Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Wedi graddio, beth nawr?’ 5 awgrym er mwyn dod yn seren newydd ar ôl graddio

30 Medi 2025

Rydych chi wedi diosg eich cap, wedi dathlu eich cyflawniadau, felly beth nesaf? Mae graddio yn garreg filltir enfawr, ond gall penderfynu beth yw’r camau nesaf i chi deimlo’n frawychus. P’un a ydych chi’n chwilio am eich swydd gyntaf ar ôl graddio, yn chwilio am gyfleoedd i rwydweithio neu’n dysgu am yr hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Buon ni’n siarad â rhai o’n cyn-fyfyrwyr gwych i gael yr awgrymiadau gorau er mwyn dod yn seren newydd ar ôl graddio.

Toby Doman (BScEcon 2003)

Toby yw Pennaeth Cyfathrebu Allanol PPF Group, sef busnes buddsoddi Ewropeaidd o Prague. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad yn cynghori amrywiaeth o sefydliadau byd-eang ar faterion corfforaethol, enw da, diplomyddiaeth gyhoeddus a materion sy’n ymwneud â chysylltiadau â’r cyfryngau.

Cyn dychwelyd i Ewrop yn 2024, treuliodd ddegawd yn Hong Kong a Singapore, yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau. Roedd y rhain yn cynnwys, Pennaeth Cyfathrebu Grŵp y gweithredwr ariannol defnyddwyr byd-eang Home Credit ac arwain ar gyfathrebu yn Asia a’r Môr Tawel yn Dow Jones a Wall Street Journal. Mae gan Toby brofiad hefyd yn y sector darlledu ar ôl gweithio fel cyflwynydd ar radio masnachol yn y DU, radio lleol y BBC ac ar raglenni radio sgyrsiol yn Singapore.

Dewch o hyd i’ch ffordd eich hun.

Mae’r wisg graddio bellach yn ôl yn ddiogel gyda’r cwmni rhentu a’r hydref yn ymestyn. Beth sydd nesaf? Peidiwch â rhuthro, yw fy nghyngor i. Ydych chi’n siŵr eich bod chi eisiau dilyn gyrfa yn y pwnc a astudioch chi? Os wnaethoch chi gymryd rhan yn un o gymdeithasau’r Brifysgol (Xpress Radio a gweithio fel DJ wnaeth arwain at fy nghyfleoedd gwaith cyntaf,) hwyrach y bod hynny’n ffordd wahanol i ddod o hyd i rywbeth sy’n rhoi boddhad i chi. Nid y llwybr mwyaf amlwg sy’n eich arwain chi at ble rydych chi eisiau mynd bob amser. Dyw gyrfaoedd ddim yn rhagweladwy bellach. Peidiwch â bod ofn cymryd y llwybr anghyffredin wrth ddechrau arni.

Rosie Johns (BA 2014)

Mae Rosie yn meddu ar ddegawd o brofiad yn y diwydiant marchnata, gan weithio i gyhoeddwyr llyfrau byd-eang ac annibynnol, busnesau nid-er-elw, sefydliadau celfyddydol ac asiantaethau marchnata. Ymhlith ei harbenigeddau y mae creu cynnwys, y cyfryngau cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio ac allgymorth. Mae hi wedi rheoli ymgyrchoedd, cynnal digwyddiadau ac wedi lansio gwefannau ar gyfer brandiau mawr a bach, gan gynnwys PUIG, Llywodraeth Cymru, Penguin Random House, a Go.Compare. Yn ei hamser hamdden, mae Rosie hefyd yn rhedeg busnes crochenwaith â llaw o’r enw Heath and Sea.

Ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dewis eich llwybr gyrfa? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dysgu am realiti’r diwydiant cyn i chi ymrwymo iddo.

Yn aml, gall realiti gweithio mewn diwydiant penodol fod yn wahanol iawn i sut rydych chi’n ei ddychmygu pan fyddwch chi’n astudio ar gyfer eich gradd. Rwy bob amser yn cynghori graddedigion i ennill profiad bywyd go iawn er mwyn deall sut beth fydd y gwaith – ac i wneud yn siŵr ei fod yr union beth rydych chi ei eisiau. Chwiliwch am leoliadau profiad gwaith ac interniaethau ac ystyriwch ystod eang o gyfleoedd. Efallai y byddwch chi’n dysgu bod swydd neu ddiwydiant nad oeddech chi wedi’i ystyried o’r blaen yn fwy addas i chi.

Pan raddiais, neidiais i mewn i yrfa ym maes cyhoeddi llyfrau. Dysgais i nad oedd y diwydiant mor flaengar ag yr oeddwn i’n ei feddwl ac nad oedd yn rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy niddordeb mewn data a dadansoddeg. Dros sawl blwyddyn, edrychais am rolau yn y diwydiant celfyddydau, gydag elusennau a brandiau. Yn y pen draw, symudais i’r diwydiant marchnata i rôl rwy’n ei mwynhau’n fawr.

Dr Tom Tatchell (BSc 2002, PhD 2006, MBA 2024)

Mae gan Tom dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Uwch, a hynny’n arbenigo mewn strategaeth addysg, gwella gweithredol a rhoi profiad rhagorol i fyfyrwyr. Sefydlodd Tom ei gwmni ei hun, Better Generation Solutions, ac mae bellach yn ei arwain. Mae’n cynnig gwasanaeth ymgynghori a hyfforddi gweithredol i sicrhau bod arferion y sectorau addysg, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynaliadwyedd yn cyd-fynd â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Peidiwch ag anghofio am Brifysgol Caerdydd!

