Sut i osgoi gorflino – Bossing It
23 Gorffennaf 2025
Yn y byd proffesiynol heddiw, gall y pwysau i berfformio deimlo’n ddi-baid, ond ni ddylai llwyddo ddod ar draul eich lles. P’un a ydych chi’n dringo’r ysgol gorfforaethol neu’n ceisio dod o hyd i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, mae dysgu sut i amddiffyn eich egni a’ch iechyd meddwl yn allweddol er mwyn i chi ffynnu – nid goroesi yn unig – yn y gwaith. Gwnaethon ni siarad â rhai o’n cymuned o gyn-fyfyrwyr anhygoel sydd wedi cynnig eu safbwyntiau ar sut i osgoi gorflino yn y gweithle.

Togzhan Talibayeva (BSc 2017, MSc 2018)
Mae Togzhan yn Rheolwr Marchnata Digidol yng nghwmni Gridlines, gwasanaeth ymgynghori modelu ariannol byd-eang. Mae hi’n arbenigo ym maes strategaeth, cynnwys, a marchnata ar sail perfformiad gyda ffocws ar dwf sy’n cael ei arwain gan ddata.
Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig a’i gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, datblygodd ei gyrfa ym maes y gwasanaethau proffesiynol. Mae gan Togzhan ddiddordeb penodol yn y cysylltiad rhwng marchnata, gwerthu a systemau gyda ffocws hirdymor ar weithrediadau refeniw, technoleg marchnata, a dod o hyd i adnoddau sy’n helpu i wneud timau yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol yn fasnachol.
Gosodwch eich ffiniau eich hun
Nid yw gorludded yn golygu gweithio gormod yn unig. Mae’n ymwneud â gweithio heb gael y cyfle i gamu’n ôl neu weld y darlun ehangach. O ran marchnata digidol mae yna wastad ymgyrch arall i’w haddasu, neu adroddiad arall i’w ddadansoddi. Rwy wedi dysgu i fod yn agored am fy llwyth gwaith ac i dynnu sylw at bethau’n gynnar os ydyn nhw’n mynd yn ormod. Mae hefyd yn helpu’r tîm i gynllunio’n well.
Rwy’n neilltuo amser i ganolbwyntio ar waith pwysig heb unrhyw ymyriadau. Rwy’n dewis peidio mynd i gyfarfodydd lle nad oes angen i mi gyfrannu ac yn defnyddio hidlydd effaith-ymdrech cyflym i ganolbwyntio ar beth sydd wir yn gwneud gwahaniaeth. Gan amlaf, rwy’n anelu at gyflawni tri pheth pwysig y dydd. Rydyn ni hefyd yn agored am faint o waith sydd gennym ni er mwyn gwneud yn siŵr bod neb yn dioddef mewn tawelwch.
Rwy’n gosod nodau sy’n fy ysbrydoli i ac yn rhoi egni i mi, a chanolbwyntio ar ble rwy eisiau mynd a phwy rwy eisiau bod. Mae hynny’n fy helpu i ganolbwyntio. Ac rwy’n ceisio bod yn garedig gyda fy hun. Mae rhai diwrnodau’n wych, a rhai ddim. Mae hynny’n iawn.
Ar lefel bersonol? Rwy’n ceisio peidio â dechrau fy niwrnod yn gweithio. Rwy’n deffro ac yn mynd am dro, i’r gampfa, neu i ddarllen llyfr. Pan rwy’n gwneud hynny, mae’n newid naws popeth.
Shelley Pascual (MA 2017)

Mae Shelley yn Uwch Arbenigwr Cyfathrebu gyda chwmni Siemens Healthineers, gyda dros ddegawd o brofiad rhyngwladol mewn busnesau newydd a chorfforaethau. Yn gyn-newyddiadurwr, mae hi’n mwynhau llunio straeon a chynnwys sy’n helpu pobl yn y pen draw.
Y tu allan i’r gwaith, mae hi wrth ei bodd yn gweld y byd gyda’i theulu, mynd ar anturiaethau dyddiol gyda’i phlentyn bach, pobi, a herio ei hun i roi cynnig ar bethau newydd – o sgïo i ddysgu Eidaleg.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddadflino
Ar ôl dod yn agos at orweithio ychydig o weithiau, rwy wedi dysgu blaenoriaethu gweithgareddau sy’n fy helpu i ddadflino, megis ysgrifennu mewn dyddiadur wrth fwyta brecwast, gwneud Pilates yn ystod amser egwyl a chael sgyrsiau rhithwir ysbrydoledig gyda chydweithwyr wrth gerdded yn yr awyr agored.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rwy wedi dysgu sefydlu ffiniau iach trwy therapi. Mae hyn yn cynnwys cadw at amseroedd penodol ar gyfer cau fy ngliniadur ar ddiwedd y dydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur. Mae fy therapydd hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn hobïau. Mae cymryd rhan mewn prosiectau ysgrifennu ystyrlon wedi caniatáu i mi ddod o hyd i gydbwysedd a chyflawniad gan fy atgoffa mai dim ond un agwedd ar fy mywyd yw fy ngyrfa.

Liz Cochlin (BA 2000)
Mae Liz (hi) yn arweinydd technoleg medrus sydd â hanes diamheuol o ysgogi trawsnewidiadau digidol ar raddfeydd mawr a meithrin timau sy’n rhagori. A hithau wedi ennill y wobr CIO 100 fawreddog yn 2024, mae gan Liz brofiad helaeth ym maes Gweithrediadau TG, Seiberddiogelwch, Pensaernïaeth TG, a Rheoli Prosiectau. Mae hi’n eiriolwr cryf dros les yn y gweithle, yn angerddol am wella prosesau, chwalu rhwystrau, a chreu amgylcheddau lle gall unigolion ffynnu. Mae Liz yn mynd ati’n rhagweithiol i fentora yng nghymuned Menywod ym maes Technoleg ac mae wedi ymrwymo i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle a thu hwnt. Ar hyn o bryd, mae hi’n arwain gwasanaethau technoleg English Heritage, lle mae’n llywio proses trawsnewid digidol cyffrous, ac yn aelod o fwrdd Academi Gwyddor Data Prifysgol Caerdydd.
Ystyriwch wneud pethau’n raddol
Mae gorflino’n rhywbeth rwy wedi’i brofi fwy nag unwaith yn fy ngyrfa ac un o’r technegau rwy wedi dysgu amdani yw gwneud pethau’n raddol. Mae’n hawdd mynd i batrwm ‘ffynnu a methu’ lle byddwn ni’n gorweithio am gyfnodau ac yna’n curo wal, gan deimlo ein bod wedi’n llethu a bod y tanc yn wag. Ceisiwch ddod yn fwy ymwybodol o’r egni sydd gennych chi a sut mae’n amrywio trwy gydol y dydd, yr wythnos a’r mis. Sylwch ar y gweithgareddau sy’n rhoi hwb i’ch egni a’r rhai sy’n eich blino. Yna daw hi’n haws cynllunio amserlen realistig sy’n gynaliadwy i chi a’ch anghenion unigol.
Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.
- Tachwedd 2025
- Medi 2025
- Gorffennaf 2025
- Mehefin 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018