Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Sut i ddod o hyd i chi’ch hun yn ein fideos archif o’r seremonïau graddio

7 Awst 2024

Ydych chi’n cofio sut oeddech chi’n teimlo wrth i chi gerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Oeddech chi’n teimlo’n nerfus, yn chwilio am eich teulu ymysg y dorf, neu’n barod i fwynhau’r teimlad o glywed eich enw yn cael ei alw! Er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio, gallwch chi ail-fyw’r foment trwy ddod o hyd i’ch hun yn ein harchifau Graddio. Porwch ein harchifau graddio o 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009 a 2010.

Gallwch chi weld seremonïau Graddio mwy diweddar ar ein gwefan.

Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer dod o hyd i chi’ch hun neu’ch ffrindiau yn y fideos.

  • Byddwch chi’n gweld rhestr lawn o’r ysgolion hynny sy’n rhan o seremoni benodol yn y disgrifiad o’r fideo ar YouTube.
  • Tua awr a hanner yw hyd pob seremoni, a bydd enwau’r graddedigion yn cael eu darllen tua 15-20 munud ar ôl dechrau’r fideo.
  • Yn y seremonïau, bydd yr ysgolion yn cael eu cyflwyno yn ôl y drefn a nodir yn y disgrifiad.
  • Dyfernir graddau israddedig pob ysgol yn gyntaf. Bydd y rhain yn cael eu rhannu fesul cwrs, a byddwn yn galw ar y graddedigion yn nhrefn yr wyddor yn y cwrs. Unwaith y bydd yr holl raddau israddedig wedi cael eu galw, bydd y graddau meistr yn cael eu galw, unwaith eto fesul cwrs, ac yna yn nhrefn yr wyddor. Yn olaf, gelwir graddau PhD pob pwnc.
  • Gair i gall – ewch ati i droi’r is-deitlau awtomatig ymlaen, clicio ar ‘more’ yn y disgrifiad o’r fideo a dewis ‘Show transcript’. Gan ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio (CTRL + f ar eich bysellfwrdd), chwiliwch am eich enw cyntaf neu’ch enw canol. Gallwch chi hefyd geisio chwilio am eich cyfenw, ond sylwer efallai na fydd yr is-deitlau awtomatig yn sillafu’ch enw yn gywir.
  • Wedi ichi ddod o hyd i chi’ch hun, defnyddiwch y botwm ‘Share’ er mwyn anfon y fideo at eich ffrindiau a’ch teulu. Ticiwch y blwch ‘Start at’ i gael dolen sy’n dangos eich eiliad arbennig chi.
  • Os ydych chi’n bwriadu rhannu’r fideo ar X, Facebook neu LinkedIn, cofiwch ein tagio ni.
  • Rhannwch y cariad a rhoi gwybod i’ch ffrindiau. Os nad ydyn nhw eisoes wedi cael ein e-gylchlythyr i gyn-fyfyrwyr, gallan nhw gofrestru i’w gael yma.