Rydych chi wedi graddio – llongyfarchiadau! Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gadael Prifysgol Caerdydd ar ôl gorffen eich astudiaethau, ond peidiwch ag anghofio amdanon ni!

Mae bod yn gyn-fyfyrwyr yn fwy na dim ond clywed am ganlyniadau Varsity [INSERT LINK] yn nhymhorau’r gwanwyn yn y dyfodol…! Bydd eich cysylltiad â’r brifysgol hon yn para’n hir ar ôl i chi raddio, a bydd y cysylltiad hwnnw’n arwain at gyfleoedd. I chi ac i fyfyrwyr y Brifysgol yn y dyfodol.

Ar ôl graddio a chael swydd, mae nifer o gyfleoedd ar gael i barhau i ymwneud â’r Brifysgol. Bydd eich alma mater yn falch o’ch croesawu i roi cyflwyniadau ynglŷn â’ch gyrfa a chyfleoedd cyflogaeth posibl i raddedigion y dyfodol. Gallwch chi fod yn enghraifft flaenllaw o’r hyn a wnaethoch chi â’ch gradd a’r sgiliau a ddatblygoch chi ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallai eich cyflogwyr, neu hyd yn oed eich cwmni eich hun (os aethoch chi ati i sefydlu eich busnes eich hun) ystyried croesawu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Interniaethau, prosiectau ymchwil, a nawdd – dyma ffyrdd o roi rhywbeth yn ôl a dylanwadu’n gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion yr Ysgol.

Mae wastad “bwlch” rhwng yr hyn y mae prifysgolion yn ei gynhyrchu a’r hyn y mae diwydiant ei eisiau. Dyma gyfle i fynd i’r afael â hyn a rhoi adborth ynghylch pa sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant a pha heriau sydd ar y gorwel er m wyn i brifysgolion ymateb a rhoi hyfforddiant yn y meysydd allweddol hynny i leihau’r bwlch.

Peidiwch ag anghofio am Brifysgol Caerdydd – efallai y bydd angen ei graddedigion arnoch chi yn y dyfodol…

Grace Munyiri (MSc 2023)

Grace yw sylfaenydd Cacumator Mentorship, menter arobryn sy’n ceisio grymuso merched ifanc o Affrica drwy addysg, mentoriaeth a gwaith datblygu gyrfa ym maes STEM.

Yn ogystal â gweithio ym maes effaith gymdeithasol, mae hi’n wyddonydd data ac yn frwd dros ddeallusrwydd artiffisial, ac mae ganddi arbenigedd mewn gwyddor data, dysgu peirianyddol a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.

Mae Grace yn cyfuno ei chefndir technegol ag angerdd dros arloesi cynhwysol, gan ddefnyddio data a thechnoleg i ddatrys problemau cymhleth wrth greu cyfleoedd i eraill.

Arhoswch yn wydn.

Ar ôl graddio, roeddwn i’n meddwl bod llwyddiant yn golygu gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud yn syth. Y gwir amdani yw, anaml y mae gyrfaoedd yn llinol; maen nhw’n datblygu’n raddol ac yn aml yn mynd i gyfeiriadau annisgwyl. Fy nghyngor yw aros yn chwilfrydig, buddsoddi mewn dysgu parhaus a manteisio ar y cyfleoedd sy’n eich herio i gamu i dir anghyfarwydd.

Daeth rhai o fy mhrofiadau mwyaf gwerthfawr o ddweud ‘ie’ cyn i mi deimlo’n hollol barod. Mae rhwydweithio a mentora hefyd wedi cael effaith bwysig, oherwydd gall y bobl iawn ddatgloi cyfleoedd annisgwyl a chynnig cefnogaeth yn ystod cyfnodau anodd.

Yn bwysicaf oll, credwch yn eich potensial, hyd yn oed pan nad yw’r ffordd ymlaen yn glir. Mae twf yn cael ei sbarduno gan gysondeb, gwydnwch ac ymrwymiad dyddiol i ddysgu. Byddwch yn hyderus y bydd pob cam a gymerwch chi, ni waeth pa mor fach ydyw, yn llywio eich dyfodol.

Deio Owen (BA 2023)

Deio oedd Swyddog y Gymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac roedd e’n swyddog sabothol yn ystod 2023/24. Mae bellach yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn cynrychioli myfyrwyr yng ngholegau a phrifysgolion Cymru, a phrentisiaid yng Nghymru. Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Astudiodd y Gymraeg a Gwleidyddiaeth.

Mae dyfalbarhad yn allweddol.

Peidiwch ag anghofio pwy ydych chi ac o ble rydych chi’n dod. Rydych chi’n newid llawer yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, p’un a ydych chi’n sylweddoli hynny ai peidio. Cofiwch am yr hyn a wnaeth eich ysgogi yn ystod eich astudiaethau a chadw’r un brwdfrydedd wrth adael y Brifysgol. Dyfal donc a dyr y garreg – dywediad Cymraeg – bydd dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed, daliwch ati pan fydd pethau’n anodd.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.