Sut i ddringo’r ysgol yrfaol (heb sathru ar draed eraill) – Bossing It
30 Hydref 2024Nid yw dringo’r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth. Gwnaethon ni ofyn i dri chyn-fyfyriwr profiadol rannu eu hawgrymiadau ar sut i godi drwy’r rhengoedd, i gyd tra’n codi eraill ar hyd y ffordd.
Leigh Debbage (BA 2004)
Mae Leigh yn gyfarwyddwr cwmni yn Llundain sy’n arbenigo mewn sbloetiau cysylltiadau cyhoeddus, profiadau, a digwyddiadau ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu. Mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad yn creu ymgyrchoedd arloesol ar gyfer cleientiaid megis Warner Bros, Universal Pictures, Paramount, a Netflix. Mae wedi gweithio ar y rhan fwyaf o gyfresi ffilm mawr, gan gynnwys Star Wars a Jurassic World.
Uchafbwynt ei yrfa oedd creu Scenes in the Square, sef llwybr o gerfluniau yn Leicester Square a enillodd sawl gwobr. Cafodd y llwybr ei lansio yn 2020 gyda deg cerflun efydd deinamig o eiconau byd ffilm. Mae bellach wedi ychwanegu sêr megis Harrison Ford, Rowan Atkinson a Daniel Kaluuya, yr ychwanegiad diweddaraf, gan ddod â fersiwn o’r Hollywood Walk of Fame i Lundain.
Datblygwch enw da
Gall byd busnes fod yn greulon, yn sicr, ond mae’r syniad bod ‘pobl neis yn gorffen olaf’ yn anghywir. Darn o gyngor sylfaenol y byddwn i’n ei roi yw trin eich cydweithwyr, y rhai iau, a’ch cyflenwyr yn dda ar bob cam o’ch gyrfa, gan y gallen nhw oll fod yn allweddol wrth i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Hyd yn oed os ydych chi’n ystyried eich cydweithwyr yn gystadleuwyr ar gyfer swyddi neu ddyrchafiadau, mae eich perthynas â nhw hefyd yn hollbwysig wrth i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa. Bydd eu trin â pharch a datblygu enw da fel rhywun sy’n weithiwr proffesiynol hael a rhywun sy’n gweithio’n dda mewn tîm yn gwneud llawer i feithrin eich llwyddiant eich hun. Rhannwch wybodaeth, gwirfoddolwch i fod yn fentor os oes modd, rhowch gyngor a bydd eich buddsoddiad yn talu ar ei ganfed.
Daniel Tan (LLB 2011, PGDip 2014)
Cydymaith Rheoli Corfforaethol yng nghangen Singapore Linklaters yw Daniel. Fe ymunodd â Linklaters yn 2022. Hanfod ei waith yw uno a chaffael sefydliadau ariannol, ac mae hefyd yn cynrychioli noddwyr ariannol ar fuddsoddiadau yn Ne-ddwyrain Asia a’r sector adnewyddadwy.
Ar ôl astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, astudiodd Daniel radd Meistr mewn Cyfraith Bancio a Chyllid Rhyngwladol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a chafodd ei alw i Far Cymru a Lloegr yn 2013. Y flwyddyn ganlynol, ymunodd â Wong & Partners (aelod gwmni o Baker McKenzie yn Kuala Lumpur) a chafodd ei alw i Far Malaysia yn fuan wedi hynny.
Byddwch y mentor yr hoffech chi fod wedi’i gael
Mae bod yn frwdfrydig dros ddysgu a bod yn wydn yn allweddol, yn enwedig ar ddechrau eich gyrfa. Dewch o hyd i fentoriaid da a fydd yn eich llywio chi – maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa, ac roeddwn i’n ffodus i gael mentoriaid a fuddsoddodd yn fy ngyrfa a minnau’n unigolyn.
Er mwyn i mi allu gwneud yr un peth ar gyfer rhywun arall, rwy’n byw yn ôl y geiriau “Byddwch y mentor yr hoffech chi fod wedi’i gael” ac yn ymdrechu i fentora eraill hefyd. Bydd bod yn awyddus i ddysgu wrth gefnogi eraill yn eich helpu chi i symud ymlaen yn eich gyrfa, a bydd hefyd yn creu amgylchedd cefnogol i bawb o’ch cwmpas.
Gavin Phelps (BA 2009)
Mae Gavin yn Bennaeth Cyrchu yn Oddbox, sef cwmni dosbarthu ffrwythau a llysiau gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd.
Yn ystod yr haf cyntaf yn dilyn graddio, gweithiodd mewn swydd yn pacio ffrwythau cyn cael swydd yn Rheolwr Cynhyrchu. Yna, treuliodd bum mlynedd yn goruchwylio gweithrediadau pacio a helpu’r busnes i ehangu, cyn gadael am gyfnod i deithio.
Yn dilyn hyn, roedd diddordeb Gavin mewn cynnyrch ffres wedi arwain at weithio yn Oddbox (oedd yn cael ei alw’n Tasty Misfits ar y pryd). Ers hynny mae wedi ymddiddori mewn gwahanol fathau o waith – o Weithrediadau i Gyrchu – ac mae’n teimlo balchder yn cynnig enw newydd i’r cwmni.
Dewch o hyd i rôl sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd chi
Alla i ddim pwysleisio digon pwysigrwydd dod o hyd i swydd neu faes rydych chi’n teimlo’n frwdfrydig amdano. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser i mi sylweddoli hyn, gan imi feddwl yn y dechrau fod yn rhaid imi weithio’n galed a phrofi fy mod i’n gymwys o ran beth bynnag ro’n i’n ei wneud’ Er fy mod i’n dal i feddwl bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed, cewch weld mai gwneud gwahaniaeth ym meysydd rydych chi’n credu ynddyn nhw sy’n dod â boddhad go iawn.
Pan fydd y rhan fwyaf o’ch amser yn cael ei dreulio yn y gwaith, mae’n hanfodol dod o hyd i le sy’n cyd-fynd a’ch gwerthoedd chi. Pe bawn i’n graddio yfory, dyma fyddai’r peth cyntaf y byddwn i’n ystyried wrth edrych am swyddi. Mae’r rhan fwyaf o swyddi yn gofyn llawer, ond os ydych chi’n gwneud rhywbeth sy’n cyd-fynd â’ch credoau, mae dipyn yn haws i gyflawni’r gofynion.
Cefnogi eraill i gyflawni eu hamcanion
I wneud y gorau o’ch effaith gadarnhaol eich hun, bydd angen tîm uchelgeisiol a hapus o’ch cwmpas chi. Ac er mwyn creu tîm o’r fath, bydd angen i chi ddeall y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, ynghyd a’u cymhellion personol nhw.
Cefnogwch aelodau o’ch tîm yn ystod eu gyrfaoedd, waeth ble mae hyn yn arwain. Nid mater o edrych ar ôl eich cyd-weithwyr yn unig yw hwn – hebddyn nhw, nid yw’n bosibl llwyddo yn eich gyrfa eich hun.
Gallwch chi gefnogi myfyrwyr presennol neu gyn-fyfyrwyr eraill drwy gymryd rhan mewn rhaglenni mentora Prifysgol Caerdydd.
Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres ‘Bossing It’ yn dod â chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd – dewch i fanteisio ar eu doethineb a phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau.
Diddordeb mewn cyfrannu at rifyn arall o Bossing It? Neu eisiau awgrymu pwnc i’w gynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol? Cysylltwch â ni.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018