Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jane Cook (BA 2008)
5 Rhagfyr 2023Ym mis Mawrth 2023, cymerodd Jane Cook (BA 2008), ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol, ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd – Menywtora (Womentoring). Isod, mae Jane yn myfyrio ar ei hamser yn fentor ar sawl cyd-fyfyriwr ac yn rhannu ei phrofiadau er mwyn galluogi’r rhai sy’n ystyried cymryd rhan yng nghynllun y flwyddyn nesaf amgyffred ag ef.
Pam wnaethoch chi benderfynu ymuno â chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor arno?
Ces i dipyn o sioc pan ofynnwyd imi gymryd rhan, a dweud y gwir! Roedd y mentoriaid blaenorol a wyddwn amdanynt yn gweithio i sefydliadau mawr, mewn swyddi lle maent yn rheoli timau mawr neu gyllidebau enfawr. Er bod gennyf rwydwaith o weithwyr llawrydd y gallaf ddibynnu arnynt i weithio ar wahanol brosiectau, rwy’n hunangyflogedig, heb os.
Imi, roedd cael fy ngofyn i fod yn fenter yn hwb mawr, ac wrth fyfyrio arno, pan oeddwn yn fyfyriwr yn y brifysgol, ni feddyliais erioed y byddwn i’n hunangyflogedig. Byddwn wedi hoffi cael clywed gan amrywiaeth ehangach o bobl a’r llwybrau gwahanol a gymeron nhw.
Pam fod y cynllun Menywtora yn bwysig ichi?
Mae cynllun mentora lle mae menywod yn helpu menywod eraill yn fy nharo i i’r dim. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, rydw i wedi sylweddoli bod bywyd yn llawer anoddach i fenywod yn y gweithle.
Bu imi gychwyn fy ngyrfa mewn amgylchedd corfforaethol iawn ar ôl graddio, ac mewn gwirionedd, nid oedd gen i ddealltwriaeth ddofn o’r rhwystrau hynny sy’n bodoli i fenywod. P’un a yw hynny’n jyglo pethau fel absenoldeb mamolaeth a gofal plant, neu gymryd mwy o’r baich emosiynol yn y gweithle gan y’i hystyrir yn sgil benywaidd. Mae nifer o ffyrdd y gall y gweithle fod yn lle anodd i fenywod sydd â phlant a’r rheiny sydd heb blant hefyd.
Felly, os bydd angen i fenyw gael dyrchafiad neu’n ymgeisydd posibl ar gyfer swydd, yn reddfol rydw i’n ymateb mewn modd neilltuol er mwyn ceisio gwireddu hynny iddi.
A allwch chi ddweud wrthym am yr hyn yr oedd y mentora yn ei olygu?
Ces i alwad gychwynnol gyda’r tri o bobl yr wyf yn eu mentora i drafod ein gyrfaoedd hyd yma, y rhesymau pam wnaethom benderfynu cymryd rhan yn y cynllun, a’r hyn yr oeddem am ei ddysgu ohono. Gwnes i geisio talu sylw i’r tebygrwydd yn yr hyn yr oedd fy mentoreion eisiau symud ymlaen ato nesaf, megis newid gyrfa i lwybr gwahanol.
Yna fe wnes i gynnal sawl galwad un-i-un dros gyfnod o tua chwe wythnos, lle holais i ambell gwestiwn. Roedd fy mentoreion ar fin cymryd y cam nesaf neu wedi gosod y sylfaen i’w gymryd, felly roedd y galwadau hynny’n teimlo fel ffordd o gadw mewn cysylltiad tra’r oeddent yn parhau â’r daith honno.
Sut deimlad oedd gwybod bod un o’ch mentoreion, Jamie Marie Ellis, wedi cyhoeddi ei darn llawrydd cyntaf o ysgrifennu ar fwyd yn gynharach eleni?
Os gwnes i helpu, mewn pa bynnag ffordd, i roi hwb i hyder Jamie wrth iddi fentro i’r byd mawr, yna rydw i wrth fy modd! Mae’n ddarn hynod ddiddorol o ysgrifennu ac mae’r adborth a gafwyd o’m cymuned wedi bod yn gryf iawn. Rwy’n siŵr y bydd gan Jamie lawer mwy i’w gyfrannu.
Roedd yn hyfryd cael bod yn gefn i’m mentoreion a’u hannog yn eu blaenau. Roeddwn i’n gallu rhagweld y bydden nhw i gyd yn cyrraedd eu cyrchfan gyrfaol, gan sylweddoli mai bod yn fentor iddynt oedd yn greiddiol i helpu magu eu hyder. Wrth orffen pob galwad, meddyliais, “bydd hi’n wych a jyst angen mynd amdani”.
A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau da i gyn-fyfyrwyr sydd am ymuno â chynllun Menywod yn Mentora yn 2024?
Gwrandewch a thalwch sylw gymaint ag y gallwch chi a cheisiwch dreiddio i feddwl y person yr ydych chi ei fentora.
Yn ystod fy sesiynau, byddwn wrth reddf mewn sefyllfa le byddwn i’n gofyn i’m mentoreion a wnaethon nhw roi cynnig ar hwn neu hwnna, neu’r weithred hon, a sylweddolais nad oes yn rhaid o reidrwydd ceisio dod o hyd i’r cyswllt cywir na’r cam nesaf bob tro. Er bod hynny’n ddefnyddiol, nid dyna yw prif ddiben bod yn fentor.
Weithiau, mae angen ichi fod ychydig bach yn fwy amyneddgar a gadael i syniadau a meddyliau ddatblygu’n naturiol. Efallai y bydd ambell i saib yn nawr ac yn y man, ond ceisiwch beidio â phlymio’n syth i mewn.
Sut mae’r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa eich hun?
Nid wyf erioed wedi gwneud unrhyw fentora o’r blaen, felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael gwybod nad yw eich swydd yn mentora o reidrwydd yn datrys problemau’n uniongyrchol. Yn hytrach, mae’n achos o helpu rhywun gyda’u meddylfryd a thaflu goleuni ar yr hyn a allai fod yn rhwystr iddynt neu’n eu dal nhw’n ôl.
Meddyliais efallai bod angen mentor arna’ i! Roeddwn i’n gallu gweld manteision mentora o’r ddwy ochr, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud hyn eto yn y dyfodol.
Rhannodd Jamie Marie Ellis (MA 2019), un o fentoreion Jane, ei phrofiad o’r cynllun Menywod yn Mentora hefyd.
Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.
Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018