Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle – Bossing It
26 Mehefin 2024Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi’r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. Fe wnaethon ni ofyn i’n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.
Jennifer Griffiths (BA 2001)
Jennifer yw sylfaenydd ThinkDIF, gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori sy’n cefnogi sefydliadau i ddod yn fwy niwrogynhwysol. Cyn hyn, bu Jennifer yn gweithio yn y sector technoleg fel uwch-weithiwr adnoddau dynol uchel iawn ei pharch. Mae hi’n angerddol am gefnogi gweithwyr a chynnig amgylchedd gwaith addas iddyn nhw gael bod ar eu gorau. Mae hi’n gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol, a hefyd o fewn sefydliadau i addysgu timau am niwroamrywiaeth.
Creu lle diogel i gael mynediad at gefnogaeth
Mae canran uchel o weithwyr yn dewis peidio â dweud wrth eu cyflogwr am ddiagnosis o gyflwr niwroamrywiol. Gallai hyn fod oherwydd nad ydyn nhw’n ymwybodol bod addasiadau ar gael iddyn nhw gael gweithio ar lefel gyfartal â’u cyfoedion. Efallai eu bod nhw wedi cael profiad gwael yn y gorffennol, neu eu bod nhw’n ofni y bydd yn gwneud drwg i’w rhagolygon gyrfa.
Rhaid addysgu’r cwmni cyfan ar niwroamrywiaeth er mwyn annog gweithwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rhaid hyfforddi ac ymgysylltu â rheolwyr a thimau AD, cyhoeddi gwybodaeth am addasiadau rhesymol, a chael polisi sy’n sicrhau bod eich gweithwyr yn teimlo’n ddiogel i siarad gyda chi.
Adeiladu dealltwriaeth ac ymdeimlad o dderbyn yn eich tîm
Mae tîm niwrogynhwysol yn cydnabod y cryfderau y gall pob unigolyn ddod i’r gweithle gyda nhw, yn seiliedig ar y ffordd y mae eu hymennydd yn prosesu gwybodaeth a sut maen nhw’n gweld y byd. Maen nhw’n croesawu ac yn dathlu gwahanol ffyrdd o feddwl, a chaiff pawb eu derbyn a’u cefnogi am eu ffyrdd amrywiol o feddwl.
Dylid creu man lle gall y tîm drafod cryfderau a dewisiadau gwaith pawb, er mwyn bodloni pob aelod o’r tîm a gwella cydweithio. Pan fydd timau’n gwneud hyn yn effeithiol, maen nhw’n perfformio’n well ac yn rhoi hwb i ganlyniadau eich busnes.
Andrei Hodorog (BSc 2017, PhD 2024)
Mae Andrei yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac mae’n eiriolwr dros unigolion sy’n niwrowahanol. Mae ei ymchwil yn arloesol, ond mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth – mae’n arbenigwr ym maes dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol, dylunio profiad y defnyddiwr, a thechnolegau adeiladu clyfar. Mae Andrei yn arwain sawl prosiect elusennol fel AboutADHD.com, sianel YouTube About ADHD, ac About ADHD Romania, sy’n cynnig cymorth ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth am ADHD. Hefyd, cyfieithodd Ddatganiad Consensws Rhyngwladol Ffederasiwn ADHD y Byd yn swyddogol i’r Rwmaneg.
Gwerthfawrogi cryfderau eich cydweithwyr
Mae ein cydweithwyr niwrowahanol yn dod â chryfderau unigryw i’n tîm. Mae eu safbwyntiau amrywiol a’u galluoedd eithriadol, megis rhoi sylw i fanylion, bod yn greadigol wrth ddatrys problemau, a chof rhyfeddol, yn fantais bwysig. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi’r cryfderau hyn, gallwn eu hysbrydoli i gyrraedd eu potensial llawn a chyfrannu hyd yn oed yn fwy at ein llwyddiant.
Gallwch annog cydweithwyr i ymgymryd â mentora a chael cefnogaeth gan gymheiriaid, er mwyn gwella cyfraniadau a datblygiad eich cydweithwyr. Trwy drefnu sesiynau un-i-un rheolaidd ac annog rhoi adborth, gallwch wella’r cymorth rydych chi’n ei roi i’ch cydweithwyr yn barhaus.
Cynnal cyfarfodydd cynhwysol
A chithau’n rheolwr, gallwch sicrhau bod cyfarfodydd yn bodloni anghenion amrywiol eich cydweithwyr trwy ddefnyddio nifer o strategaethau. Gallech anfon agendâu ymlaen llaw, caniatáu i bobl cyfrannu yn ysgrifenedig, a defnyddio cymhorthion gweledol i sicrhau cyfathrebu clir. Gallech hefyd gynnig seibiannau yn ystod cyfarfodydd i sicrhau nad yw synhwyrau pobl yn cael eu gorlwytho. Ystyriwch ddefnyddio fformatau amgen megis trafodaethau un-i-un, galwadau sain yn unig, neu gyfathrebu’n ysgrifenedig ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd mewn cyfarfodydd grŵp.
