Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Ben wrth ei fodd â’i yrfa ym maes mwyngloddio cyfrifol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

5 Chwefror 2025

Gwyddonydd daearegol yw Ben Lepley (MESci 2008), ac mae’n arbenigwr amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol yn y diwydiant mwyngloddio a mwynau. Hefyd, mae’n ymhél â byd addysg, yn gweithio i wella gwybodaeth y cyhoedd ynghylch mwyngloddio cyfrifol, ac yn gobeithio ysbrydoli recriwtiaid sy’n dymuno mynd i’r afael â heriau’r blaned. Yma, mae Ben yn chwalu rhai mythau ynghylch mwyngloddio ac yn dadlau’r achos dros ymuno â’r diwydiant, sy’n galw am ystod eang o sgiliau.

“Ydyn ni’n dal i fwyngloddio?!”

Dyma’r cwestiwn a ofynnwyd imi gan ddyn busnes canol-oed wrth deithio’n ddiweddar. Roedd yn rhyfeddu bod mwyngloddio’n dal i ddigwydd yn y byd sydd ohoni – yn wir, arfer hynafol oedd ond yn cael ei gwneud gan gorachod ac orcs ym myd Canolfyd Tolkien yw hi, yntefe?! Gwnaeth hyn beri imi feddwl pa mor ddigyswllt bellach y mae’r rhan fwyaf o wledydd y gorllewin o wreiddiau eitemau bob dydd. Ydy Mr Bezos a Mr Musk ond yn creu cynhyrchion gan ddefnyddio cyflenwad diddiwedd o ddeunyddiau sy’n ymddangos yn ôl yr angen?

Y gwir yw rydyn ni’n mwyngloddio (neu’n chwarelu) ar lefel syfrdanol heddiw. Yn sicr y deunyddiau a gloddir fwyaf yw tywod, graean a chlai at ddibenion adeiladu, yn ogystal â mwynau diwydiannol eraill megis calchfaen (yn bennaf i greu sment), sydd at ei gilydd yn creu cyfanswm o 50 biliwn tunnell y flwyddyn. Mae nifer fawr o lo hefyd yn cael ei chloddio, gyda metelau’n cyfrif am oddeutu tair biliwn tunnell y flwyddyn (y mwyafrif o hynny’n fwyn haearn a ddefnyddir i gynhyrchu dur).

Ac eto i gyd, dyw hynny ddim yn ddigon o bell ffordd. Rydyn ni’n dechrau ailgylchu ar gyfraddau llawer uwch nag erioed o’r blaen, sy’n helpu i leihau’r angen am fwyngloddio cynradd. Ond yn syml, dydyn ni ddim wedi mwyngloddio digon o’r rhan fwyaf o ddeunyddiau i allu bodloni gofynion y gymdeithas ar hyn o bryd, yn enwedig o ran technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Ni fu’r galw am fetelau megis lithiwm, elfennau daear prin, a chobalt erioed mor dybryd na heddiw, o ystyried y cânt eu defnyddio mewn batris, cerbydau trydan, a thechnoleg adnewyddadwy arall.

Yn y blynyddoedd i ddod, bydd y diwydiant hefyd yn wynebu argyfwng sy’n ymwneud â diffyg talent. Does dim digon o bobl ifanc yn astudio pynciau perthnasol neu’n ymddiddori mewn dilyn gyrfa ym maes mwyngloddio. Yn hyn o beth, rydyn ni’n wynebu prinder sgiliau. Yn fy achos i, astudiais i Ddaeareg ym Mhrifysgol Caerdydd, ces i swydd gyda chwmni ymgynghori mwyngloddio yn y ddinas, ac rydw i dal yma 16 mlynedd yn ddiweddarach. Rwyf bellach yn gweithio yn y sector amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ESG) (hynny yw, cynaliadwyedd) ac yn ceisio helpu cwmnïau mwyngloddio a mwynau i gloddio’n gyfrifol. Yn ogystal, hoffwn i godi ymwybyddiaeth am allu’r diwydiant hwn i fod yn llwybr posibl ar gyfer unigolion sydd â sgiliau amrywiol.

