Sut mae bod ar y blaen ar-lein – Bossing It
22 Ionawr 2025Mewn marchnad swyddi gystadleuol, gall proffil digidol rhagorol ddal sylw cyflogwyr. Ar gyfer ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gwnaethon ni ofyn i’r arbenigwyr digidol Rachel, Sagnik, Maria, a Jessica am eu hawgrymiadau gorau ar gyfer mwyhau eich presenoldeb ar-lein.
Rachel Quigley (Dip. Ôl-radd 2009)
Graddiodd Rachel o Brifysgol Caerdydd yn 2009 gyda Dip. Ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu. Ers hynny, mae hi wedi gweithio yn y diwydiant papurau newydd, cylchgronau, darlledu a newyddiaduraeth ar-lein yn ogystal â rhoi cynnig ar bodledu. Mae hi wedi ymdrin â newyddion difrifol o bwys, adloniant a ffordd o fyw, a phopeth rhyngddyn nhw.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio yn olygydd rheoli ar gyfer adran fasnach Underscored CNN yn Efrog Newydd, lle mae hi wedi bod yn byw am y 15 mlynedd diwethaf. Cymerodd bum mlynedd allan o newyddiaduraeth draddodiadol a golygu i weithio ym maes datblygu cynulleidfa yn Conde Nast, lle bu’n gyfrifol am SEO, cyfryngau cymdeithasol, a chylchlythyrau mewn brandiau megis Vogue a GQ.
Defnyddio LinkedIn
Pan fyddwch chi’n dechrau yn eich gyrfa, dylai LinkedIn fod yn adnodd defnyddiol ac yn gyfaill i chi. Dysgwch sut i ddefnyddio LinkedIn yn bwynt cyswllt ac i ddod o hyd i gysylltiadau — mae’n debyg mae yna sawl nodwedd nad ydych chi’n gwybod sy’n bodoli.
Os ydych chi eisiau gweithio mewn cwmni neu sector penodol, chwiliwch amdanyn nhw ac edrychwch am gysylltiadau cyffredin. Gofynnwch i’r cysylltiad hwnnw am gyflwyniad, ond peidiwch â bod ofn cysylltu â rhywun nad ydych chi’n ei adnabod. Beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd? A byddwch yn ddygn – dilynwch y camau priodol pan nad ydych chi’n clywed yn ôl y tro cyntaf (ac mae’n debyg na fyddwch chi’n clywed yn ôl y tro cyntaf, mae pobl yn brysur!) ond cofiwch y llinell denau rhwng dyfalbarhad ac amharu ar rywun.
Yn olaf, dilynwch y bobl yn eich diwydiant ac ymunwch â’u sgyrsiau. Dechreuwch yn fach; mae rhywun sydd â 1,000 o ddilynwyr yn fwy tebygol o sylwi ac ymateb i chi na rhywun sydd â 5-10,000 o ddilynwyr.
Sagnik Basu (MA 2019)
Sagnik yw Pennaeth y Cyfryngau Cymdeithasol ac Uwch Olygydd yn FOX Media lle mae’n datblygu sioeau newyddion a phodlediadau yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant poblogaidd, a gwleidyddiaeth. Yn ogystal â chyd-sefydlu’r cwmni Midnight Thrift Media, sy’n rheoli cynnwys ar gyfer cleientiaid gan gynnwys cyfalafwyr menter ac asiantaethau marchnata, mae hefyd yn rhannu cyfweliadau â chrewyr ar YouTube.
Mae Sagnik hefyd yn trefnu digwyddiadau yn Efrog Newydd, gan helpu sefydlwyr a phobl greadigol ddawnus o dramor i godi arian, adeiladu cymunedau, a chanfod eu traed yn UDA. Yn 2024, cafodd ei enwi’n un o enillwyr Gwobrau (tua) 2024 Prifysgol Caerdydd, sy’n dathlu cyflawniadau cyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned.
Goresgyn teimlo cywilydd gan fentro allan i’r byd
Canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n eich cadw rhag hyrwyddo eich hun ac adrodd eich stori: hynny yw, yr ofn o deimlo cywilydd. Mae’r union un rhan o’r ymennydd sy’n eich atal rhag mynd at y ferch yna wrth y bar (a allai fod wedi bod yn wraig ichi yn y pen draw) yw’r rhan hynny sy’n eich atal rhag rhannu eich stori unigryw gyda’r byd. “Beth fydd pobl rwy’ n eu hadnabod o’r ysgol uwchradd yn ei feddwl?” Yn y bôn, dyma’r sefyllfa: “Cywilydd yw pris tocyn llwyddiant”. Mae popeth anhygoel mewn bywyd yn aros amdanoch chi dros y “Mynydd Cywilydd”. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw ei ddringo a rhoi’r gorau i’r ofn o gael eich gwrthod, cael eich barnu, neu beidio â’i gyflawni.
