Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Ar ôl goroesi canser, fe ddes i o hyd i fy nyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

23 Hydref 2024

Newyddiadurwr llawrydd, golygydd cynnwys, ac ymgyrchydd gofal iechyd yw Ellie Philpotts (BA 2017). Ar ôl cael diagnosis o ganser y gwaed yn ei harddegau, aeth Ellie ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio i gefnogi unigolion eraill â chanser. Bellach, mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers i Ellie fod yn lasfyfyriwr. Isod, mae hi’n trafod sut helpodd Prifysgol Caerdydd iddi fynd ar drywydd gyrfa sy’n agos at ei chalon.

Pan fyddwch chi’n symud i’r brifysgol, rydych chi’n llawn awydd i gael dechreuad newydd, a gweddnewid eich bywyd ychydig. Efallai y bydd hynny ymhell i ffwrdd o’ch tref enedigol, gan gynnig cyfleoedd ichi ddod i adnabod pobl newydd, a phenderfynu pa gyfeiriad yr hoffech chi fynd ar ei drywydd. Ond, pan rydych chi mor ifanc, allwch chi ddim anghofio’r gorffennol, a does dim llawer o bwynt ceisio gwneud hynny chwaith.

Yn hytrach na cheisio trawsnewid eich hunaniaeth yn gyfan gwbl, mae’r brifysgol yn cynnig cyfle arbennig ichi ddatblygu eich diddordebau cyfredol, yn y ddarlithfa a’r tu allan iddi. Y gobaith yw y byddech chi’n dod o hyd i le cefnogol yno, sy’n hwyluso’r datblygiad hwn, gan eich galluogi i gadw’n driw i chi’ch hun a’ch personoliaeth unigryw ar yr un pryd. Rwy’n credu’n gryf mai dyma beth wnaeth Prifysgol Caerdydd imi, gan ei bod yn sefydliad blaengar sydd â’r fantais o fod mewn prifddinas greadigol.

Ddeng mlynedd yn ôl, yn Hydref 2014, dechreuais fy nhaith ar draws y ffin tua Chymru, a chefais fy hun wedi lleoli ar y dramwyfa yn Cathays, sef Heol Colum – fy milltir sgwâr newydd! A minnau’n 18 oed bryd hynny, ac yn symud i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf, ro’n i ar bigau drain methu aros i roi cychwyn ar antur newydd. Yr hyn a wnaeth y cam newydd hwn yn fwy arwyddocaol oedd fy mod i wedi cael diagnosis o ganser y gwaed sef Lymffoma Hodgkin yn 2011.

Er ro’n i wedi cael fy rhyddhau o’r ysbyty erbyn imi ddechrau yn y brifysgol, mae canser yn tueddu i aros yn y cof. Serch hynny, doedd dim ots gen i os oedd unrhyw un y byddwn i’n ei gyfarfod yn gwybod am hyn. Bydd llawer o bobl ifanc sydd wedi goroesi canser yn teimlo’r un peth, sef nad ydyn nhw am i ganser ddiffinio eu hunaniaeth yn gyfan gwbl. Ond, gan mai unigolion yn eu harddegau sy’n cynrychioli carfan gymharol fach o’r rheiny sy’n goroesi canser, ond gwaetha’r modd, un sydd hefyd yn cynyddu bob blwyddyn, roedd gen i awydd cryf i aros yn rhan o’r gymuned a cheisio cefnogi pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, pan roedd modd gwneud hynny. Pan o’n i’n newydd i Brifysgol Caerdydd, roedd gen i’r awydd hwnnw o hyd, a hyd heddiw ar ôl degawd arall o fywyd heb ganser, mae wedi aros felly. Caerdydd a wnaeth fy ngalluogi i weithio er yr achos da hwn dros ganser, nad yw bellach yn agos at fy nghalon yn llythrennol, ond bydd yn rhan annatod o’m hunaniaeth am fyth bythoedd.

Y gymdeithas gyntaf a hoeliodd fy sylw yn ystod Ffair y Glas oedd Cardiff Marrow, sy’n gangen o’r elusen genedlaethol Anthony Nolan. Mae’r gymdeithas yn cysylltu’r cyhoedd â chleifion sy’n dioddef o ganser y gwaed, ac sydd ag angen dirfawr am roddion bôn-gelloedd sy’n achub bywydau. Ar ôl ymuno â’r gymdeithas yn wirfoddolwr heb feddwl ddwywaith, ro’n i’n falch o allu bod ynghlwm â’i gwaith drwy gydol fy ngradd a thu hwnt, drwy ei rhaglen i gyn-fyfyrwyr. Wedi imi symud ymlaen i fod yn Gydlynydd y Cyfryngau, gweithiais gyda’r tîm bach ond nerthol a wnaeth annog myfyrwyr i fod ar y gofrestr rhoddwyr bôn-gelloedd, gan gynnal digwyddiadau ‘rhoddi poer’ ledled y ddinas a lledaenu’r gair am bwysigrwydd rhoddi gwaed. Gwnaeth hyn oll roi’r hyder imi ymuno â nifer fawr o grwpiau eraill sy’n gysylltiedig â chanser, gan gynnwys y Gymdeithas Oncoleg. Yn y cyfamser, a minnau’n fyfyriwr Newyddiaduraeth, a thrwy hynny, yn gyfrannwr i gyfryngau’r myfyrwyr, daeth straeon a daflodd oleuni ar ymgyrchoedd gofal iechyd lleol yn rhan o’m portffolio yn gyson.

