Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl yn ‘benderfyniad hawdd’.

26 Medi 2024

Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda’i gilydd er mwyn cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy’n digwydd ar y campws. Yn yr erthygl hon, maen nhw’n trafod eu hyntiau rhedeg yn ogystal â’u rhesymau dros ymuno â Hanner Marathon Caerdydd. 

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd?

Mae’r ddau ohonon ni yn caru rhedeg a’n cwrs – Seicoleg – felly roedd dewis rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd yn benderfyniad hawdd.

Ar ben hynny, mae’r ddau ohonon ni yn ymgymryd â blwyddyn ar leoliad ymchwil gyda’r Brifysgol. Mae un ohonon ni yn gweithio yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ac mae un ohonon ni yn gweithio i’r BabyLab yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd. Felly, mae ymchwil niwrolegol yn achos sy’n hynod o bwysig i’r ddau ohonon ni!

Pryd dechreuoch chi redeg a pham?

Lizzy: Dechreuais i redeg rasys 5k yn ystod y cyfnod clo er mwyn cael y cyfle i fynd allan o’r tŷ a symud. Pan ddes i i’r brifysgol, roeddwn i eisiau herio fy hun i redeg ymhellach, felly rhedais i Hanner Marathon Caerdydd ar ddechrau fy ail flwyddyn ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r profiad. Roeddwn i’n arfer ystyried rhedeg yn rhywbeth diflas, ond rwy bellach yn ei garu gan ei fod yn cynnig cyfle i mi gysylltu â fy meddyliau fy hun wrth gael ychydig o awyr iach.

Mae ymarfer corff a chadw’n heini wedi bod yn bwysig i mi erioed, felly mae cael nod fel rhedeg hanner marathon Caerdydd yn ysgogiad gwych. Rwy’n cofio bod yn hynod o nerfus cyn rhedeg fy hanner marathon cyntaf, gan nad oeddwn i erioed wedi rhedeg mor bell o’r blaen, ond roedd yr awyrgylch a’r torfeydd yn bendant wedi fy ysgogi i ddal ati.

Charley: Dechreuais i redeg ym mis Ionawr eleni, a hynny fel ymdrech cryfder meddwl yn hytrach nag ymdrech cadw’n heini. Er fy mod i eisiau cadw’n heini, roeddwn i hefyd eisiau cael ymrwymiad yr oedd rhaid i mi gadw ato – a dyna’n union ddigwyddodd. Roeddwn i’n codi ac yn mynd allan o fy fflat stiwdio ac yn gweld mwy o Gaerdydd a’r cyffiniau nag y byddwn i wedi os nad oeddwn i’n rhedeg. Fy hoff ran o’r wythnos yw’r amser rwy’n treulio yn rhedeg yn yr awyr agored, ar ben fy hun yn gwrando ar fy ngherddoriaeth. Dydw i erioed wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd o’r blaen – dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar ddiwrnod y ras, sy’n gyffrous ac yn frawychus!

Pam wnaethoch chi benderfynu ymuno â’ch gilydd? A ydych chi’n meddwl bod hyn wedi eich helpu chi i aros yn gryf eich cymhelliant wrth ymarfer? 

Fe wnaethon ni gwrdd yn ystod Wythnos y Glas yng Nghaerdydd a daethon ni’n nes wrth i’n flwyddyn gyntaf fynd rhagddo. Ar ôl i gwpl o fisoedd o’n hail flwyddyn fynd heibio, dywedodd Charley ei bod am ddechrau rhedeg eto.

Awgrymodd ein bod yn ymuno â chlwb rhedeg lleol wnaethon ni ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol, o’r enw Girls Who Run. Mae’n grŵp o ferched, myfyrwyr, a gweithwyr proffesiynol yn ardal De Cymru, sy’n cyfarfod cwpl o weithiau bob mis i redeg gyda’i gilydd. Rydyn ni’n gallu cwrdd â merched gyda phob math o hyntiau a phrofiadau rhedeg. Roedd yn ffordd berffaith i fwynhau rhedeg gan ein bod yn gallu cymdeithasu a chwrdd â phobl newydd bob mis.

Mae cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd gyda’n gilydd yn bendant wedi ein helpu i gadw ar y trywydd iawn gydag ymarfer ac i annog ein gilydd. Mae’r ddwy ohonon ni yn mwynhau defnyddio Strava er mwyn cofnodi ein cynnydd, ysgrifennu capsiynau hwyliog, a phostio lluniau tra bod ni allan yn rhedeg. Gallwn ni gefnogi ein gilydd hyd yn oed pan nad ydyn ni’n rhedeg gyda’n gilydd, sy’n hyfryd ac yn ffordd wych o ddal ati pan mae rhedeg yn anoddach!

Beth yw eich cynlluniau ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?

Rydyn ni’n anelu at redeg am bellter byr cwpl o weithiau pob wythnos a rhedeg am bellter hir unwaith yr wythnos, gan ffitio’r rhedeg o amgylch ein gwaith – mae Lizzy hyd yn oed wedi bod yn rhedeg ar ei gwyliau! Rydyn ni hefyd wedi rhedeg gyda’n gilydd ychydig o weithiau, er mwyn i ni gynnal cyflymder sgwrsio ac awyrgylch ar gyfer y diwrnod mawr, ac rydyn ni fel arfer yn cael coffi a theisen crwst ar ôl gorffen rhedeg.

Rydyn ni’n bwriadu ymarfer drwy redeg gyda’n gilydd pan fydd y ddau ohonon ni nôl yng Nghaerdydd ar gyfer ein trydedd flwyddyn. Rydyn ni eisiau ymlacio cymaint â phosib yn ystod yr wythnos cyn y ras er mwyn i’n cyrff ni allu cyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydyn ni wedi trefnu diwrnod sba yn yr wythnos cyn yr Hanner Marathon er mwyn i ni allu ymlacio’n llwyr!

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r cyflawniad gyda’n gilydd – rydyn ni eisoes wedi cynllunio ein gwisgoedd cyfatebol ar gyfer diwrnod y ras – ac i ddathlu gyda’n ffrindiau ar y llinell derfyn (gyda llawer o win pefriog!). Mae ein ffrindiau a’n teulu yn falch iawn ohonon ni ac yn edrych ymlaen!

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun arall sy’n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd?

Mae tîm #TeamCardiff yn bobl hyfryd ac yn rhoi cymaint o gefnogaeth os oes angen. Mae hefyd yn achos anhygoel i’w gefnogi, a gan fod ymchwil Prifysgol Caerdydd yn arwain y byd, gallwch chi fod yn sicr y bydd yr holl arian rydych chi’n ei godi yn mynd tuag at brosiectau enfawr a chanfyddiadau anhygoel. Rydyn ni’n argymell cefnogi’r achos hwn yn fawr iawn!

Noddwch Charley a Lizzy

Noddwch Charley a Lizzy ar JustGiving a helpwch nhw i roi hwb i’w cyfanswm codi arian.

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 

Oes gennych chi le yn Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.

Ymgymryd â her egnïol wahanol 

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae yna ddigwyddiadau wedi’u trefnu y gallwch chi ymuno â nhw yn rhan o #TeamCardiff. Gallwch chi weld yr ystod lawn o heriau sydd ar gael.