Laura Connor (PGCE 2016)
Mae Laura wedi cymhwyso fel athrawes, yn hyfforddwr ardystiedig ac yn eiriolwr dros iechyd meddwl a niwroamrywiaeth. Mae hi’n cynnig ystod o wasanaethau yn The Neurodiversity Fairy, gan gynnwys hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant, hyfforddiant un-i-un a chyrsiau ar-lein. Nod y rhain yw meithrin cymuned fwy cefnogol a llawn dealltwriaeth. Mae Laura hefyd yn cynnig adnoddau ac awgrymiadau ar niwroamrywiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae dros filiwn o bobl wedi gweld ei chynnwys hyd yma.
Siaradwch â ni
Gall y syniad bod ‘ein hymennydd yn gweithio’n wahanol’ greu rhwystrau, fel pe taswn ni’n rhywogaeth wahanol. Mae’n well gen i edrych ar y peth fel y berthynas rhwng ceffyl a sebra – er bod ein bod ni’n wahanol, rydyn ni’n eitha’ tebyg, mewn gwirionedd. Rhaid i chi siarad â ni er mwyn deall ein hanghenion unigryw. Rydyn ni fel arfer yn croesawu sgyrsiau llawn cariad, tosturi a chwilfrydedd!
Mae’n werth nodi bod llawer o unigolion niwroamrywiol yn cyfathrebu mewn ffordd uniongyrchol. Dydy hyn ddim yn golygu nad oes gyda ni ddigon o eirfa, na bod gyda ni’r gallu i ddefnyddio trosiadau, ond yn hytrach, dydyn ni ddim yn ymgorffori ystyron cudd yn y ffordd rydyn ni’n siarad – felly ceisiwch fod yn uniongyrchol ac yn glir.
Cefnogi anghenion synhwyraidd
Gall unigolion niwroamrywiol brosesu gwybodaeth synhwyraidd mewn ffordd unigryw, gan wneud amgylcheddau fel swyddfeydd, siopau, a mannau prysur eraill yn hynod o anodd delio â nhw. Er enghraifft, dychmygwch fod y ffliw arnoch chi; mae’ch pen yn curo, mae’ch croen yn boenus i’r pwynt lle mae hyd yn oed cwrlid yn teimlo’n anghyfforddus, ac mae golau’r haul yn ymddangos yn llachar iawn. Mae hynny’n debyg i’r teimlad o orlwytho synhwyraidd i rywun niwroamrywiol. Efallai y bydd deall y persbectif hwn yn egluro pam y gall disgleirdeb goleuadau stribed, mwmian cyfrifiaduron a synau uchel iawn beri gofid i ni.
Nathan Thomas (PgDip 2010)
Mae Nathan yn Gyfarwyddwr Creadigol Menter Gymdeithasol Neuro Expression, sy’n anelu at wneud y sectorau creadigol yn fwy niwroamrywiol ac o gymorth ar gyfer anableddau. Mae Neuro Expression yn helpu sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol, creu mannau a deunyddiau hygyrch a chreu cyfleoedd cynhwysol i bobl o bob gallu ymgysylltu â’r celfyddydau. Hyfforddwr a Siaradwr ar niwrowahaniaeth yw Nathan. Mae ganddo gefndir mewn gwaith cymdeithasol a chelfyddyd weledol ac mae’n defnyddio ei brofiad bywyd i helpu pobl eraill i ffynnu ym myd gwaith ac addysg.
Edrych i mewn i Fynediad at Waith
P’un a ydych chi’n niwroamrywiol eich hun neu am gefnogi eich cydweithwyr, gwnewch hi’n flaenoriaeth i ddysgu am Fynediad at Waith – rhaglen gan y llywodraeth sy’n cefnogi pobl anabl i ddechrau gweithio neu aros mewn gwaith.
Efallai y bydd ganddyn nhw adnoddau ariannol i helpu i gael gwared ar rwystrau yn eich gweithle. Er enghraifft, gall y rhaglen ddarparu offer arbenigol neu hyfforddwr swydd. Efallai gallan nhw dalu costau teithio i’r gwaith os na allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ariannu addasiadau i’ch cerbyd i gyrraedd y gwaith a gwneud newidiadau sydd yn gyfleus i’ch gweithle. Gallant hyd yn oed ddarparu cefnogaeth os ydych chi’n ddarpar entrepreneur hefyd.
Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres ‘Bossing It’ yn dod â chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd – dewch i fanteisio ar eu doethineb a phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018