Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Emma Weir

14 Mehefin 2024

Mae Emma Weir (Biowyddorau 2021-) ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, ac rwy’n ymchwilio i fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, a sgitsoffrenia. Mae’n dweud wrthon ni am ei gwaith, sy’n ceisio rhoi diagnosis mwy cywir i gleifion a gwell cymorth yn gynt.

Mae fy ymchwil yn ymwneud â newidiadau DNA sy’n arwain at ddatblygiad annormal yn yr ymennydd ac sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu anhwylderau niwroddatblygiadol. O bryd i’w gilydd, byddwn ni’n gweld newidiadau genetig mawr yn DNA cleifion, pan fydd rhanbarthau o gromosomau naill ai wedi cael eu dileu neu eu dyblygu. Nid yw’r newidiadau hyn yn digwydd yn aml, ond hwyrach eu bod yn dangos a fydd rhywun yn datblygu cyflwr niwroddatblygiadol a’r tebygolrwydd y bydd rhai symptomau, megis nam gwybyddol, yn bresennol. Hwyrach bod rhywun sydd â mwtaniad yn asymptomatig, neu efallai y bydd ei gyflwr yn un difrifol. Efallai hefyd nad ydyn nhw yn ymwybodol bod ganddyn nhw risg genetig o ddatblygu cyflwr hyd nes iddyn nhw drosglwyddo’r risg genetig hyn i’w plant. Fy ngwaith yw trin a thrafod y fioleg sy’n sail i’r achosion hyn o ddyblygu a dileu a’r hyn mae hyn yn ei olygu i gleifion.

Er bod pethau wedi datblygu’n sylweddol, mae cymaint o hyd nad ydyn ni’n ei wybod am yr ymennydd, gan fod gwneud biopsïau ar yr organ benodol hon yn anodd. Felly, mae ein tîm yn defnyddio techneg labordy arbennig er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cysylltiad rhwng newidiadau mewn DNA a chyflyrau niwroddatblygiadol. Drwy gymryd samplau gwaed sy’n cynnwys DNA cleifion, gallwn ni greu bôn-gelloedd i’w defnyddio yn y labordy. O’r bôn-gelloedd hyn, gallwn ni dyfu celloedd yr ymennydd a chreu modelau 3D. Yn y bôn, mae modelau’r ymennydd bach hyn – a elwir yn organoidau – yn gopïau unfath yn enetig o ymennydd claf penodol.

Mae’r organoidau hyn yn gwneud byd o wahaniaeth i’n hymchwil. Maen nhw’n ein galluogi i ail-greu gweithrediadau’r ymennydd o dan amodau labordy, fel y gallwn ni brofi damcaniaethau a thriniaethau na fydden ni yn gallu eu profi fel arall. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio organoidau i ymchwilio i ba fathau o gyffuriau a allai weithio orau i leddfu cyflyrau penodol. Mae tîm y labordy yn ymchwilio i’r ffordd y mae celloedd gwahanol yn yr ymennydd yn newid ac yn rhyngweithio â’i gilydd. Rwy’n ceisio dysgu sut mae celloedd sy’n creu myelin yn effeithio ar weithgarwch niwronau, er enghraifft, tra bod fy nghyd-ymchwilwyr yn edrych ar fathau eraill o gelloedd yr ymennydd.

Drwy weithio ar y cyd, mae ein hymchwil yn ein helpu i ddeall yr ymennydd mewn ffordd newydd a gwell, sy’n golygu y gallwn ni roi diagnosis mwy manwl gywir i gleifion, gwybodaeth feddygol mwy personol, yn ogystal â’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynharach. Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol ar y cyd yn chwyldroi ein dealltwriaeth o’r ymennydd, gan ein galluogi i roi diagnosis mwy manwl gywir i gleifion, arbenigedd meddygol mwy personol a chymorth amserol yn gynharach.

Dysgwch ragor am niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.