Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyrWomentoring

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Natalie Atkinson (BSc 2018)

29 Mai 2024

Graddiodd Natalie o Brifysgol Caerdydd yn 2018 mewn Daearyddiaeth Ddynol, gan sicrhau lle yn Gynlluniwr Trefi Graddedig ar gynllun cystadleuol i raddedigion, gyda chymorth gwasanaeth cymorth gyrfaol y Brifysgol. Pan oedd hi’n gwneud cynllun y graddedigion, cwblhaodd Natalie radd Meistr rhan-amser mewn Cynllunio Trefol cyn mynd ymlaen i gael achrediad proffesiynol RTPI ym mis Rhagfyr 2021. Er iddi fwynhau ymgynghoriaeth gynllunio a dysgu llawer iawn, penderfynodd nad dyna yr oedd hi eisiau ei wneud am byth. Wedi hynny symudodd Natalie i weithio i YTL Developments (UK) Ltd. sy’n ailddatblygu hen faes awyr yn gymdogaeth ffyniannus newydd. Mae Natalie wedi bod yn gweithio yn YTL ers dwy flynedd a hanner ac mae’n ddigon ffodus i ddweud ei bod hi wir wrth ei bodd â’i swydd (y rhan fwyaf o’r amser!). 

Cymerodd Natalie ran yng nghynllun Menywod yn Mentora 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoriaid. Cafodd ei pharu â Joanna Dougherty (BScEcon 2017) Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang Profiad y Cleientiaid JLL ac mae’n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentorai yn y rhaglen. 

Beth oedd eich profiad o gynllun Menywod yn Mentora? 

Roedd fy mhrofiad yn gadarnhaol iawn, ac roedd fy mentor yn hyfryd – roedd cysylltiad yno ar unwaith. Peth gwych oedd cael ychydig o sesiynau penodol i drafod syniadau a heriau mewn ffordd gyfrinachol. Roedd gwneud hyn gyda rhywun annibynnol, nad oedd ganddi unrhyw gysylltiadau â fy ngweithle, yn golygu fy mod i’n gallu defnyddio’r sesiynau i ganolbwyntio ar dwf personol yn unig yn hytrach na gorfod ystyried sut y bydd rhai penderfyniadau yn effeithio efallai ar y busnes. Ar y diwedd, fy marn i oedd bod fy meddyliau a fy mhrofiadau yn fy ngyrfa hyd yma yn gwbl normal a dilys.  

Pam penderfynoch chi wneud cais am y cynllun? 

Rwy wedi cymryd rhan mewn sawl cynllun mentora hirdymor sy’n benodol i’r diwydiant ond ro’n i eisiau’r cyfle i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Ro’n i’n gwybod y byddai siarad â rhywun mewn diwydiant arall yn rhoi safbwynt gwahanol imi. Ar ben hynny, rwy wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd ac yn dysgu beth sydd wedi dylanwadu ar eu gyrfa a sut y cyrhaeddon nhw lle maen nhw. Mae rhywbeth i’w ddysgu o hyd drwy siarad a gwrando ar bobl eraill.  

Beth oedd ynghlwm wrth y mentora? 

Ces i nifer o gyfarfodydd ar-lein gyda fy mentor. Daethon ni i adnabod ein gilydd ychydig ar y dechrau ac yna buon ni’n trafod ystod o bynciau megis syndrom y twyllwr, sgiliau cyflwyno a chael effaith mewn ystafell. 

Oes rhywbeth penodol a ddysgoch chi yn aros yn eich cof?   

Weithiau, efallai y byddwch chi’n teimlo mai chi yw’r unig un sy’n wynebu rhywbeth penodol, ond ni waeth ym mha ddiwydiant rydych chi’n gweithio ynddo, mae’n ymddangos bod pobl yn cael yr un heriau – fyddwch chi byth ar eich pen eich hun! 

Sut mae cael mentor wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa? 

Er mai rhaglen fer yw Menywod yn Mentora, roedd yn gyfle gwych i fyfyrio a chael y cyfle i dasgu syniadau yng nghwmni mentor diduedd a chefnogol. Roedd hefyd yn hynod fuddiol gwrando ar brofiadau fy mentor a sut mae hi wedi goresgyn rhai problemau yn y gorffennol. 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth gyd-fyfyrwraig sy’n ystyried cofrestru ar gyfer Menywod yn Mentora y flwyddyn nesaf?  

Ewch amdani – mae rhywbeth i’w ddysgu o hyd! Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r cyfle i greu amser ar gyfer myfyrio a datblygiad personol, a pheth hawdd yw anghofio hyn wrth gadw’r ddysgl yn wastad mewn gyrfa brysur. 

Bu mentor Natalie, Joanna Dougherty (BScEcon 2017), hefyd yn rhannu ei phrofiad o gynllun Menywod yn Mentora

Os ydych chi’n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio, neu fod yn fentor i rywun arall sydd wedi graddio, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r person cywir. Mae cofrestru’n beth cyflym a rhwydd i’w wneud, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheini sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth. 

Ceir hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.