Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Hanes byr o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr

17 Mawrth 2025

Mae Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (APS), a gafodd ei sefydlu ym 1889, wedi bod yn gymuned fywiog a gweithgar i gyn-fyfyrwyr o sefydliadau a ragflaenodd Prifysgol Caerdydd fel colegau ym Mhrifysgol Cymru, hyd heddiw.

Mae’r “APS” – fel yr oedd rhai yn ei hadnabod – bob amser wedi cynrychioli buddiannau cymunedau o raddedigion. Mae wedi dathlu cyflawniadau cyn-fyfyrwyr ym meysydd llenyddiaeth a’r celfyddydau, mewn gwyddoniaeth a phensaernïaeth, ac mewn sawl agwedd arall ar fywyd y maen nhw wedi llwyddo ynddyn nhw.

Mae archifau’r Brifysgol yn cynnwys rhai o bapurau’r APS. Mae un, y credir iddo ddyddio’n ôl i 1910, yn diwygio “rheolau ac amcanion cyffredinol” yr APS ac mae ambell berl rhyfeddol i’w gael ynddo:

“a Life Membership Subscription shall be one guinea” (mae’n ymddangos bod hyn wedi cael ei ddiwygio â llaw i ‘Two Guineas’, o bosibl yn ddiweddarach);

“Officers of the Association shall be… a President… five (!) Vice-Presidents… an Honorary Treasurer… and Two Hon. Secretaries, one of whom shall be a man and one a woman….”   Mae nodyn arall yn pwysleisio “Women shall be eligible for all or any of the Offices of the Association”.  (Teimlwyd bod pwyslais o’r fath yn ddiangen yn nrafftiau’r Cyfansoddiad ym 1988 a 1998!)

Roedd amcanion yr APS yn cynnwys meithrin a chynnal cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’i chyn-fyfyrwyr; gan annog cymwynasau a chefnogaeth i’r Brifysgol; hyrwyddo buddiannau cyn-fyfyrwyr; a hyrwyddo ac annog gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a gweithgareddau eraill. Yn ei anterth, roedd yr APS yn rhagori ar yr amcanion hyn yn gymuned fywiog a gweithgar.

Ym 1988, pan unodd Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru i ffurfio Prifysgol Cymru, Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach), ymunodd y cymdeithasau cyn-fyfyrwyr â’i gilydd i greu un gymdeithas gyn-fyfyrwyr newydd. Parhaodd y “Gymdeithas” gyfunol, newydd hon gydag amcanion tebyg i’r rhai gwreiddiol — ac ychwanegwyd mwy o gyn-fyfyrwyr pan ymunodd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Cymru â Phrifysgol Caerdydd yn 2004.

Parhaodd yr ymrwymiad a’r egni a fuddsoddwyd gan amrywiaeth o wirfoddolwyr a oedd yn gyn-fyfyrwyr am flynyddoedd lawer. Roedd digwyddiadau’n cynnwys te prynhawn gyda mefus a hufen, nosweithiau cwis, ocsiynau tawel, twrnameintiau golff, teithiau rheolaidd i’r opera, cinio, cyflwyniadau, a hyd yn oed ymweliadau tramor.

Roedd cinio blynyddol nodedig yn cynnwys siaradwyr gwadd mawreddog, o arweinwyr y Brifysgol i gyn-fyfyrwyr nodedig, megis yr Arglwydd Kinnock o Bedwellty; yr actor enwog Philip Madock; yr awdur sydd wedi ennill gwobr Booker, Bernice Rubens; y Farwnes Finlay o Landaf; a llawer mwy.

Roedd yr holl weithgareddau hyn yn costio. Mae incwm Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn deillio o “danysgrifiadau bywyd” a dalwyd gan fyfyrwyr sy’n graddio – y tu hwnt i “un gini” (neu hyd yn oed ddwy), mae aelodau wedi cofio bod y ffi yn £5 yn y 1960au, £10 yn y 1970au a chymaint â £20 yn y 1980au. Roedd cymhorthdal gan Undeb y Myfyrwyr, a dalwyd ar sail fesul myfyriwr graddedig, hefyd yn rhoi incwm am gyfnod.

Roedd aelodaeth yr APS hefyd yn gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr. Roedd gan yr aelodau hawliau megis defnyddio cyfleusterau chwaraeon a llyfrgell y Brifysgol.

Daeth newidiadau sylweddol eraill yn y 1990au. Ym 1994, roedd yn ofynnol i Undebau Myfyrwyr ddod yn elusennau annibynnol yn ôl deddfwriaeth, felly daeth incwm yr APS gan Undeb y Myfyrwyr i ben. Yna ar ddiwedd y 1990au, dechreuodd Prifysgol Caerdydd ddatblygu ei chronfa ddata o gyn-fyfyrwyr (“alumni”), gyda chefnogaeth sylweddol gan gofnodion rhagorol APS.

Erbyn 2004, pan sefydlwyd y Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr yn ffurfiol, roedd yr APS yn dal i fod yn weithredol ond yn dechrau cael trafferth yn diwallu anghenion corff o gyn-fyfyrwyr a oedd yn tyfu’n gyflym ac yn dod yn gynyddol fyd-eang. Heddiw, mae bron i 10,000 o gyn-fyfyrwyr newydd yn cael eu hychwanegu at restrau enwau ‘cyn-fyfyrwyr’ bob blwyddyn, gan gynnwys miloedd o gyn-fyfyrwyr tramor.

Mae aelodau’r APS wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd y Brifysgol. Er enghraifft, mae’r Gwasanaeth Coffa bellach yn rhan bwysig o galendr blynyddol y Brifysgol ac mae’n cael ei ddathlu o flaen placiau coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd (y talodd yr APS amdanyn nhw a’u creu) sydd bellach wedi cael eu gosod yn y Prif Adeilad. Mae’r gwasanaeth yn adeiladu’n rhannol ar ginio coffa Neuadd Aberdâr a oedd yn cael ei drefnu gan Bill John a Mary Maddock Williams am flynyddoedd lawer.

Mae Regalia’r APS (Bathodyn Swyddfa’r Llywydd, a rhuban seremonïol) bellach yn cael eu cadw yn Archifau Prifysgol Caerdydd, fel bod cenedlaethau o fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a ffrindiau Prifysgol Caerdydd yn gallu dysgu am yr APS a’i chofio yn y dyfodol.

Mewn partneriaeth â Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr, mae’r APS bellach yn bwriadu gosod plac coffa yng Ngerddi Coffa’r Brifysgol (y tu ôl i Adeilad Aberconwy) a fydd yn coffáu Stephen Whitehouse, myfyriwr ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd a fu farw ar ddyletswydd gwylio tân ar do yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod blynyddoedd olaf yr APS, gyda llai o gapasiti i gynnal digwyddiadau a gyda Chyngor Gweithredol oedd yn heneiddio, bu lleihad yn ei gweithgarwch. Ond bydd aelodau ffyddlon yr APS yn cael eu cynnal gan gyfeillgarwch hirsefydlog ac atgofion o gymuned hapus. Hoffen nhw ddymuno’r gorau i dîm Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr wrth iddyn nhw annog a meithrin cyfeillgarwch a chymuned ymhlith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.