Deng mlynedd o gyfleoedd byd-eang
14 Mawrth 2025
Eleni, mae’n ddegawd ers sefydlu rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi tua 8,000 o fyfyrwyr i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrochi mewn diwylliant newydd a phrofi bywyd mewn gwlad arall. Mae byw dramor yn eu helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, datblygu rhwydwaith rhyngwladol, a meithrin safbwynt byd-eang sy’n eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o’n rhoddwyr hael wedi cefnogi’r rhaglen, gan ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr gymryd rhan, waeth beth fo’u sefyllfa ariannol.

Aeth Camille Stanley (BA 2019) i Ganada i astudio marchnata yn rhan o’r Rhaglen Haf ryngwladol. Bu’r profiad o gymorth iddi ddatblygu sgiliau mewn maes pwnc newydd, a’i pharatoi i weithio dramor.
“Doedd fy nghwrs gradd (Iaith a Llenyddiaeth Saesneg) ddim yn cynnwys blwyddyn dramor, felly roeddwn i’n ddiolchgar bod gan Brifysgol Caerdydd gyfleoedd i astudio dramor dros yr haf. Roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am farchnata, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr rhyngwladol eraill. Felly penderfynais i wneud rhaglen ysgol haf marchnata ym Mhrifysgol British Colombia, Canada.
Treuliais i saith wythnos yn Vancouver yn byw yn y Brifysgol honno, yn dysgu’r pwnc newydd hwn bob dydd a hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol oedd yn astudio pynciau amrywiol. Fe wnes i ffrindiau gwych o bob cwr o’r byd, a chefais y cyfle i weld rai o olygfeydd anhygoel Canada.
Ar ôl graddio, fe wnes i ymuno â’r gwasanaeth sifil yn rhan o dîm marchnata rhyngwladol. Roedd fy nghyfnod yng Nghanada o gymorth wrth sicrhau’r swydd hon.
Fe wnes i symud i Wlad Belg, a hynny’n ddiweddar, ar gyfer swydd partneriaethau corfforaethol a marchnata a chyfathrebu mewn ysgol busnes. Dwi bellach yn byw’n agos at rai o’r ffrindiau wnes i dramor! Dwi’n credu bod fy nghyfnod yng Nghanada wedi fy helpu i addasu i weithle rhyngwladol.”
Rhagor o wybodaeth am gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gwneud pob cyfle yn hygyrch i genhedlaeth nesaf cyn-fyfyrwyr Caerdydd.
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018