Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Dychwelyd i redeg i gefnogi ymchwil hanfodol

12 Medi 2024

Eleni, bydd un o’n cyn-fyfyrwyr Daniel Nicolas (MBA 2020) yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, i gefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Yma, mae’n sôn am ei gymhellion personol ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ei ras gyntaf ers y pandemig. 

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd?

Cafodd fy Modryb ddiagnosis o ddementia yn 2023, felly rwy ‘di gweld yn uniongyrchol, natur wanychol y clefyd hwn a’i effeithiau ar y teulu agos. Mae gen i ffrindiau sydd wedi cael diagnosis o ADHD, ac mae eu plant yn eu tro wedi cael diagnosis hefyd. Byddai’n anhygoel cefnogi ymchwil i achosion cyflyrau iechyd meddwl, sydd â’r potensial i wella ansawdd bywyd cynifer o bobl.

Ym mis Ionawr 2024, penderfynais i ailgynnau fy angerdd dros redeg er mwyn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ac yn ogystal, codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Cyn y pandemig, roeddwn i’n rhedeg 100 milltir yr wythnos. Yna, yn ystod y cyfnod clo, rhoddais i’r gorau i redeg yn llwyr. Rwy wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd bum gwaith (gan gynnwys pencampwriaeth y byd) yn y gorffennol, ond dyma fydd fy ras neu hanner marathon cyntaf ers dros bedair blynedd.

Pryd dechreuoch chi redeg a pham?

Pan oeddwn i’n iau, roeddwn ni’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel ryngwladol/lled-broffesiynol. Yn anffodus, ces i ddau anaf difrifol – un yn y pigwrn ac un yn y garddwrn, a bu’n rhaid cael llawdriniaethau adluniol. O ganlyniad, rhoddais i’r gorau i chwaraeon cystadleuol yn 20 oed.

Treuliais i’r 10 mlynedd nesaf yn cadw’n heini drwy fynd i’r gampfa ac, yna yn 2011, penderfynais i gymryd rhan yn y Parkrun ym Mhorthcawl. Dyma ddechrau fy nhaith rhedeg – ymunais i yn syth â chlwb rhedeg lleol, a thros y blynyddoedd symudais i ymlaen o 5K i 10K, yna i hanner marathon (Hanner Marathon Caerdydd oedd y cyntaf). Symudais i ymlaen wedyn i Farathon Eryri ac yna uwch-marathonau. Y pellter pellaf rwy wedi ei redeg yw 53 milltir yn y Race to the King.

Beth yw eich cynllun hyfforddi yn ystod yr wythnosau cyn y ras? 

Gan nad ‘wy wedi rhedeg ers amser maith, rwy wedi bod yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen aerobig gadarn i ddechrau. Hefyd, rwy wedi bod yn gwella fy nghryfder a datblygiad corfforol i wneud yn siŵr nad wy’n cael anafiadau. Ar hyn o bryd rwy’n gwneud tair sesiwn hyfforddi’r wythnos, sy’n cynnwys hyfforddiant ysbeidiol, hyfforddiant cyflymder, ac yn olaf rhediad araf hir. Mae’r hyfforddiant wedi mynd yn dda ac rwy’n edrych ymlaen at yr Hanner Marathon.

Rydych chi eisoes wedi cyrraedd eich targed codi arian o £250! Ers cofrestru ar gyfer y ras, sut ydych chi wedi mynd ati i godi arian?

Rwy wedi bod yn anhygoel o lwcus gan fod fy ffrindiau, teulu, a chydweithwyr wedi bod yn hael iawn yn y cyfnod yn arwain at y ras.

Mae fy nheulu a fy ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn, naill ai’n cyfrannu at fy nhudalen JustGiving neu’n rhedeg gyda fi.

Mae amser o hyd i godi arian ychwanegol – gobeithio galla i gyrraedd £500.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr awyrgylch anhygoel. Hefyd, bydd fy nheulu a ffrindiau yno i fy nghefnogi, a fydd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ac wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o redwyr, rwy’n edrych ymlaen at ychwanegu medal newydd at fy nghasgliad. Dyma’r un cyntaf ers sbel! 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun arall sy’n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd? 

Ewch amdani! Byddwch chi’n cael manteision iechyd a lles wrth redeg a hyfforddi ar gyfer y digwyddiad, ond byddwch chi hefyd yn cael cyfle i godi arian at achos gwych. Hefyd, mae’r gefnogaeth a’r cyfathrebu gan dîm Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ardderchog.

Cefnogwch Daniel

Noddwch Daniel ar JustGiving i ychwanegu at ei gyfanswm.

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 

Oes gennych chi le yn Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.

Ymgymryd â her egnïol wahanol

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, gallwch chi ymuno â digwyddiadau sydd wedi’u trefnu ar ran #TeamCardiff. Gallwch chi weld yr ystod lawn o ddigwyddiadau sydd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am godi arian ym Mhrifysgol Caerdydd, e-bostiwch donate@caerdydd.ac.uk.