Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd – ‘Flossing It’

3 Tachwedd 2025

Yn y rhifyn arbennig hwn o Bossing It – ‘Flossing It’, siaradon ni â rhai o’n cymuned wych o gyn-fyfyrwyr a rannodd eu profiadau o’u hamser yn astudio ar raglenni deintyddol ôl-graddedig Prifysgol Caerdydd. Mae’r cyrsiau arbenigol hyn mewn Endodonteg, Prosthodonteg, Mewnblanoleg a Orthodonteg yn grymuso clinigwyr i ehangu eu harbenigedd, mynd i’r afael ag achosion cymhleth gyda hyder, ac agor cil y drws i gyfleoedd proffesiynol newydd.

Dr Sasha Gracias (MClinDent 2025)

Cymhwysodd Sasha fel deintydd yn 2020 yn India. Cwblhaodd hi radd Meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Endodonteg) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2025. Mae hi’n aelod o’r Gyfadran Ddeintyddiaeth yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Iwerddon ac mae hi hefyd wedi pasio arholiad aelodaeth mewn endodonteg gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin. Mae hi bellach yn gweithio mewn practis yn Newcastle, gan gynnig gofal deintyddol y GIG a phreifat gan ganolbwyntio ar endodonteg.

Aeth fy mhrofiad y tu hwnt i’r ystafell dosbarth

Roedd fy amser yng Nghaerdydd yn allweddol wrth greu sylfeini cryf ar gyfer deall prosesau clefydau endodontegol. Dysgais i sut i fynd i’r afael ag achosion heriol gyda thystiolaeth orau gyfredol i gefnogi fy mhenderfyniadau. Drwy drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth a thrafodaethau clinigol, enillais i’r hyder i ymgymryd ag achosion rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol cymhleth ac i fynnu cael fy nghydnabod ymhlith cydweithwyr a chyfoedion.

Roedd cyfeiriadau bob amser at oblygiadau byd go iawn ymarfer endodonteg. Cefais fy hyfforddi gan dîm rhagorol o oruchwylwyr a oedd yn fy arwain gyda’u syniadau arbenigol a’u defnydd o dechnegau a deunyddiau. Drwy hyn, datblygais i sgiliau technegol annibynnol wrth gynnig gofal o safon uwch.

Gwnes i hefyd y gorau o’r nifer o gyfleoedd oedd ar gael i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol tra roeddwn i ym Mhrifysgol Caerdydd – o fynd i gynadleddau arbenigol wedi’u trefnu gan Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a’r Sefydliad ar gyfer Astudio Dramor, i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth fel Cynrychiolydd Myfyrwyr ac fel Cynorthwyydd Bywyd Preswyl. Gwnaeth Gwobr Caerdydd Dyfodol Myfyrwyr a’u cyngor personol fy helpu i baratoi i ddeall y farchnad swyddi fel darpar endodontydd. Ar y cyfan, rhoddodd fy mhrofiad yn y Brifysgol i mi’r arbenigedd clinigol, yr hyder, a’r ddealltwriaeth broffesiynol oedd eu hangen arnaf i ragori yn fy ngyrfa a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon i’r maes.

Karrar Al-Kadhim (MSc 2017)

Mae Karrar yn fewnblanydd sy’n gweithio yn Basra, Irac. Ers graddio o Brifysgol Caerdydd gyda MSc mewn Mewnblanoleg, mae wedi dod yn un o’r arbenigwyr ym maes mewnblannu sy’n cael ei argymell mwyaf aml yn ei ranbarth, gan ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar lawdriniaethau i osod mewnblaniadau. Mae yn darlithio’n genedlaethol, yn rhedeg ei gyrsiau hyfforddiant ei hun mewn mewnblanoleg sylfaenol ac yn astudio am PhD gyda chydran glinigol yn yr un maes.

Cefais fwy na sgiliau clinigol

Roedd cwblhau’r MSc mewn Mewnblanoleg ym Mhrifysgol Caerdydd (2015 – 2016) yn gam trawsnewidiol yn fy ngyrfa. Nid yn unig y cryfhawyd y rhaglen fy sgiliau clinigol gan y rhaglen – yn cynllunio, yn mewnosod ac yn adfer mewnblaniadau gyda hyder – ond hefyd rhoddodd y gallu i mi arfarnu tystiolaeth yn feirniadol a chyhoeddi fy nhraethawd hir mewn cyfnodolyn uchel ei fri.