Mae pawb sydd wedi mentro dros y “Mynydd Cywilydd” ac wedi cyrraedd yr ochr arall wedi bod yn yr un sefyllfa â chi. Mentrwch allan i’r byd a rhowch wybod i bawb bwy ydych chi, yr hyn sy’n bwysig ichi, a’r hyn rydych chi’n gweithio arno – boed hynny drwy bodlediad, TikTok, neu LinkedIn. Os ydych chi’n onest, yn ddilys ac yn ddiddorol, bydd pobl yn eich canfod. Ac yn bwysicaf oll, cofiwch does neb yn meddwl amdanoch chi’n fwy na chi’ch hun. Mae pawb arall yn brysur wrthi’n ceisio dringo eu mynydd eu hunain.
Maria Mellor (BA 2017, MA 2019)
Maria yw rheolwr cynnwys digidol The Caterer – brand cyfryngau digidol ar gyfer y diwydiant lletygarwch. Hi sydd â’r awenau o ran sianeli digidol, a hi oedd yn gyfrifol am greu a dylunio gwefan newydd The Caterer, a gafodd ei lansio ym mis Mai 2024. Mae hi’n goruchwylio sianeli’r cyfryngau cymdeithasol ac yn sicrhau bod y newyddion a’r erthyglau arbennig a gaiff eu cyhoeddi’n cyrraedd safonau digidol heddiw.
Yn ei hamser hamdden, mae hi’n creu cynnwys ar gyfer TikTok ac Instagram o dan yr enw @menuformaria, gan adolygu bwytai a rhannu ei hawgrymiadau o ran ffordd o fyw.
Rhannwch eich llwyddiannau
Hyd yn oed os ydych chi newydd gychwyn ar eich gyrfa, mae yna bethau yn eich bywyd bob amser i ymfalchïo ynddyn nhw. Ar LinkedIn, mae’n teimlo bod pobl eraill yn cael swyddi ac yn cael eu dyrchafu bob wythnos, ond nid dyna’r cyfan sy’n dangos i’r byd pa mor wych ydych chi.
Mae pobl yn mwynhau gweld pobl eraill yn llwyddo ym mhob agwedd ar fywyd. Does dim byd yn rhy fach i fod yn werth gweiddi amdano – rhowch y gorau i’ch cywilydd, a chanwch eich clodydd eich hun dim ots a wnaethoch chi redeg hanner marathon, coginio gwledd neu grwydro o amgylch tref newydd. Mae datblygu presenoldeb digidol yn ymwneud â maint – mae’r algorithm ar unrhyw blatfform yn ffafrio’r rhai sy’n postio’n rheolaidd, sy’n golygu y bydd rhoi darlun ffafriol ohonoch chi eich hun yn eich helpu i yrru’r cwch i’r dŵr. Po fwyaf rydych chi’n ei bostio, y mwyaf y byddwch chi’n ei ddysgu am sut i ymddwyn ar-lein. Gwell nag athro yw arfer!
Jessica Roberts (BA 2004)
Ymgynghorydd cyfathrebu mewnol yw Jessica, sy’n helpu busnesau i fwyhau eu hymgysylltiad â’u cyflogeion a chreu diwylliannau y gallan nhw ymfalchïo ynddyn nhw. A chanddi bron i 20 mlynedd o brofiad ar draws sectorau gan gynnwys lletygarwch, manwerthu, technoleg a chyllid, mae hi wedi partneru â chleientiaid megis JustEat, Vodafone, ODEON, Fuller’s, a Chyllid a Thollau EM.
Boed hynny’n cyfrannu at dynnu lluniau ffasiwn yng nghylchgrawn Elle gyda Victoria Beckham neu gymryd rhan mewn ymgyrchoedd gweithwyr gyda’r gofodwr Tim Peake, mae ei gyrfa wedi bod yr un mor amrywiol ag y mae’n effeithiol. Un o’i llwyddiannau mwyaf amlwg yw creu Rhaglen Arbenigol ar Gyfathrebu Mewnol, sy’n grymuso timoedd cyfathrebu mewnol at ddibenion hybu eu hyder, eu sgiliau, a’u dylanwad.
Tanio sgyrsiau a arweinir gan gynulleidfa
Wrth wraidd y proffiliau digidol mwyaf llwyddiannus yw trafodaeth a meithrin cymuned. Byddwch yn bwyllog ynghylch y sgyrsiau rydych chi am eu tanio. Ewch ati i ymdrin â heriau eich cynulleidfa, ond hefyd yn eu hysbrydoli – ceisiwch ddeall yr hyn sydd yn eu cyffroi neu’r hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi fod yn adnabyddus amdano, a sut mae rhannu eich safbwynt unigryw o gymorth ichi allu ffynnu.
Mae eich proffil digidol yn gweithio orau fel stryd ddwyffordd: rhowch yn hael i’ch cymuned tra bob amser yn cysylltu’ch cynnwys yn ôl i’ch amcanion. Pan fyddwch chi’n cydbwyso diwallu eu hanghenion gyda’ch safbwynt meddylgar, byddwch chi’n creu rhywbeth y gall pobl yn ymddiried ynddo ac yn dod yn ôl ato.
Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018