Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Bossing It – Sut i gyrraedd y lefel nesaf yn broffesiynol

9 Ionawr 2026

Ydych chi’n barod i wneud 2026 y flwyddyn orau eto? P’un a ydych chi’n anelu i fireinio eich sgiliau, dringo’r ysgol yrfaol, neu feistroli’r grefft o rwydweithio, dyma’r amser i gymryd yr awenau. Gofynnon ni i rai o’n cyn-fyfyrwyr anhygoel rannu eu cyngor gorau ar sut i gyrraedd y lefel nesaf yn broffesiynol.

Diksha Dwivedi

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Yn angerddol dros adrodd straeon a gyda dawn am adeiladu brandiau dylanwadol, mae Diksha wedi canolbwyntio ei gyrfa ar helpu arweinwyr i lunio naratifau personol gafaelgar. A hithau’n sylfaenydd gwefan newyddiaduraeth sy’n cael ei phweru gan bobl AkkarBakkar.com a’r asiantaeth frandio YOSO Media, mae hi wedi llywio strategaethau cynnwys arloesol a thechnegau adrodd straeon pwerus, gan gyrraedd miliynau yn fyd-eang. Mae ei gwaith proffesiynol yn rhychwantu rolau amrywiol, o ysgrifennu erthyglau nodwedd yn Yahoo! i arwain ar waith marchnata’r brand yn Invideo.io.

Mae Diksha hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr gan gynnwys Letters from Kargil a Nimbu Saab ac yn Gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr India Prifysgol Caerdydd, gan gyd-arwain ein Cangen yn New Delhi. Cenhadaeth eithaf Diksha yw rhoi’r gallu i sylfaenwyr ac entrepreneuriaid fynegi eu straeon, cysylltu â’u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol sy’n para.

Caiff cysondeb ei adeiladu dros amser

Os ydw i wedi dysgu un peth o fy mhrofiad entrepreneuraidd, dyma fe. Mae i gyd yn cronni dros amser! Popeth rydych chi’n ei wneud yn eich gwaith – bob dydd. Mae’n bosibl i hynny deimlo’n ddiflas ar y cychwyn, heb lwyddiannau sydyn, dim cymeradwyaeth, dim cydnabyddiaeth. Ond y diflastod hwnnw yw pris dod yn feistr ar rhywbeth. Mae bod yn bresennol bob dydd i ddatblygu un sgil, gan wella 1% yn unig, yn teimlo’n ddibwys ar y pryd. Ond dros amser, mae’r ymdrechion bach hynny’n pentyrru, yn lluosi ac yn golygu eich bod chi’n rhagori ar y lleill. Tra bod eraill yn chwilio am ddatrysiadau cyflym ac atebion hawdd, rydych chi’n datblygu dyfnder, hygrededd a hyder. Dyna yw’r fantais annheg go iawn. Yn anaml iawn y mae llwyddiant yn datblygu’n gyflym, mae’n digwydd drwy ymdrech gyson pan nad oes neb yn edrych.

Emmeline Brooks (MSc 2018)

Emmeline Brooks

Cwblhaodd Emmeline ei MSc mewn Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi bellach yn gweithio’n Gynllunydd Trefi Siartredig ac yn Brif Swyddog Polisi Cynllunio yn Awdurdod Cyfunol Gorllewin Lloegr, ym Mryste. Yn y rôl hon, mae hi’n cefnogi datblygiad Strategaeth Datblygu Gofodol Gorllewin Lloegr, a fydd yn arwain twf y rhanbarth yn y dyfodol. Cyn hyn, treuliodd Emmeline wyth mlynedd yn gweithio yn y sector preifat yn Ymgynghorydd Cynllunio i Arup.

Dysgwch gan eich cyfoedion

Un o’r effeithiau mwyaf cadarnhaol ar fy ngyrfa hyd yma oedd fy rôl wirfoddol gyda fy nghorff proffesiynol, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI). Rwy wedi cadeirio ‘Young Planners’ Cymru RTPI – grŵp wedi’i sefydlu i roi cymorth i weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa. Rhoddodd hyn gyfle i fi rwydweithio a dysgu gan fy nghyfoedion – roedd llawer ohonyn nhw’n gweithio mewn gwahanol sefydliadau ac ar wahanol agweddau ar gynllunio trefol. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gref i fi o led fy mhroffesiwn. Roedd hefyd wedi cynnig gwahanol gyfleoedd a heriau i mi yn gynnar yn fy ngyrfa mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol, gan fy ngwneud i’n gynlluniwr trefi mwy effeithiol ac ystyriol.