Gwnaeth yr hyfforddiant fy mharatoi i wneud triniaethau uwch megis impio esgyrn a llawdriniaethau mewnblannu cymhleth, a wnaeth helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda meddygon teulu a ddechreuodd gyfeirio eu hachosion ataf i. Mae’r sefydliad hwn wedi caniatáu i mi ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar fewnblanoleg a sefydlu fy hun yn arbenigwr blaenllaw yn Basra ac mae wedi fy ysbrydoli i wneud PhD gyda chydran glinigol yn yr un ysgol.

Dr Jhenelle Black (MSc 2025)

Deintydd o Jamaica sydd â deng mlynedd o brofiad yw Jhenelle, ac mae ganddi hyfforddiant ôl-raddedig ym maes Endodonteg o Brifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gweithio mewn nifer o glinigau preifat ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn Sefydliad Endodonteg y Caribî yn Kingston, Jamaica. Y tu hwnt i ymarfer clinigol, mae hi’n darlithio i fyfyrwyr deintyddol israddedig mewn addysgu didactig a chlinigol, yn gweithio fel Arholwr Allanol ym Mhrifysgol India’r Gorllewin ac wedi trefnu rhaglenni allgymorth deintyddol i ddarparu gofal i gymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn Jamaica.

Roedd mentora’n hanfodol i fy llwyddiant

Roedd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn brofiad trawsnewidiol a’m gwnaeth i hyd yn oed yn fwy angerddol dros Endodonteg. Gwnaeth y rhaglen fy herio i wthio fy ffiniau a rhoi hyder i mi yn fy sgiliau. Fel un o ddim ond pedwar Endodontydd yn Jamaica, mae fy agwedd at ymarfer preifat yn cael ei lunio gan yr addysgu a’r llif gwaith clinigol a feithrinwyd ynof i yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd. Rwy’n hynod ddiolchgar am yr ymgynghorwyr a gyfoethogodd fy hyfforddiant gyda’u o gwybodaeth gynhwysfawr, eu harbenigedd clinigol a’u harweiniad. Rhoddodd eu mentoriaeth hyder i mi reoli achosion endodontegol cymhleth ac mae yn parhau i ysbrydoli fy nhwf fel clinigwr ac fel athro.

Aisha Ashukri (MClinDent 2025)

Enillodd Aisha ei Gradd mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol o Brifysgol Tripoli. Wrth ddilyn ei hangerdd dros ddeintyddiaeth adferol, bu’n gwneud gradd meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mireiniodd ei sgiliau mewn teclynnau prosthodonteg parhaol, y gellir eu tynnu, a mewnblaniadau. Mae hi wedi cwblhau’r arholiad ymadael arbenigol mewn prosthodonteg o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin, ac wedi cyflwyno posteri mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Alisha yn glinigwr ymroddedig sy’n cyfuno arbenigedd clinigol â dull amlddisgyblaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni deilliannau sy’n rhagweladwy ac yn foddhaol o ran eu hesthetig.

Yn y Brifysgol, dysgais i’r “rheswm pam”

Roedd fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn drobwynt sylweddol yn fy ngyrfa. Gwnaeth y rhaglen meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) fy ngwthio i feddwl y tu hwnt i’r achosion arferol a gwir ddeall y “rheswm pam” y tu ôl i bob penderfyniad. Drwy weithio yn ysbyty deintyddol y Brifysgol, dysgais i sut i reoli achosion cymhleth gyda hyder a sut i gydweithio’n effeithiol. Diolch i’r dull hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, drwy glybiau cyfnodolion, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau o achosion, rhoddwyd min ar fy nghrebwyll clinigol a fy ffordd o cyfathrebu fel gweithiwr proffesiynol. Rhoddodd yr hyfforddiant hwnnw’r sylfaen a’r hyder i mi sefyll fy arholiad ymadael arbenigol gyda’r Coleg Brenhinol a symud yn agosach at gofrestru’n llawn fel prosthodontydd nôl adref.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.