Roedd Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud hi’n haws imi ymgymryd â llawer o bethau – i fod yn unigolyn a oroesodd ganser a oedd yn awyddus i roi yn ôl, newyddiadurwr uchelgeisiol brwd, ac yn ymgyrchydd elusennol. Os dwi’n cofio’n iawn, y ffordd a wnaeth Prifysgol Caerdydd gyflawni hyn oedd drwy gyfuno profiad y myfyrwyr â’r ddinas ehangach. O’i chymharu â nifer fawr o brifddinasoedd eraill, mae Caerdydd yn weddol fach a chryno, ond mae’n llawn pobl gyfeillgar, diwylliant a chyfleoedd, a hynny ym mhob twll a chornel. Felly, ro’n i’n teimlo bod y ddinas groesawgar yn fy nghofleidio o bell, hyd yn oed ar gampysau’r brifysgol, lle mae gennych chi dueddiad i aros ynddyn nhw.

Doedd digwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig â chanser ddim yn yr ardaloedd arferol i fyfyrwyr, ond ymdrechais i gysylltu â phrosiectau lleol nad oedden nhw’n gysylltiedig â’r brifysgol. O ganlyniad i gymdeithasau o bob lliw a llun yn y brifysgol, roedd mentro y tu hwnt ac ymhellach, yn llythrennol ac yn drosiadol, yn brofiad llawer mwy didrafferth i’w gychwyn a’i gynnal.

A phan nad oeddwn i’n ymgyrchu dros achos canser, bues i’n rhoi cynnig ar wneud aseiniadau ysgrifennu nad oedden nhw’n academaidd, megis bod yn Olygydd Bwyd yn Quench. Des i i sylweddoli yn araf deg fod gan Brifysgol Caerdydd nid yn unig cymuned gref o oreswyr canser, ond ar ben hynny, roedd yn lle grêt i roi eich sgiliau creadigol a choginio ar brawf!

Byddwn i wedi bod wrth fy mod yn byw yng Nghaerdydd hyd heddiw, ond rhai misoedd ar ôl graddio yn 2017, gwnes i wireddu breuddwyd arall, gan symud i brifddinas fywiog arall – fel y byddech chi’n ei disgwyl, Llundain oedd hynny! Bues i’n byw yno tan ychydig fisoedd yn ôl, pan yn union ddegawd ar ôl symud i Gaerdydd am y tro cyntaf, symudais i i dref newydd unwaith eto, ond y tro hwn i Brighton. Bryd hynny a heddiw, mae gen i gariad at ysgrifennu ac awydd i chwalu’r hud o amgylch y byd oncoleg drwy eiriau, ac rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Caerdydd am osod sylfaen gref sydd wedi bod o fudd ac wedi fy arwain yn fy ngyrfa hyd yma.

Rwy wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio’n newyddiadurwr iechyd, a bellach, rwy’n treulio fy wythnosau yn golygu ar gyfer y Coleg Nyrsio Brenhinol ar yr naill llaw, ac yn adrodd, ysgrifennu, a gwneud prosiectau sy’n gysylltiedig â chanser yn rhinwedd swydd gweithiwr llawrydd ar y llall. A minnau’n bwriadu cwblhau llyfr ar sail fy mhrofiadau o ganser a chefnogi cleifion ifanc eraill cyn imi droi’n 30 oed, rwy’n cael fy hun yn cofio cychwyn y cyfan mewn dinas a berodd imi sylweddoli y gall cydweithio dros ganser dalu ar ei ganfed. Gwnes i adael y brifysgol gyda mwy o uchelgeisiau, gwersi, ac atgofion hapus nag y byddwn i erioed wedi’i ragweld, a minnau’n glaf ifanc bryd hynny a oedd yn dyheu am ddyfodol y tu hwnt i wardiau Ymddiriedolaeth Canser Pobl Ifanc yn eu Harddegau.

Gallwch chi ddod o hyd i Ellie ar X yn @eleanor__p ac ar LinkedIn yma.

‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ yw ein cyfres newydd o flogiau sy’n rhoi sylw i’r straeon yr hoffech chi sôn amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Efallai eich bod chi’n rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi ac yn datrys problemau? Cyflwynwch eich syniad.