Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Drwy dderbyn myfyriwr yn intern, roedd pawb ar eu hennill!

14 Mawrth 2025
Alumnus Dr Mark Davies and student Harvy Davies in the RINA office.

Y cyn-fyfyriwr Dr Mark Davies (BEng 1994, PhD 1999) yw Cyfarwyddwr Trosglwyddo a Dosbarthu Pŵer y DU yn RINA – cwmni byd-eang sy’n cynnig datrysiadau profi, archwilio, ardystio a pheirianneg. Yn 2024, derbyniodd ef a’i gwmni fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn intern am saith wythnos dros yr haf, gan ei helpu i fagu profiad, datblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer byd gwaith.

Roedd Harvy Davies (Peirianneg Drydanol ac Electronig 2024-) yn teimlo bod y lleoliad gwaith yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn gyfle iddo gael profiad ymarferol wrth astudio, gan gynnwys gwella ei CV.

“Gweithiais i ar brosiect yn ystod y lleoliad gwaith, ac uchafbwynt oedd gweld peirianwyr RINA yn ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar safle.

Mae’r farchnad swyddi’n hynod gystadleuol y dyddiau ‘ma, ac mae’r interniaeth hon wedi fy rhoi mewn sefyllfa dda iawn. Mae gallu nodi’r profiad hwnnw ar fy CV yn amhrisiadwy. Mae’r profiad hefyd wedi rhoi gwir hwb i fy hyder.”

Dywedodd Mark, a astudiodd Beirianneg Drydanol ac Electronig ei hun ym Mhrifysgol Caerdydd: “Uchafbwynt cynnig lleoliad gwaith i fyfyriwr oedd cael unigolyn galluog a brwdfrydig oedd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar brosiect. Oherwydd hynny, roedd modd symud y gwaith yn ei flaen yn llawer cyflymach.

Roedd yr interniaeth yn ffordd wych i RINA ddatblygu prosiect arloesi a allai fod wedi’i roi o’r neilltu fel arall oherwydd pwysau amser. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i Harvy gael profiad gwerthfawr a datblygu i ategu ei astudiaethau academaidd, a fydd yn gwella ei gyflogadwyedd, gobeithio. Mae pawb ar eu hennill!”

Daeth y lleoliad gwaith i ben ar ôl saith wythnos, ond mae Mark a’i gwmni, a oedd mor falch o waith Harvy, wedi cyflogi Harvy yn rhan-amser ers hynny er mwyn iddo barhau â’i waith ar y prosiect o amgylch ei astudiaethau.

Dim ond un o nifer o gyn-fyfyrwyr sydd wedi helpu myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd i gael profiad gwaith drwy interniaeth yw Mark. Mae Tîm Profiad Gwaith y Brifysgol yn chwilio am gyn-fyfyrwyr a hoffai gynnig interniaeth yr haf hwn i fyfyriwr neu fyfyriwr graddedig. Darganfod mwy am y cymorth y gallant ei gynnig.

Mae croeso i chi hefyd gysylltu â’r Tîm Profiad Gwaith ar LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau a’i gyfleoedd.