfnod parhaus o straen y mae myfyrwyr yn syrthio iddo.
Mae angen i brifysgolion ddarparu gwasanaethau cymorth priodol y gall myfyrwyr gael mynediad hawdd atynt ar adegau anodd. Mae ymchwil ar iechyd meddwl myfyrwyr yn hanfodol wrth ymchwilio i’r mater hwn a’r atebion posibl iddo.
Pryder a straen
Mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) yn tynnu sylw at y problemau iechyd meddwl mawr sydd ymhlith y boblogaeth fyfyrwyr. Ar gyfartaledd, mae myfyrwyr yn llai hapus ac yn fwy pryderus na’r rhai nad ydynt yn fyfyrwyr. Gall iselder ac unigrwydd fod yn fater o bwys i rai, mae cyfraddau hunanladdiad myfyrwyr ar gynnydd, gan greu darlun gofidus o’r canlyniadau y gall straen ymhlith myfyrwyr eu cael.
Wrth edrych ar ffigurau’r defnyddwyr gwasanaethau cwnsela gallwn weld yr un duedd. Gwelwyd cynnydd amlwg yn nifer defnyddwyr gwasanaethau cwnsela prifysgol a’r gwasanaethau cymorth o dan arweiniad myfyrwyr ar draws llawer o brifysgolion yn y DU. Gwelodd ystadegau o’r gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Caerdydd eleni gynnydd o 30% yn y myfyrwyr a lenwodd ffurflen gais, neu a fynychodd sesiwn galw heibio neu weithdy.
Codi ymwybyddiaeth
Mae Poppy Brown, awdur adroddiad HEPI, yn tynnu ein sylw at un o’r ffactorau a allai ddylanwadu ar y data hyn, o bosibl. Wrth adrodd ar gyfraddau mynychder anhwylderau meddwl ymhlith myfyrwyr, mae llawer o ymchwilwyr yn methu diffinio eu dull a’u terminoleg. Gallai hyn arwain at ragdybiaethau anghywir sy’n atgyfnerthu pryder y boblogaeth yn gyffredinol. Yn bwysicach, mae’n aml yn camarwain myfyrwyr i feddwl eu bod yn dioddef o anhwylderau meddwl y maent o’r farn fod ganddynt duedd i’w datblygu.
Mae gweithio tuag at gadarnhau’r termau allweddol a ddefnyddir yn y llenyddiaeth iechyd meddwl yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael â lles gwael posibl myfyrwyr. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cymeradwyo mudiad a enwir yn ‘Amser i Newid’ sy’n herio rhai o’r stereoteipiau afiach ac sy’n galw am newid yn y drafodaeth ar broblemau iechyd meddwl.
Mae Jo Pinder, Cwnselydd o’r Tîm Lles Myfyrwyr, yn trefnu Gweithgor Myfyrwyr Amser i Newid sy’n cynnwys myfyrwyr sydd eisiau helpu i leihau stigma drwy rannu syniadau a herio’r camsyniadau presennol yn agored.
Ymgysylltu â myfyrwyr
Gall myfyrwyr eu hunain fod o gymorth mawr i’w gilydd wrth weithio tuag at les gwell. Mae ymchwil yn awgrymu bod llai na 1% o’r myfyrwyr yn datgelu cyflwr iechyd meddwl i’w sefydliad academaidd ond y byddai 75% yn fodlon rhannu’r rheini â chyd-fyfyriwr.
Mae Tîm Lles ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio rhaglen o’r enw ‘Hyrwyddwyr Lles’ sy’n hyfforddi myfyrwyr i fwrw ati i hyrwyddo iechyd a lles. Mae Hyrwyddwyr Lles yn gallu cynnig ‘Clust Cyfoed’ a chyfeirio myfyrwyr at y cymorth perthnasol y gall fod ei angen arnynt. Nod y rhaglen yw codi ymwybyddiaeth o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a chreu ymdeimlad o gymuned ymhlith myfyrwyr a fydd yn eu helpu i ymdopi’n well ag anawsterau iechyd meddwl.
Mae myfyrwyr o’r cynllun Hyrwyddwyr Lles yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mynych a enwir yn ‘Mannau Poeth’ mewn ysgolion academaidd. Yn y digwyddiadau hyn anogir myfyrwyr i drafod eu lles â’u cefnogwyr cyfoed ac i lenwi holiadur hunanasesu lles byr i’w helpu i reoli eu hiechyd meddwl. Wedyn gall yr Hyrwyddwyr Lles gynnig rhagor o gyngor neu gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr neu wasanaethau eraill os oes angen.
Caerdydd a Chymorth Cyntaf Seicolegol
Mae’r Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Caerdydd wedi treulio blynyddoedd yn datblygu eu ‘Model Caerdydd’ a lwyddodd i chwyldroi gwasanaethau cwnsela prifysgol drwy gynnig model effeithiol ac amserol i gyflwyno gwasanaethau. Mae cyflwyno’r model hwn wedi helpu i gael gwared ar y rhestr aros ddiddiwedd am apwyntiadau cwnsela drwy gynnig therapi tymor byr sy’n canolbwyntio ar atebion.
Wrth wneud cais i weld Cwnselydd neu Ymarferydd lles, mae’r myfyrwyr yn llenwi holiadur ar-lein sy’n canolbwyntio ar atebion ac mae wedi’i gynllunio i alluogi’r myfyrwyr i ddechrau ar y broses therapiwtig yn y fan a’r lle. Mae data holiaduron electronig o 2013 yn dangos bod 26% o’r myfyrwyr sy’n gwneud cais am gymorth ac yna a wrthododd apwyntiadau wedi gwneud hynny oherwydd bod llenwi’r holiadur ar-lein wedi bod yn ddigon o gymorth iddynt. Mae ymchwil sylweddol wedi dangos y gall ysgrifennu am ein profiadau negyddol gael effaith gadarnhaol ar ein lles, sy’n rhoi’r hwb cyntaf i’r myfyrwyr wella.
Dysgu ynghylch Lles
Mae’r tîm Cwnsela, Iechyd a Lles yn cydnabod na all y cymorth y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr fod yn gyfyngedig i wasanaethau cwnsela. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu adnoddau hunangymorth ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, fideos a dolenni i gael cymorth pellach. Maent yn cwmpasu nifer o bynciau, gan gynnwys rhai mwy sensitif y gall rhai myfyrwyr deimlo’n anghyfforddus yn eu trafod.
Ystyrir yr angen am addysg am les hefyd gan weithdai’r Rhaglen Hunanreoli ac Ymwybyddiaeth Lles y mae’r Tîm Lles yn eu rhedeg. Cânt eu llunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o iechyd meddwl a lles drwy roi cyflwyniadau i grwpiau bach a thrwy annog gweithgareddau grŵp a thrafodaethau perthnasol. Mae’r pynciau y maent yn eu cwmpasu’n amrywio o reoli pryder, dod dros hiraeth neu unigrwydd, i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac ioga desg.
Mae Tsvetina Ivanova yn fyfyriwr Seicoleg yn ei thrydedd flwyddyn. Mae’n treulio ei blwyddyn ar leoliad yn y Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles. Hi yw Cydlynydd yr Hyrwyddwyr Lles ac mae’n hwyluso gweithdai, grwpiau strategaeth a blogiau ar gyfer y Tîm Lles. Mae ganddi ddiddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar ac ioga, a’u heffaith ar les. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar eleni.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016