Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Mentoriaeth gyrfa i gynnal interniaeth – profiad un cyn-fyfyriwr

24 Medi 2024
Alum Peter Sueref (BSc 2002), co-founder and CTO of Empirisys and student Ritika Srivastava (MSc 2024)

Bu’r cyn-fyfyriwr, Peter Sueref, (BSc 2002), cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys, yn mentora’r myfyriwr Ritika Srivastava (MSc 2024) cyn cynnig interniaeth iddi. Yma, mae Peter yn myfyrio ar ei brofiad o fod yn fentor a sut mae’r rhaglen wedi bod o fudd iddo ef a’i fusnes.

Beth yw eich cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd?

Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd ac rwy’n fab i rieni a oedd yn berchen ar siop pysgod a sglodion. Arhosais i yng Nghaerdydd i astudio fy ngradd oherwydd roeddwn i’n dal i weithio yn y busnes teuluol. Rwy’ wedi bod o gwmpas Cathays a’r Brifysgol am y rhan fwyaf o fy mywyd, mwy neu lai.

Graddiais gydag MSc mewn Cyfrifiadureg yn 2002 a chefais i swydd yn syth gyda Nwy Prydain yn datblygu meddalwedd, gwneud peirianneg meddalwedd, a pheirianneg data, ac arhosais i yno am y rhan fwyaf o fy ngyrfa. Yn 2015/2016, cysylltais i â Phrifysgol Caerdydd a’r adran Gyfrifiadureg a dechreuais i ailgysylltu â nhw.

Ers hynny, rwy’ wedi gweithio gyda’r Brifysgol yn gyson ac mae nifer o fyfyrwyr wedi dod i weithio i’r cwmni, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dod yn aelodau parhaol o staff.

Pam wnaethoch chi gymryd rhan yn y Rhaglen Mentora Gyrfa?

Roeddwn i’n gwybod y byddai o fantais i fi, ond, a dweud y gwir, roedd yn ganlyniad o gael fy mentora ambell waith yn gynnar yn fy ngyrfa. Roeddwn i’n teimlo ei bod yn ddefnyddiol iawn cael rhywun uwch na fi a oedd yn fodlon gwrando a rhoi cyngor synhwyrol i fi.

Oes gennych chi unrhyw gyngor i gyn-fyfyrwyr eraill sy’n ystyried cymryd rhan yn y rhaglen?

Y peth allai fod wedi gwneud i fi ailystyried cymryd rhan oedd fy mod i’n amau a oedd gen i ddigon o wybodaeth i’w rhannu â rhywun, ac a fyddan nhw’n gwrando arna i. Efallai mai ‘syndrom twyllwr’ sydd ar fai am hynny, ond rwy’n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan yn y cynllun. Hyd y gwn i, efallai nad oes gen i brofiad mewn meysydd penodol, ond rwy’n bendant yn gwybod sut beth yw cynnal prosiect, rwy’n bendant yn gwybod sut beth yw dechrau busnes, rwy’n gwybod sut beth yw delio â chleientiaid – felly hyd yn oed os na alla i wneud unrhyw un o’r pethau eraill, galla i rannu gwybodaeth am y meysydd hynny. Mae’n debyg nad oes miloedd o bobl yn gwirfoddoli i fod yn fentoriaid chwaith, ac nad oes llu ohonyn nhw ar gael, felly hyd yn oed os nad fi bydd y mentor gorau yn y byd, efallai bod y ffaith fy mod i’n gwirfoddoli ac yn ceisio helpu yn ddigon.

Sut arweiniodd y cynllun mentora at interniaeth i Ritika?

Yn ein sesiynau mentora, roeddwn ni’n trafod y pynciau roedd Ritika yn eu hystyried ar gyfer ei thraethawd hir, a oedd yn ymwneud â dadansoddi data a llunio stori ddiddorol y tu ôl i’r data. Yn ffodus, cafodd Empirisys y cyfle i weithio ar brosiect ar gyfer cleient mawr iawn a oedd yn gofyn i rywfaint o ddata gael eu dadansoddi. Felly, roedden ni’n ffodus iawn i allu cynnig cyfle i Ritika weithio ar y prosiect blaenllaw hwn yn uniongyrchol, gan gyfrannu at brosiect cleient go iawn a oedd hefyd yn cefnogi ei thraethawd hir. Hi oedd y person cywir ar yr adeg cywir. Roedd yn bosib inni gynnig y lleoliad oherwydd yr arian a gawson ni drwy Brifysgolion Santander, a oedd yn swm sylweddol o arian i fusnes bach. A ninnau’n fusnes ymgynghori, rydyn ni’n dibynnu ar y prosiectau rydyn ni’n eu derbyn, felly rydyn ni’n chwilio am yr un nesaf drwy’r amser. Roedd yr arian yn ddigon i ni allu cyfiawnhau cynnig interniaeth i Ritika er mwyn iddi hi weithio ar brosiect cleient.