River Huang

River Huang (MA 2013)

Cyn-fyfyriwr rhyngwladol Prifysgol Caerdydd o Tsieina yw River a gyd-sefydlodd PingPong Digital yn y DU yn 2013. Mae’r asiantaeth ddigidol arobryn hon yn helpu brandiau a sefydliadau byd-eang i ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn Tsieina drwy ymgyrchoedd wedi’u teilwra ar blatfformau megis WeChat, RED, Douyin, a Weibo. Bellach mae PingPong Digital yn helpu cleientiaid gan gynnwys prifysgolion mawr yn y DU, datblygwyr eiddo tirol moethus a brandiau defnyddwyr byd-eang. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi dros 25 o aelodau staff yn y DU a mwy na 40 ledled y byd i gefnogi ei bortffolio sy’n tyfu ac anghenion cynhyrchu cynnwys.

Byddwch yn chwilfrydig

I fi, mae “cymryd y cam nesaf” yn ymwneud â bod yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu rhywbeth newydd, hyd yn oed os yw hynny’n anghyfarwydd i fi. Mae gweithio ar wahanol farchnadoedd a phlatfformau yn newid yn gyflym, felly rwy wedi dod i’r arfer o wella fy sgiliau’n barhaus –boed hynny’n ystyried technolegau newydd, deall tueddiad newydd i’r farchnad, neu wella sut rwy’n gweithio o ddydd i ddydd. Mae gwelliannau bach, cyson yn cronni dros amser. Peidiwch ag aros am y cyfle perffaith neu ddyrchafiad mawr i dyfu; dechreuwch gydag un sgil ymarferol a datblygwch oddi yno. Dyma yw’r meddylfryd sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn fy ngyrfa hyd yma.

Bianca de Souza (LLB 2019)

Mae Bianca yn Gyfreithiwr ac yn Swyddog Cydymffurfio Lleol yn Daimler Truck UK, lle mae hi’n cynghori ar faterion masnachol, rheoleiddiol a diogelu data wrth arwain mentrau ar groesffordd y gyfraith, technoleg a strategaeth. Wedi’i henwi’n Gynghorydd Cyfreithiol Mewnol y Flwyddyn gan Gymdeithas y Gyfraith yn 2025, mae Bianca’n adnabyddus am ei hymagwedd gyfoes tuag at ymarfer cyfreithiol, gan gyfuno gwybodaeth gyfreithiol ag ymwybyddiaeth fasnachol, deallusrwydd emosiynol a rhuglder technolegol.

Dechreuodd ei gyrfa yn fewnol mewn cwmni technolegol prysur cyn symud i’r sector modurol, lle mae hi’n negodi cytundebau gwerth uchel, datblygu offer cyfreithiol wedi’i yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, a chynllunio systemau i wneud swyddogaethau cyfreithiol yn fwy cyraeddadwy ac effeithiol. Mae gan Bianca radd Meistr yn y Gwyddorau yn y Gyfraith a Rheoli Busnes, lle canolbwyntiodd ar effaith technolegau sy’n dod i’r amlwg ar y proffesiwn cyfreithiol.

A hithau’n siaradwraig TEDx ar fentro i dir anghyfarwydd, mae Bianca’n angerddol am fentora’r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr a’u helpu i ddatblygu gyrfaoedd wedi eu gwreiddio mewn eglurder, hyder a thwf bwriadol.

Peidiwch ag aros nes eich bod chi’n teimlo’n “barod”

Mae cymryd y cam nesaf yn broffesiynol yn dechrau gyda chymryd cyfrifoldeb o’ch twf, eich cyflymder a’ch safonau. Does neb yn cynnig y cam nesaf i chi; chi sy’n ei ddatblygu drwy fod yn gyson, yn ddewr, a dangos parodrwydd i fentro. Daeth y newid mwyaf yn fy ngyrfa pan benderfynais i beidio ag aros i deimlo’n “barod” a dechrau dewis y cyfleoedd oedd yn fy herio i. Trodd pob her yn sgil, pob rhwystr yn ddata, ac roedd pob llwyddiant bach yn datblygu hunanhyder. Y meddylfryd hwn wnaeth fy ngwthio i o Brifysgol Caerdydd I ddod yn Gynghorydd Cyfreithiol Mewnol y Flwyddyn. Nid yw cynnydd yn digwydd yn ddamweiniol – mae’n benderfyniad bob dydd.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.