Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Pam rwy’n codi arian ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd

17 Ionawr 2025

Ym mis Hydref, yn hytrach na gwisgo ei got labordy yn ôl ei arfer, bydd yr Athro Duncan Baird yn rhoi ei fest rhedeg amdano ac yn rhoi cynnig ar redeg Hanner Marathon Caerdydd.

Athro ym maes canser a geneteg ac arweinydd yr Is-adran Meddygaeth Genetig a Genomig yn yr Adran Canser a Geneteg yw Duncan Baird.

Mae’n gweld drosto ef ei hun sut mae ymchwil yn ysgogi datblygiadau o ran atal canser, gwneud diagnosis ohono a’i drin, a bydd yn codi arian ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Gwnes i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd er yr holl bobl hynny sy’n huno cyn eu hamser o achos i ganser. Bu farw fy mam a fy nhad o ganser, felly rwy wedi gweld pa mor greulon a diwahân y gall fod – rwy’n awyddus felly i wneud gwahaniaeth.

“Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn ceisio deall sut mae mwtaniadau yng nghyd-destun canser yn digwydd ar lefel foleciwlaidd. Yn ystod y 30 mlynedd neu fwy rwy wedi gweithio yn y maes hwn, rwyf wedi gweld yn bersonol sut mae ymchwil wedi effeithio’n gadarnhaol ar ddiagnosteg a thriniaethau.

“Rydyn ni’n gwybod bod cleifion sy’n mynd i ganolfannau ymchwil yn cael gwell canlyniadau. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig inni gefnogi’r ymchwil canser yma ym Mhrifysgol Caerdydd, fel bod cleifion yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad at y triniaethau mwyaf diweddar.

“Bydd yr arian a godir yn Hanner Marathon Caerdydd yn mynd tuag at gefnogi ysgoloriaethau PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n credu ei bod yn wir dweud bod y mwyafrif o wyddonwyr yn cael eu syniadau gorau yn gynnar yn eu gyrfaoedd, felly mae’n hanfodol parhau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf. Nhw yw’r rhai fydd yn datblygu ffyrdd arloesol newydd o ddiagnosio a thrin canser.

“Dechreuais i redeg yn 2018, pan ymunais â grŵp Parkrun Ynys y Barri. Ar adeg yr holl gyfnodau clo COVID, ro’n i wedi ceisio dal ati â rhedeg, ond des i i sylweddoli mai rhedeg gyda phobl eraill oedd yn well gen i, ac ro’n i eisiau ymuno â chlwb. Ro’n i braidd yn betrusgar i ddechrau, gan fy mod i’n meddwl y bydden nhw’n rhedwyr elît ac yn cymryd y rhedeg o ddifrif! Ond yn y pen draw, fe wnes i ymuno â’n clwb rhedeg lleol, Rhedwyr Penarth a Dinas, ac rwy wedi mwynhau cwrdd â phobl o’r un anian o bob gallu.

“Mae rhedeg yn eithaf caethiwus. Hyd yn oed pan fydd hi’n oer, yn wlyb ac yn wyntog ar fore Gwener yn y gaeaf, rwy dal eisiau codi a chymryd rhan yn y ‘tempo blast’ am 7am gyda’r clwb. Os nad ydw i’n gallu rhedeg oherwydd salwch neu anaf, rwy’n teimlo’n ddiflas iawn!

“Dyma fydd fy hanner marathon cyntaf. Roedd fy ffrindiau a theulu wedi synnu braidd fy mod i wedi cofrestru, gan nad dyma’r math o beth rydw i wedi’i wneud o’r blaen. Maen nhw eisoes wedi bod yn gefnogol iawn gyda fy ymdrechion codi arian, ac rwy wir yn ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

“Ar ddiwrnod y ras, rwy’n edrych ymlaen at awyrgylch cadarnhaol ac achlysur mawreddog y digwyddiad – y torfeydd, y bloeddiadau, y gerddoriaeth! Rwy’n anelu at groesi’r llinell derfyn mewn llai nag awr a 45 munud, felly byddwn i’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth fydd ar y diwrnod.”

Cefnogwch Duncan

Dangoswch eich cefnogaeth i Duncan a’i helpu i gyrraedd ei darged codi arian. Noddwch Duncan ar JustGiving.

Ymgymryd â her actif

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr marathon i ymgymryd â her actif! Beth bynnag yw eich ffitrwydd neu lefel gallu, mae her i’ch siwtio chi.

I gael rhagor o wybodaeth am godi arian ym Mhrifysgol Caerdydd, e-bostiwch donate@caerdydd.ac.uk.