Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonate

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i helpu teuluoedd fel fy un i

19 Medi 2024

Ym mis Hydref, bydd Isabel Irvine (BSc 2024) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd. Hyd yma, mae hi wedi codi swm anhygoel o £1,100 er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn y ras. Dyma rannu ei stori yn ogystal â’i chynlluniau ar gyfer yr wythnosau i ddod.

Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?

Yr haf diwethaf, cafodd fy mam ddiagnosis o ganser y gwaed. Roedd yn sioc fawr, ac roedd yn rhaid iddi hi gael sesiynau cemotherapi dwys bob pythefnos – wyth sesiwn i gyd – gan fod ei chanser yn ymosodol iawn. Roedd hi’n anodd iawn gwylio Mam yn cael triniaeth a gweld pa mor flinedig ac yn sâl roedd y driniaeth yn ei gwneud hi, ynghyd â sgil-effeithiau fel colli gwallt a gwendid.

Cafodd wybod ei bod yn rhydd o ganser ychydig wythnosau yn ôl, diolch byth. Rwy’n gwybod nad yw pob teulu yn cael y canlyniad hapus hwn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r ymchwilwyr a’r meddygon a wnaeth hyn yn bosibl i ni. Felly, pan welais i fod Prifysgol Caerdydd yn cynnig lleoedd noddedig yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian er budd yr adran ymchwil canser, penderfyniad hawdd oedd cofrestru.

Pryd wnaethoch chi ddechrau rhedeg a pham?

Dechreuodd fy nhad, rhywun y byddwn i erioed wedi ei ddychmygu’n rhedeg, ar y cynllun ‘soffa i 5k’ yr haf diwethaf a mwynhaodd yn fawr. Wedi’i ysbrydoli ganddo, ac ar ôl gwylio fy ffrind yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd y llynedd, dechreuais i’r cynllun ‘soffa i 5k’ ym mis Hydref y llynedd. Sylweddolais i nad oeddwn i’n gwneud llawer o ymarfer corff a doeddwn i ddim yn hoffi mynd i’r gampfa, felly roedd rhedeg yn ymddangos yn berffaith i fi – mae’n hygyrch ac mae’n rhoi cyfle i dreulio amser tu allan. Roeddwn i’n synnu pa mor anodd oedd hi i redeg hyd yn oed am bum munud ar y dechrau, felly pan wnes i gwblhau’r cynllun ac roeddwn i’n gallu rhedeg am hanner awr, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth. Ers hynny, dwi wedi ceisio rhedeg o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys gwneud ‘parkrun’ yn aml.

Beth yw eich cynllun ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?

Roeddwn i’n gwybod bod gen i le yn Hanner Marathon Caerdydd tua wyth wythnos cyn y digwyddiad, gan fy mod i ar y rhestr wrth gefn. Roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n barod mewn pryd, gan mai dim ond un 10k rwy’ wedi’i redeg o’r blaen, ac fel arfer rwy’n rhedeg 5k bob wythnos. Fodd bynnag, rwy’ wedi datblygu trefn o redeg 6.5k, 8k, ac yna un sesiwn hir unwaith yr wythnos. Dechreuais i drwy redeg 8k ac rwy wedi cynyddu’r pellter hwn yn raddol bob wythnos, gan gyrraedd 10k, 13k, a gobeithio, yn yr wythnosau i ddod, 16k, 18k, ac yn olaf 21k.

Rydych chi eisoes wedi cyrraedd eich targed o ran codi arian. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau codi arian pellach ar gyfer yr wythnosau nesaf?

Fe wnes i greu tudalen JustGiving a’i rhannu gyda fy nheulu. Ar ôl iddyn nhw roi arian, roeddwn i’n teimlo’n ofnus – oherwydd doedd e ddim yn bosib tynnu’n ôl bellach – ac yn ddiolchgar iawn!

Yna fe wnes i fagu’r hyder i’w bostio fel stori Instagram, oedd yn teimlo’n frawychus ac yn lletchwith gan nad oedd y rhan fwyaf o bobl sy’n fy nilyn i yn gwybod bod fy mam wedi cael canser. Roedd y gefnogaeth a gefais i’n anhygoel; mewn 24 awr, roeddwn i wedi codi tua £700 ac wedi derbyn cymaint o negeseuon caredig. Mae’r holl roddion cynnar hyn yn bendant wedi fy ysgogi i wrth redeg. Dros yr wythnosau nesaf, rwy’n bwriadu rhannu’r ddolen ar Instagram eto a’i hanfon at ychydig o grwpiau eraill.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â fy holl ffrindiau o’r brifysgol. Graddiais i eleni a symudais i o Gaerdydd, ond mae llawer o fy ffrindiau yno o hyd, naill ai’n gweithio neu’n astudio. Mae rhai ohonyn nhw hefyd yn rhedeg yr Hanner Marathon, ac rwy’n edrych ymlaen at redeg ochr yn ochr â nhw eto. Ond, a dweud y gwir, rwy’n edrych ymlaen yn bennaf at gael diod a chinio rhost ar ôl y ras!

Sut mae eich teulu a’ch ffrindiau wedi ymateb eich bod chi’n ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd i godi arian er budd ymchwil canser yn eich cyn-Brifysgol?

Pan ddywedais i wrth fy nheulu, roedden nhw’n methu â chredu (yn enwedig gan mai dim ond wyth wythnos oedd gen i i ymarfer), ond roedden nhw’n hapus iawn hefyd. Roedd fy mam yn hynod falch. Fe wnaeth fy nhad, fydd yng Nghaeredin y noson cyn yr Hanner Marathon, brynu taith awyren i Gaerdydd am 7 o’r gloch y bore er mwyn dod i wylio! Mae fy ffrindiau hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, gan addo bod yno i floeddio a dal arwyddion i fyny.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun arall sy’n ystyried rhedeg i godi arian er budd ymchwil Prifysgol Caerdydd?

Ewch amdani! Hyd yn oed os nad ydych chi wedi rhedeg o’r blaen, mae o fewn eich cyrraedd os ydych chi’n ymarfer yn gyson a chynyddu’ch pellter yn raddol. Hefyd, mae’n achos pwysig i godi arian ar ei gyfer.

Noddwch Isabel

Noddwch Isabel ar JustGiving a’i helpu i roi hwb i’w chyfanswm codi arian.

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref

 Oes gennych chi le ar Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.

Ymgymryd â her egnïol wahanol

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae digwyddiadau yn cael eu trefnu y gallwch chi ymuno â nhw yn rhan o #TeamCardiff. Dyma’r ystod lawn o heriau sydd ar gael.