Beth oedd effaith cynnal myfyriwr ar interniaeth?

Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd y cleient yn hapus iawn gyda’r gwaith ac maen nhw bellach eisiau gweithio gyda ni ar brosiect sydd ychydig yn wahanol. Felly roedd yn ddefnyddiol iawn i ni gan ei fod wedi helpu i gryfhau ein perthynas â nhw. Arweiniodd y gwaith hefyd at ddrafftio bapur gwyn a gafodd ei rannu a’r diwydiant cyfan, felly mae wedi cael effaith sylweddol iawn.

Pam fyddech chi’n argymell bod busnesau bach a chanolig eraill yn cymryd rhan yn y math hwn o brosiectau cyflogadwyedd myfyrwyr?

Yn hytrach na hynny, byddwn i’n gofyn: pam na fyddech chi eisiau cymryd rhan? Pam na fyddech chi eisiau dod â thalent i’ch sefydliad i weithio ar brosiectau, sydd wedyn naill ai’n gallu ymuno â’ch busnes neu wneud y diwydiant cyfan yn well? Sut ydych chi’n mynd i ddechrau ar eich gyrfa os nad ydych chi’n gwneud rhywbeth fel hyn? Hyd yn oed os nad yw’n gweithio, o leiaf mae pawb wedi dysgu rhywbeth. Mae Empirisys wedi elwa ar Ritika’n cymryd rhan mewn prosiect penodol na fydden ni wedi gallu ei wneud hebddi hi. Mae hynny wedi helpu’r berthynas gyda’r cleient ac mae’n rhoi profiad i Ritika hefyd. Mae’n teimlo fel bod pawb ar eu hennill.

Ritika – sut mae cael eich mentora ac yna ymgymryd ag interniaeth wedi bod o fudd i chi?

Pan wnes i gais am y rhaglen fentora, doeddwn i ddim yn gwybod bod cyfleoedd profiad gwaith yn rhan ohono hefyd. Fy mwriad oedd dysgu cymaint ag y gallwn i gan fy mentor.

Roeddwn i eisiau newid fy ngyrfa ac roeddwn i eisiau cyngor ar symud i ddiwydiant newydd. Pan wnes i gwrdd â Peter am y tro cyntaf, dywedais i wrtho ar unwaith fy mod i hefyd yn chwilio am rywfaint o brofiad gwaith, felly roedd e’n gwybod mai dyna oedd un o fy nodau. Fe wnaeth y Rhaglen Mentora Gyrfa fy helpu i ddod o hyd i’r arweiniad a’r profiad roeddwn i eu hangen.

Yn ystod yr interniaeth, roeddwn i’n gallu datblygu sgiliau gan ddefnyddio meddalwedd nad oeddwn i wedi ei ddefnyddio o’r blaen. Roedd dysgu rhywbeth newydd ac yna gweithio ar brosiect amser real yn y byd go iawn a defnyddio fy sgiliau wir yn brofiad dymunol. Nawr, mae gen i fy mhrosiect fy hun rwy’n gallu ei ddangos i gyflogwyr a recriwtwyr, ac mae gen i brofiad gwaith yn y DU sydd wir yn mynd i fy helpu. Rwy mor ffodus fy mod i wedi gwneud cais am y cynllun hwn, ac fod mod i wedi cael fy mharu â’r person cywir. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un.

Galw am fentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli er mwyn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn eich sector gan rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad?

Rydyn ni’n chwilio am Gyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i gynorthwyo myfyrwyr presennol o ran cael cyngor a dealltwriaeth werthfawr; mae hyn i’w helpu i fagu hyder yn eu dewisiadau o ran gyrfa trwy ein Rhaglen Mentora Gyrfa, ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Sul 20 Hydref.

Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi cenhedlaeth nesaf myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.