Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a chlinigwyr iechyd meddwl

12 Gorffennaf 2016

Pob Gorffennaf, mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg (MRC CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal ysgol haf ar gyfer myfyrwyr, gwyddonwyr a meddygon sy’n ystyried dilyn gyrfa ym maes iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth.

Treuliwn lawer o’n hamser yn ceisio deall beth sy’n achosi problemau iechyd meddwl cyffredin, ond difrifol, megis sgitsoffrenia, iselder ac Alzheimer’s. Gwnawn hyn oherwydd yr effaith anferthol a gaiff problemau iechyd meddwl a dementia ar unigolion, eu teuluoedd, a’r gymdeithas ehangach. Er enghraifft, iselder clinigol yw un o brif achosion anabledd gydol oes.

Rhan allweddol o’n swyddogaeth ni, fel canolfan ymchwil sydd wedi’i noddi gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, yw cyfrannu at ddatblygu, hyfforddi a mentora to newydd o wyddonwyr a chlinigwyr yn y maes hwn. Mae gwyddoniaeth a’r byd academaidd yn gystadleuol ac yn rhyngwladol ac o’r herwydd mae’n aml yn heriol. Yn yr Ysgol Haf, rydym yn rhoi sylfaen i wyddonwyr ymchwilio i anhwylderau’r ymennydd, yn ogystal â thrafod gyda gwyddonwyr mwy profiadol sy’n gallu eu cefnogi a’u cynghori ynghylch y broses o gyflwyno cais ar gyfer cymrodoriaethau hyfforddiant a swyddi ôl-ddoethuriaeth.

Mae deall beth sy’n achosi anhwylderau cyffredin, ond sy’n achosi llawer o ddioddefaint personol a chymunedol, yn eithriadol o heriol. Mae’n hysbys, mewn cyflyron megis iselder a sgitsoffrenia, y gall sawl peth gydweithio mewn ffyrdd cymhleth sy’n cynnwys genynnau a’r amgylchedd. Oherwydd y cymhlethdod hwn, rhaid inni weithio’n galed i geisio denu’r unigolion gorau a mwyaf brwdfrydig i weithio’n y maes hwn.

I geisio ateb y ‘cwestiynau mawr’ megis adnabod beth sy’n achosi problemau iechyd meddwl, mae angen unigolion gyda setiau sgiliau amrywiol y gweithio ar y cyd. Mae ein Canolfan yn enghraifft berffaith o ‘wyddoniaeth tîm’ ac mae’n cynnwys ymchwilwyr gyda chefndir mewn epidemioleg, seicoleg, niwrowyddoniaeth, seiciatreg a biowyddorau. Yn wir, mae llawer o lwyddiant ein hymchwil yn y Ganolfan wedi deillio o gydweithio’n eang er mwyn cyfuno gwybodaeth gan grwpiau ymchwil o bob cwr o’r byd. Felly, ein rôl ni yn yr Ysgol Haf yw ysgogi, annog ac ysbrydoli unigolion sy’n arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd i ystyried gyrfa mewn iechyd meddwl.

Mae fy ymchwil i yn canolbwyntio ar ddeall arwyddion o iselder mewn pobl ifanc er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, adnabod problemau’n fuan a datblygu ffyrdd effeithiol o’u hatal. Rwyf wedi dychwelyd i Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar ar ôl cyfnod yn gweithio mewn prifysgol yn Llundain.

O’m profiad i, mae’r Ganolfan wedi cynnig cyfle unigryw i ymchwilwyr o feysydd amrywiol gydweithio er mwyn ceisio deall problemau iechyd meddwl yn well. Gyda lwc, bydd y garfan newydd o fyfyrwyr fydd yn dod i’r Ysgol Haf yr wythnos nesaf, yn gallu manteisio ar yr amgylchedd rhyng-ddisgyblaethol hwn, ac yn cael eu hysbrydoli i weithio yn y maes.

Mae Dr Fran Rice wedi cael arian gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a Sefydliad Nuffield