Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn y gymuned
6 Hydref 2016Cynhelir yr ail ddigwyddiad Iechyd Meddwl a Lles y mis hwn yn y Pafiliwn, Gerddi Grange, yn Grangetown, Caerdydd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect ymgysylltu blaenllaw y Porth Cymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod penodol yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl yn yr ardal amrywiol hon yng nghanol y ddinas, a chefnogi trigolion i gael gafael ar gymorth a chynnig cyfleuster lleol lle gellir cynnig y gefnogaeth hon.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun, 10 Hydref, i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Alicia Stringfellow a Gemma Stacey-Emile o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd sy’n ei hwyluso. ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’ yw’r thema eleni ac adlewyrchir hyn yn rhaglen y dydd a phrif bwnc trafod y digwyddiad.
Gan weithio gyda thrigolion lleol, sefydliadau trydydd sector a phartneriaid y GIG, mae’r digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd ac amrywiaeth o weithdai gan Amser i Newid (Cymru), Cymdeithas Alzheimer, Iechyd Meddwl Somalia, HAFAL a phartneriaid y GIG, a llu o rai eraill. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i drigolion lleol i fod yn ‘Gyfeillion Dementia’, gan godi ymwybyddiaeth o ddementia yn y gymuned a helpu Grangetown i weithio tuag at fod yn gymuned sy’n cefnogi pobl â dementia. Bydd y gweithgareddau dewisol fydd ar gael yn ystod y dydd yn cynnwys gweithdy ymwybyddiaeth ofalgar a chreadigol dan arweiniad Louise o brosiect Stiwdio.
Bydd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, yn y digwyddiad yn y prynhawn.
Daw’r digwyddiad i ben drwy gynnal trafodaeth grŵp mewn fformat ‘Caffi’r Byd’. Bydd hyn yn cynnig cyfle i sgwrsio’n anffurfiol i geisio hwyluso a hybu trafodaeth agored a meddwl creadigol.
Cewch ragor o wybodaeth am y dydd a chadw lle drwy gysylltu ag Alicia Stringfellow neu Gemma Stacey-Emile.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016