Rwy’n deall safbwynt llawer o bobl bod mwyngloddio yn ddiwydiant dinistriol, budr, a gwrthgynhyrchiol er datblygiad cynaliadwy, ac felly nid yw’n yrfa ddewisol i nifer fawr o bobl. Drwy chwilio’n gyflym ar-lein, daw realiti’r diwydiant i’r golwg; cewch chi ddysgu am ei ochr dywyll – llafur plant a thramgwyddo hawliau dynol, trychinebau amgylcheddol, protestiadau cenedlaethol, dinistrio coedwigoedd glaw, i enwi ond ychydig. Nid fy mwriad yw cyfiawnhau pethau o’r fath (ac yn anffodus, mae problemau tebyg yn bodoli mewn rhai rhannau o’r byd), ond dyw’r diwydiant mwyngloddio ddim fel hynny yn ei gyfanrwydd.

Fel y gallech chi fod wedi’i ddeall gan ddarllen yr ystadegau uchod, ceir nifer enfawr o fwyngloddiau, ac mae eu henw drwg yn deillio o’r perfformwyr gwaethaf. Mae cryn lawer o fwyngloddiau a chwareli yn gweithredu mewn ffyrdd cyfrifol, drwy ddiogelu’r amgylchedd o’u cwmpas a thrwy ymdrechu’n fawr er budd y gymuned a materion cymdeithasol. Mae datblygiadau technolegol sylweddol hefyd wedi helpu i leihau neu osgoi effeithiau negyddol – mae’r rhain yn cynnwys trydaneiddio cerbydau ac offer, offer hidlo llwch a nwy, a phrosesau trin dŵr. Mae’r ffordd rydyn ni’n mwyngloddio yn esblygu hefyd, gyda chwmnïau’n ymchwilio i fio-drwytholchi (sef defnyddio bacteria i doddi metelau yn lle cemegau) ac echdynnu metelau’n uniongyrchol o ddŵr y ddaear.

Felly, pa fath o bobl y bydd eu hangen i ymuno â’r diwydiant mwyngloddio? Yr ateb yw amrywiaeth helaeth o unigolion. Ymhlith rhai o’r enghreifftiau mwyaf amlwg yw daearegwyr, sy’n chwilio am ddyddodion newydd a helpu mwyngloddiau i barhau i gloddio’r pethau cywir. Mae yna alw hefyd am amrywiaeth o beirianwyr, gan gynnwys y rhai sy’n cynllunio’r gweithrediadau mwyngloddio, yn ogystal â pheirianwyr cemegol, peirianwyr trydanol, a pheirianwyr geodechnegol. Ac mae angen i gemegwyr ddeall sut i gael y darnau gwerthfawr allan o’r creigiau, ac arbenigwyr amgylcheddol sy’n deall sut i ddiogelu ecosystemau. Mae angen i wyddonwyr cymdeithasol ddeall sut mae mwyngloddiau’n effeithio ar gymunedau lleol a datblygu cynlluniau economaidd-gymdeithasol. Mae angen cyfreithwyr, arbenigwyr cyfathrebu, gwyddonwyr data, arbenigwyr TG, arbenigwyr iechyd a diogelwch, economegwyr, staff adeiladu, arbenigwyr diogelwch, cynllunwyr trafnidiaeth, penseiri tirwedd, gyrwyr, mecanyddion, syrfewyr… wele, y rhain i gyd, a mwy.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod rhagor am y diwydiant mwyngloddio, gallwch chi fy nilyn ar LinkedIn yma.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, fel Ben? Cofiwch ymuno â grŵp swyddogol i gyd-fyfyrwyr ar LinkedIn i ehangu eich rhwydwaith, gofyn cwestiynau, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd gyrfaol.