Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddion

Cerdded yr Wyddfa gyda’r nos er budd ymchwil sy’n newid bywydau

5 Mehefin 2024

Ym mis Gorffennaf, bydd Isabelle (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2021-) yn mynd ar daith gyda’r nos i fyny’r Wyddfa yng nghwmni ei chyd-godwyr arian #TeamCardiff. Gyda’i gilydd, bydd ymdrechion y tîm yn cefnogi ymchwil hanfodol canser a Niwrowyddoniaeth ac ymchwil Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae Isabelle yn sôn am pam penderfynodd hi i gymryd rhan yn y sialens o gerdded copa uchaf Cymru.

Beth oedd wedi eich ysbrydoli i gofrestru ar gyfer y daith a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?

Fe welais i erthygl ar y daith a meddwl ei fod yn edrych fel her anhygoel (yn enwedig gyda’r elfen ychwanegol ohono yn digwydd gyda’r nos). Roeddwn i eisiau rheswm penodol dros ddod yn fwy iach a heini, felly roedd yr her yma i’w gweld yn gyfle gwych i wneud hynny. Hefyd, pan welais i at ba achosion y byddai’r arian yn mynd, roedd yn teimlo fel dewis da.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi colli Nain a Thaid i ganser. Oherwydd yr holl driniaethau dderbyniodd Nain, roedd hi’n medru treulio mwy o amser gyda ni – a daeth hynny o flynyddoedd o waith gan ymchwilwyr clyfar iawn. Mae hanes o anhwylderau iechyd meddwl yn fy nheulu ac mae gen i brofiad personol o’r rhain, felly rydw i’n ymwybodol bod ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol er mwyn rhoi gofal tosturiol ac effeithiol. 

Sut ydych chi’n bwriadu hyfforddi a chodi arian dros y misoedd nesaf?

Hyd yn hyn, rydw i wedi bod yn codi arian ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu gwybodaeth am yr her a’r achosion y mae’n eu cefnogi. Wrth i ni ddod yn agosach at y diwrnod mawr, rydw i yn bwriadu rhannu’r newyddion diweddaraf o’m hyfforddiant a chodi arian. Rydw i hefyd yn mwynhau celf, felly cefais y syniad o gynnig portreadau o bobl, anifeiliaid anwes, cymeriadau ac ati i’r rhai a oedd yn rhoi i’r achos.   

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato am y daith?

Rydw i yn anelu at fod yn iachach (fel llawer o bobl eraill, roedd y cyfnod clo wedi gostwng fy lefelau ffitrwydd!) Ar wahân i hyn, rydw i wir yn edrych ymlaen at weld yr holl olygfeydd. Rydw i wrth fy modd bod allan yn yr awyr agored ac mewn natur ac mae cerdded Yr Wyddfa gyda’r nos gyda’r sêr uwch ein pennau yn swnio’n anhygoel. Rwy’n dychmygu bydd gweld yr haul yn codi yn brofiad gwych hefyd (hyd yn oed os nad oes awyr clir). Rwy’n gymysgedd o gyffro a gofid ar gyfer y daith ond gydag agwedd penderfynol, rydw i yn barod i wthio fy hun i’r eithaf!

Sut mae eich teulu a’ch ffrindiau wedi ymateb i chi yn ymuno â’r daith? 

I fod yn onest, mae’r rhai rydw i wedi sôn wrthyn nhw am y sialens wedi ymateb mewn sioc (mae’n her anodd iawn)! Fodd bynnag, mae pawb wedi bod mor falch a chefnogol boed trwy rannu eu geiriau caredig neu roi i’r achos. Rydw i wedi fy syfrdanu gan y gefnogaeth mae’r achos wedi’i dderbyn ac rydw i yn ddiolchgar dros ben.  

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i eraill sy’n angerddol am ymchwil canser ond nad ydyn nhw’n siŵr sut i ddechrau codi arian?

 Yn syml, ewch amdani! Byddwch chi’n synnu pa mor gyflym y bydd pobl yn dechrau eich cefnogi chi. Os oes gyda chi diddordebau rydych chi’n eu mwynhau, ceisiwch ddod o hyd i ffordd y gallwch chi ddefnyddio hynny i godi arian! Hefyd, cymerwch fantais o’r ochr gymdeithasol i godi arian – mae siarad am y sialens wedi agor sgyrsiau gyda phobl dydw i heb sgwrsio â nhw ers sbel ac maen nhw wedi helpu i ledaenu’r gair ymhellach.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd sy’n meddwl ymuno â her yr Wyddfa? 

Mae’n swnio fel her frawychus iawn, yn enwedig os nad ydych chi, fel fi, wedi cael llawer o gymhelliant i fod yn iachach. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle i wneud rhywbeth anhygoel i chi’ch hun wrth wneud rhywbeth gwych i eraill ar yr un pryd! Cofiwch y gall herio eich hun hefyd fod yn hwyl a gallwch chi ysgogi eich hun wrth wybod eich bod yn helpu achosion da.

Cefnogwch Isabelle

Dangoswch eich cefnogaeth i Isabelle a helpwch hi gyrraedd ei tharged codi arian. Noddwch Isabelle ar JustGiving.

Cerdded Yr Wyddfa o dan awyr serennog a chodi arian naill ai ar gyfer ymchwil canser neu Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Cofrestrwch i gerdded gyda #TeamCardiff ar 20 i 21 Gorffennaf 2024 neu 19 i 20 Hydref. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, e-bostiwch donate@caerdydd.ac.uk.