Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
22 Mehefin 2021Mae rhai o aelodau cymuned o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae Dr Quentin Sandifer (MBBCh 1985, MPH 1995), Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru yn enwedig yn ystod yr ymateb i Covid-19.
Dyfarnwyd CBE i Dr Philippa Gregory (Cymrawd Anrhydeddus 2015), awdur nofelau poblogaidd fel The Other Boleyn Girl, am ei gwasanaethau i lenyddiaeth a gwaith elusennol yn y DU a Gambia. Dywedodd Dr Gregory wrth asiantaeth newyddion PA: “Roeddwn mor falch a chefais fy synnu’n fawr ar yr ochr orau. Wrth gwrs, roeddwn yn teimlo’n hynod freintiedig ac rydw i wrth fy modd.”
Dyfarnwyd OBE i Mr Peter Gough (BSc 1977, MSc 1979), Prif Gynghorydd Adnoddau Naturiol Cymru, am ei wasanaethau i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy. Mae gwaith Mr Gough yn edrych ar reoli gwaith dŵr croyw a physgod mudol ac yn canolbwyntio ar ddiogelu poblogaethau pysgod ar gyfer y dyfodol. Wrth siarad â South Wales Argus am ei OBE, dywedodd Peter: “Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl, roedd yn hynod annisgwyl … rwy’n falch iawn ond roedd yn un o’r adegau hynny lle allwn i ddim credu’r peth.”
Dyfarnwyd OBE i Miss Sharmin Joarder (BSc 1998), Cyfarwyddwr Parodrwydd Busnes yn Swyddfa’r Cabinet, am wasanaeth cyhoeddus a dyfarnwyd OBE i Mr Michael Newman (BScEcon 1997), prif weithredwr Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, am ei wasanaethau i gofio’r Holocost a’r addysg amdano.
Mae Mr Sumit Goyal (LLM 2010) yn Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae wedi treulio dros ddegawd yn ymdrechu i wella gwasanaethau’r fron, gan sefydlu Clinig y Fron One Stop yn Llandochau. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i ganser y fron ac Elusen Canolfan y Fron Caerdydd.
Mr Paul Kalle-Grover (BSc 1998) yw Cadeirydd Partneriaeth Lerpwl Tsieina ac mae wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i Fasnach a Buddsoddi Rhyngwladol.
Dyfarnwyd MBE i Dr John Llewelyn (MBBCh 1980), Meddyg Ymgynghorol mewn Niwroleg ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus yn Sefydliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ei wasanaethau i Feddygaeth yng Nghymru.
Mrs Jenni McDonnell (BSc 1992) yw Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth y Rhwydwaith Gwybodaeth a Throsglwyddo ac mae wedi gweithio ers bron i ddegawd yn helpu miloedd o fusnesau i leihau allyriadau carbon trwy wella effeithlonrwydd thermol. Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i’r economi werdd.
Dr Claire Prosser (BSc 2008, DEdPsy 2020) yw Sylfaenydd Spectropolis, prosiect elusennol sydd wedi ymroi i helpu pobl awtistig, aelodau o’u teulu a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi. Dyfarnwyd BEM i Dr Prosser am ei gwasanaethau i blant ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, a’u teuluoedd.
Fe wnaeth Dr Elizabeth Davies (MSc 2017), Geriatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Morriston yng Nghymru gydnabod yn gynnar ar ddechrau’r pandemig y byddai angen cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol ar yr henoed. Fe weithiodd gyda’r Adran Achosion Brys i sefydlu uned a allai dderbyn cleifion oedrannus yn syth ar ôl brysbennu. Fe wnaeth hynny osgoi derbyn pobl yn ddiangen i’r ysbyty, lleihau amser aros a chysgodi pobl hŷn rhag cleifion eraill. Dyfarnwyd BEM i Dr Davies am ei gwasanaethau i’r GIG a chleifion hŷn yn ystod pandemig COVID-19.
Wrth dderbyn ei BEM, dywedodd: “Rwy’n falch iawn ac yn teimlo’n wylaidd fy mod wedi derbyn y wobr hon sy’n cydnabod nid yn unig fy ngwaith i, ond gwaith holl dîm Adran Gofal yr Henoed ac Achosion Brys Morriston.”
Mae Dr Jeremy Williams (PhD 2013) yn ganwr opera sydd wedi perfformio mwy na 60 o rolau operatig ac sydd wedi derbyn BEM am ei wasanaethau i gerddoriaeth a gwaith elusennol. Ac yn Adran Filwrol Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, dyfarnwyd statws Swyddog i Gaplan y Lluoedd (Dosbarth 1af), y Parchedig Andrew James MBE (MTh 2007).
Rydym mor falch o’n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a’u cyflawniadau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018