Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDigwyddiadauDonateNewyddion

Fy Hanner Marathon yng Nghaerdydd: rhoi yn ôl i helpu gofal canser fy nhad

19 Chwefror 2025

Yr hydref hwn, mae Joseph, sy’n fyfyriwr gwleidyddiaeth, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mhrifysgol Caerdydd. Darllenwch yr hanes amdano i gael ysbrydoliaeth neu ewch ati i greu eich her eich hun ac ymuno â #TîmCaerdydd.

Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Hanner Marathon Caerdydd?

Yn 2015, cafodd fy nhad ddiagnosis o ganser sarcoma yn yr ên. Ac yntau’n chwedleuwr, roedd y diagnosis wedi effeithio ar ei iechyd, ond ar ben hynny ar ei fywoliaeth a’i hunaniaeth.

Diolch i ymchwilwyr a meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cafodd fy nhad gadarnhad nad oedd y canser yno bellach. Codi arian dros adran ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yw fy ffordd i o roi yn ôl, yn ogystal â dod gam yn nes at sicrhau nad yw’r un teulu yn dioddef y trallod a gafodd fy nheulu i.

Allwch chi sôn wrthon ni sut rydych chi wedi bod yn paratoi hyd yn hyn ar gyfer yr hanner marathon?

Dechreuais i redeg yn y cyfnod clo yn ystod gaeaf 2021. Ro’n i’n chwaraewr sboncen brwd, ond oherwydd rheoliadau Covid, do’n i ddim yn gallu dychwelyd i’r cwrt. Roedd angen ffordd arno i i gadw’n heini a dyna ddarganfod rhedeg.

Yn ddiweddarach yn 2022, drwy ffrind imi dechreuais i sesiynau rhedeg 5k yn y parc (parkrun), a bryd hynny wedyn doedd dim pall ar fy awydd i redeg. Roedd gweld fy amser yn gostwng yn fy ysgogi i osod nodau mwy heriol, ac roedd gwirfoddoli yn fy ysbrydoli i wneud gwahaniaeth ar raddfa fwy, a’r gwir amdani yw bod y ddau beth hyn wedi fy arwain at redeg yn Hanner Caerdydd dros ymchwil ar ganser.

Allwch chi sôn wrthon ni am eich cynllun hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd?

Dwi wedi rhedeg sawl hanner marathon cyn hyn (Caerdydd a Chasnewydd), felly dw i ddim yn anghyfarwydd â’r pellter – ond mae’n her, yn bendant. Mae’r torfeydd yn ei gwneud hi’n llawer haws serch hynny, ac mae’r awyrgylch bob amser yn anhygoel.

Bydd fy hyfforddiant yn cynnwys rhedeg sawl gwaith am lai o amser ac wedyn rhedeg am amser hirach unwaith yr wythnos. Pan fydda i adref yn y Fenni, bydda i’n gwneud yn siŵr fy mod i’n gwneud ychydig o hyfforddiant ar y mynydd i baratoi ar gyfer yr un yn y Rhath ar ôl deg milltir! Rwy hefyd yn anelu at gyrraedd 150 o sesiynau yn y parc erbyn adeg y ras, felly bydda i’n cyfuno’r rhain yn bendant yn y cynllun.

Beth rydych chi’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at redeg y ras gyda ffrindiau o’r Brifysgol, fy nghlwb rhedeg Runwithus y Fenni, a’r bobl reolaidd o Redeg yn y Parc yng Nghwmbrân. Bydd yn wych gweld pawb sydd wedi bod yn bloeddio cefnogaeth wrth imi redeg heibio. Mae fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn hynod gefnogol imi ar ôl ymgymryd â’r ras – maen nhw’n rhannu fy angerdd dros yr achos ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu hanogaeth.

Os ydych chi’n meddwl rhedeg eich hun, ewch amdani, ddywedwn i! Bydd yr arian a godwch yn ariannu ymchwil ar ganser sy’n achub bywydau, ac mae gennych chi bopeth i’w ennill.

Cefnogwch Joseph

Noddwch Joseph ar JustGiving i ychwanegu at ei gyfanswm.

Ymunwch â #TîmCaerdydd i gadw eich lle eich hun

Ydych chi wedi trefnu eich lle ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2025? Ymunwch â #TîmCaerdydd i gefnogi ymchwil ar ganser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dyma her lesol sy’n wahanol

Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu eich gallu, mae her sy’n addas i chi. Mae lleoedd bellach ar gael mewn digwyddiadau rhedeg ledled y DU a thramor – gan gynnwys rasys o amgylch Bryste, Amsterdam, ac Alton Towers. Gallwch chi ymuno â #TîmCaerdydd am noson dringo i fyny’r Wyddfa ym mis Gorffennaf.

Os oes gennych chi gwestiynau am ymuno â #TîmCaerdydd, cysylltwch â donate@caerdydd.ac.uk.