Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Mentora gyrfaol ar waith: O sgyrsiau i ddechrau gyrfa

21 Tachwedd 2025

Mae’r cyn-fyfyriwr Emma Barlow (BA 2009) yn Bennaeth Cynnwys yn Northstar, asiantaeth cynnwys bwtîc yn Llundain. Yn 2025, cymerodd ran yn rhaglen mentora myfyrwyr y Brifysgol a chafodd ei pharu â chyd-fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg, Erin Shiels (Llenyddiaeth Saesneg 2023–). Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu’n gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol.

Cafodd Emma ei hysbrydoli i ymuno â’r rhaglen ar ôl ei gweld yn ei chylchlythyr i gyn-fyfyrwyr. Â hithau wedi elwa o fentora anffurfiol yn gynharach yn ei gyrfa, roedd hi’n ei gweld yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl – ac ailgysylltu â’i gwreiddiau yng Nghaerdydd.

“Mae cwpl o bobl wedi bod yn fentoriaid i mi yn fy mywyd (p’un a oedden nhw’n sylweddoli hynny neu beidio!), ac rydw i bellach yn teimlo bod gen i rywfaint o brofiad a gwybodaeth i’w rhannu.”
Roedd y broses baru yn syml ac wedi’i chynllunio i gysylltu mentoriaid a mentoreion â diddordebau cyffredin a nodau cydnaws.

“Ysgrifennais baragraff byr amdanaf i fy hun a fy ngwaith a chefais fy mharu ag Erin – dyma bartneriaeth wych. Cawson ni amser da yn dod i adnabod ein gilydd mewn pum sesiwn ar-lein, ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i roi cipolwg ar farchnata cynnwys, hysbysebu a newyddiaduraeth.”

Wrth i’w perthynas fentora ddatblygu, sylweddolodd Emma pa mor werthfawr oedd y profiad i’r ddwy. Cynigodd gyfle i fyfyrio ar ei gyrfa ei hun wrth gefnogi myfyriwr a oedd yn cymryd ei chamau proffesiynol cyntaf.

“Cwpwl o oriau yn unig sy’n rhaid eu rhoi ac roedd edrych nôl ar fy nghynnydd yn fy ngyrfa, yn ogystal â bod o gymorth i’r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n ymuno â’r gweithle yn brofiad gwerth chweil.”

Daeth y profiad mentora ar adeg ddelfrydol i Erin. Yn ogystal ag astudio, roedd hi’n chwilio am arweiniad a syniadau am beth i’w wneud ar ôl graddio. Pan ddysgodd am y rhaglen fentora drwy ei Chynghorydd Gyrfaoedd yn y Brifysgol, penderfynodd roi cynnig arni.

“Mae pobl yn gofyn i mi drwy’r amser ‘beth wyt ti’n bwriadu ei wneud ar ôl y Brifysgol?’, a dydw i byth yn gwybod sut i ateb. Ar ddechrau’r ail flwyddyn doeddwn i heb ddatrys pethau eto, felly dechreuais bori drwy adnoddau’r Brifysgol i gael rhywfaint o gyngor.”

Ar ôl cael ei pharu ag Emma, dysgodd Erin yn gyflym fod y profiad mentora yn rhoi hyder ac eglurder iddi am ei dyfodol.

“Gwnaeth mentora gydag Emma fy helpu i dawelu fy meddwl rhag poeni am y dyfodol. Cwrddais i â rhywun a oedd wedi bod ar yr un daith â fi ac wedi llwyddo, yn union fel y bydda i’n ei wneud.”
Pan ddaeth y rhaglen fentora i ben, gwelodd Emma gyfle i fynd cam ymhellach.

“Ar ôl sawl sesiwn ar-lein gydag Emma, daeth yn amlwg ein bod wedi sefydlu perthynas dda, ac roeddwn i wedi rhannu llawer am fy ngwaith a’r diwydiant. Roeddwn i’n gwybod y byddai profiad gwaith yn werthfawr – fel yr oedd wedi bod i mi – a byddai Erin yn ffitio i mewn yn berffaith yn Northstar. Diolch byth, cytunodd fy nghyfarwyddwyr gwych.”

Adeiladodd yr interniaeth ar y pethau roedden nhw wedi’u trafod yn ystod eu sesiynau mentora a rhoddodd gyfle i Erin weld yn uniongyrchol sut mae’r diwydiant yn gweithio.

“Roedd yr interniaeth yn gyfle anhygoel i mi weld popeth roedd Emma wedi sôn amdano, yn ogystal â chael rhywfaint o brofiad ymarferol. Rwy’n gobeithio y bydd y sgiliau rydw i wedi’u dysgu yma yn fy helpu yn fy ngyrfa, yn ogystal â gwneud i mi ymgyfarwyddo ag amgylchedd swyddfa yn hytrach nag ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd.”

Mae Erin bellach yn teimlo llawer yn fwy parod ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae’n ddiolchgar am yr anogaeth a chefnogaeth y mae wedi’u derbyn drwy’r rhaglen.

“Byddwn i’n bendant yn argymell bod myfyrwyr eraill yn cymryd rhan yn y rhaglen mentora gyrfaoedd. Mae wedi bod mor wych i mi ac yn bendant wedi tawelu fy meddwl o ran poeni am fy nyfodol. Mae hefyd yn hawdd iawn i’w gwneud ac yn hyblyg o amgylch eich astudiaethau – chi a’ch mentor sy’n dewis amser y galwadau.”

Dim ond un o gannoedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi cefnogi myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd drwy fentora ac interniaethau yw Emma.

Mae Tîm Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr y Brifysgol yn chwilio am gyflogwyr a hoffai gefnogi myfyrwyr yn y dyfodol. Dysgwch ragor am y cymorth sydd ar gael.

Mae croeso i chi hefyd gysylltu â’r Tîm Profiad Gwaith ar LinkedIn i gael diweddariadau rheolaidd am eu holl gynlluniau a chyfleoedd.